Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystâd rhywun sydd wedi marw: pwy sy’n berthynas sydd â hawl?

Cyn gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystâd rhywun sydd wedi marw, mae angen i chi gael gwybod a oes gennych chi hawl i ran o’r ystad ai peidio.

Pwy sy’n berthnasau sydd â hawl?

Nid oes hawl gan bob perthynas gwaed sydd wedi goroesi’r unigolyn sydd wedi marw. Os nad oes ewyllys dilys i’r gwrthwyneb, partner priod neu bartner sifil yr unigolyn sydd wedi marw fydd â’r hawl gyntaf ar yr ystâd, yna’r plant. Mewn achos o ysgariad, nid oes gan y cynbartner priod hawl gyfreithiol. Fodd bynnag, ni fyddai'r ysgariad yn cael effaith ar hawliau unrhyw blant.

Os nad oes partner priod neu blentyn sydd yn dal yn fyw, rheol gyffredinol yw y byddai gan unrhyw un sy’n ddisgynnydd i nain neu daid/mam-gu tad-cu yr unigolyn sydd wedi marw hawl ar ran o’r ystad. Os ydych chi’n perthyn trwy briodas (os oedd yr unigolyn sydd wedi marw yn llystad, yn fam yng nghyfraith, yn frawd yng nghyfraith neu’n chwaer yng nghyfraith i chi, er efallai y bydd gan eich plant hawl yn yr achos olaf), nid oes gennych hawl gyfreithiol i ran o ystad yr unigolyn hwnnw.

Oes gan lysfrodyr neu lyschwiorydd hawl?

Gellir drysu rhwng perthynas hanner brawd a llysfrawd (neu lyschwaer) weithiau. Mae hanner brawd neu hanner chwaer yn rhannu rhiant cyffredin gyda’r unigolyn sydd wedi marw (mae'r rhiant wedi priodi ddwy waith ac wedi cael plentyn o'r ddwy briodas) ac mae ganddo/ganddi hawl ar ran o'r ystad. Nid yw llysfrawd yn rhannu rhiant cyffredin gyda’r unigolyn sydd wedi marw (mae un o rieni’r unigolyn wedi priodi rhywun sydd eisoes â phlentyn) felly nid oes ganddo hawl ar yr ystad.

Mae dryswch tebyg yn codi gyda’r diffiniad rhwng plentyn eich cefnder/cyfnither cyntaf (sydd â hawl ar ran o’r ystad) ac ail gefnder/cyfnither (sydd heb hawl ar ran o’r ystad).

Beth am blant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu os cafodd yr unigolyn sydd wedi marw ei fabwysiadu?

Mae gan unrhyw un sydd wedi cael ei fabwysiadu’n gyfreithiol dan Ddeddf Mabwysiadu Plant 1925 (neu’r Deddfau dilynol) yr un hawliau ag os byddai wedi cael ei eni i'w deulu mabwysiadol. Nid yw'n cadw hawliau'r teulu y cafodd ei eni iddynt yn wreiddiol. Yn yr un modd, os cafodd yr unigolyn sydd wedi marw ei fabwysiadu, yna dim ond ei deulu mabwysiadol sydd â’r hawliau hyn ar ei ystad os nad oes ewyllys ar gael. Gellir mabwysiadu’n gyfreithiol er 1927.

Os ydych chi’n ansicr a ydych chi’n berthynas sydd â hawl ai peidio

Er mwyn eich helpu, mae Cyfreithiwr y Trysorlys wedi llunio coeden deulu. Defnyddiwch y ddolen isod at goeden deulu mewn dogfen PDF i gael rhagor o wybodaeth. Dangosir y perthnasau sydd â hawl mewn ffont trwm, a dangosir y perthnasau nad oes ganddynt hawl mewn ffont arferol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU