Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystâd rhywun sydd wedi marw: achyddion

Gwybodaeth am achyddion: pwy ydynt, beth maent yn ei wneud a pham y byddant, o bosib, yn cysylltu â chi.

Achyddion

Cwmnïau proffesiynol sy’n arbenigo mewn olrhain buddiolwyr ystad yw achyddion. Mae’n bosib y bydd achydd yn cysylltu â chi ar ôl iddo weld un o hysbysebion Cyfreithiwr y Trysorlys, sy’n cael eu cyhoeddi ar wefan Bona Vacantia ac mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol. Nid yw’r cwmnïau annibynnol hyn wedi cael eu cyfarwyddo gan Gyfreithiwr y Trysorlys, ac nid ydynt chwaith yn cynrychioli Cyfreithiwr y Trysorlys, ond yn aml byddant yn gwneud ymholiadau dros berthnasau gwaed rhywun sydd wedi marw. Eich dewis chi yw penderfynu defnyddio’u gwasanaethau ai peidio, ac ni all Cyfreithiwr y Trysorlys roi cyngor i chi.

Os ydych chi’n credu eich bod yn berthynas gwaed sydd â hawl, yna mae angen i chi gyflwyno eich enw, eich manylion cyswllt, eich hanes teuluol a manylion eich perthynas â'r unigolyn sydd wedi marw, gan ddefnyddio'r gwasanaeth chwilio 'A ydych chi'n berthynas sydd â hawl' drwy ddilyn y ddolen Bona Vacantia isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU