Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystâd rhywun sydd wedi marw: beth sy’n digwydd ar ôl i hawliad gael ei gyflwyno?

Gwybodaeth ynghylch beth sy’n digwydd ar ôl i chi gyflwyno hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys a pha ddogfennau y cewch ofyn amdanynt.

Beth sy’n digwydd nesaf i hawliad?

Ar ôl i chi gyflwyno hawliad, bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn cysylltu â chi er mwyn gofyn am goeden deulu syml i ddangos sut rydych yn perthyn i’r unigolyn sydd wedi marw.

Bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn edrych ar y goeden deulu i sicrhau eich bod yn perthyn i’r un teulu â'r unigolyn sydd wedi marw a'ch bod yn berthynas sydd â hawl.

Yna, bydd gofyn i chi anfon rhai o’r dogfennau canlynol, neu’r dogfennau i gyd, drwy bost cofnodedig:

  • dwy ddogfen adnabod gyfredol (dylai un prawf o bwy ydych chi ddangos eich enw a'ch dyddiad geni, megis cerdyn meddygol, tystysgrif geni wreiddiol, pasbort neu drwydded yrru, a bydd angen i’r ddogfen arall gael dyddiad o’r chwe mis diwethaf arni gan nodi eich enw a’ch cyfeiriad presennol, megis bil treth cyngor neu fil gwasanaethau, neu lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau)
  • tystysgrifau (geni a phriodas) angenrheidiol er mwyn dangos eich cysylltiad â’r unigolyn sydd wedi marw

Dylai pob tystysgrif geni fod yn gopïau llawn yn dangos enwau’r rhieni. Bydd llungopïau o dystysgrifau a phrawf o bwy ydych chi ddim ond yn ddilys os yw Ynad Heddwch neu gyfreithiwr wedi ardystio eu bod yn gopïau gwir o'r dogfennau gwreiddiol.

Cofiwch mai cyfrifoldeb yr hawliwr ydyw i fodloni Cyfreithiwr y Trysorlys fod ganddo hawl. Nid yw Cyfreithiwr y Trysorlys yn gallu darparu gwybodaeth fanwl ynghylch yr ystâd, yn benodol ynghylch yr asedau a’r rhwymedigaethau, nes ei fod wedi cael eich hawliad a chytuno arno.

Os nad oes gennych chi’r tystysgrifau i gyd, beth allwch chi ei wneud?

Os nad oes gennych chi’r tystysgrifau i gyd, gallwch eu cael gan y cofrestrydd genedigaethau, priodasau a marwolaethau lleol lle cynhaliwyd y digwyddiad, neu gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol briodol.

Delio â’ch hawliad

Ar ôl i Gyfreithiwr y Trysorlys gael y tystysgrifau, y prawf o bwy ydych chi a’r manylion personol i gyd, bydd yn ystyried eich hawliad. Cewch wybod os bydd eich hawliad wedi cael ei dderbyn neu a oes ar Gyfreithiwr y Trysorlys angen rhagor o ddogfennau neu wybodaeth (megis ffurflen gyfrifiad). Os nad ydych chi wedi clywed gan Gyfreithiwr y Trysorlys o fewn pedair wythnos, cysylltwch ag ef i sicrhau ei fod wedi cael y dogfennau i gyd.

Beth sy’n digwydd ar ôl i’r hawliad gael ei ganiatáu (ei dderbyn)

Os caiff eich hawliad ei ganiatáu, bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi y bydd y Trysorlys yn ildio'i ddiddordeb yn yr ystâd ac yn dychwelyd eich tystysgrifau a’r prawf o bwy ydych chi. Gofynnir i chi a ydych am weinyddu'r ystâd eich hun neu am gyfarwyddo cwmni o gyfreithwyr i weithredu drosoch.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch sut mae gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys, neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth ynghylch eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu ynghylch gofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, cysylltwch â ni.

Swyddfa Cyfreithiwr y Trysorlys (BV) / Treasury Solicitor’s Office (BV)

One Kemble Street
Llundain
WC2B 4TS

Ffôn. 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs.
020 7210 3104
E-bost:

bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU