Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys

Cyfreithiwr y Trysorlys sy'n delio ag ystadau diddyled pobl sy'n marw heb ewyllys ac nad oes ganddynt berthnasau gwaed y gwyddys bod ganddynt hawl i'r eiddo. Gall y wybodaeth ganlynol eich helpu i benderfynu a ydych am gyfeirio'r ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys.

Pryd i gyfeirio ystad

Cyn i chi ystyried cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys, gofynnwch y cwestiynau canlynol i'ch hun:

  • a wnaeth y person sydd wedi marw adael ewyllys dilys ac, os gwnaeth, alla'i gysylltu â'r ysgutor a'r buddiolwyr?
  • alla'i gysylltu'n rhwydd ag unrhyw berthnasau gwaed sydd â hawl i'r ystad?
  • ydy'r ystad yn ansolfent? (bydd yr ystad yn ansolfent os yw dyledion y sawl a fu farw'n fwy na gwerth ei asedau)

Os yw'r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hyn yn gadarnhaol, ni ddylech gyfeirio'r ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys, gan y bydd rhywun arall â hawl i ddelio â hi – perthynas, person a enwir yn yr ewyllys fel ysgutor neu fuddiolwr neu, os yw'r ystad yn ansolfent, credydwr.

Os mai 'na' yw'r ateb i'r cwestiynau hyn, gallwch naill ai lenwi'r ffurflen gyfeirio ar-lein neu ei llwytho oddi ar y we a'i dychwelyd drwy'r post i'r cyfeiriad isod.

Os nad ydych chi'n siŵr a ddylid cyfeirio'r ystad hon at Gyfreithiwr y Trysorlys, defnyddiwch y dolenni 'cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys' isod.

Anfonwch ffurflenni wedi'u llenwi at:

Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS

Ffôn 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs 020 7210 3104
E-bost: bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Anfon papurau a phethau gwerthfawr

Pan fyddwch yn anfon papurau a phethau gwerthfawr i Gyfreithiwr y Trysorlys, dilynwch y drefn isod i gynorthwyo gyda diogelwch a chludiant diogel:

  • dylid rhestru pob dogfen werthfawr megis gweithredoedd eiddo a thystysgrifau cyfranddaliadau, a'u hanfon drwy ddosbarthiad a gofnodwyd
  • dylech dorri cardiau credyd/debyd a chardiau siopau cyn eu hanfon, er mwyn osgoi twyll
  • dylid rhestru pob llyfr cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a'u hanfon drwy ddosbarthiad a gofnodwyd
  • peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post
  • gwnewch sieciau'n daladwy i Gyfreithiwr y Trysorlys, ac ysgrifennwch gyfeirnod yr achos ac enw'r sawl a fu farw ar y cefn
  • cadwch eich gemwaith yn rhywle diogel nes i Gyfreithiwr y Trysorlys anfon cyfarwyddiadau atoch am sut i gael gwared ag ef

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU