Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys: solfedd

Gwybodaeth ddefnyddiol am werth ystad a beth sydd angen i chi ei wneud cyn cysylltu â Chyfreithiwr y Trysorlys.

A yw'r ystad yn ansolfent?

Mae'r ystad yn ansolfent os yw'r unigolyn a fu farw wedi gadael mwy o ddyledion nag arian i'w talu. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid defnyddio unrhyw arian i dalu'r dyledion.

Treuliau angladd yw'r arwystl cyfreithiol cyntaf ar unrhyw ystad. Felly trefnydd yr angladd (neu, os yw'r bil wedi'i dalu gan rywun arall, y person sy'n gyfrifol am ei dalu) sy'n cael hawlio gyntaf. Dim ond ar ôl i'r bil hwn gael ei dalu y gall unrhyw un arall, gan gynnwys credydwyr eraill wneud cais am yr hyn sy'n ddyledus iddynt.

Ni ddylech gyfeirio ystadau ansolfent at Gyfreithiwr y Trysorlys. Ni fydd yn derbyn yr ystad gan na fydd dim byd iddo ei gasglu ar ôl i'r credydwyr gael eu talu.

Beth yw gwerth yr ystad?

Os mai dim ond yn solfent o ychydig y mae'r ystad, efallai na fydd yn ddarbodus i Gyfreithiwr y Trysorlys ymwneud â hi - gweler ystadau bach isod.

Ystadau bach

Pan fydd ystad ond yn cynnwys arian parod o £500 neu'n llai, gallwch gadw'r arian ac nid oes angen i chi gyfeirio'r achos at Gyfreithiwr y Trysorlys. Pan fydd ystad yn cynnwys gwarged arian parod dros £500 ond o dan £2,000, dylech gyfeirio'r achos ac anfon yr arian at gyfreithiwr y Trysorlys ar yr un pryd.

Ym mhob un o'r achosion bach hyn, bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn tybio nad ydych yn ymwybodol o unrhyw berthnasau â hawl ac i'r unigolyn farw heb Ewyllys. Ym mhob achos, bydd angen i Gyfreithiwr y Trysorlys gael o leiaf y wybodaeth ganlynol:

  • enw llawn a statws priodasol yr unigolyn a fu farw
  • union ddyddiad a lleoliad ei farwolaeth (ac, os mai cartref preswyl neu hostel yw hwn, dyddiad derbyn yr unigolyn a fu farw a'i gyfeiriad preifat diwethaf os cafodd ei dderbyn yn ddiweddar)
  • os bu farw'r unigolyn mewn cyfeiriad preifat neu os oedd wedi byw mewn un yn ddiweddar, cadarnhad bod y denantiaeth wedi dod i ben, nad oes unrhyw rent yn ddyledus a bod dodrefn ac eitemau personol wedi'u gwaredu

Os oes eitemau personol nad oes iddynt unrhyw werth gwerthadwy yn eich barn chi, gallwch eu gwaredu fel y mynnwch. Os oes gwerth gan rai ohonynt (gemwaith fel arfer) yn eich barn chi, gallwch drefnu i'w gwerthu drwy gwmni arwerthwyr lleol ag enw da.

Os oes gan ystad werth arian parod net o £500 ac eitemau personol sy'n ymddangos yn werthadwy, dylent gael eu gwerthu ac os bydd yr ystad net yn fwy na £500, dylech gyfeirio'r ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys.

Cysylltu

Os na fyddwch yn siŵr p'un a ddylid cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys ai peidio, neu os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch o ran eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu ofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, mae croeso i chi gysylltu.

Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS

Ffôn. 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs. 020 7210 3104
E-bost:
bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Sut i gyfeirio achos at Gyfreithiwr y Trysorlys

Os byddwch yn fodlon bod ystad yn un y dylid ei chyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys, gallwch naill ai lenwi'r ffurflen gyfeirio gan ddefnyddio'r ddolen i'r ffurflen hysbysu ynghylch unigolyn a fu farw isod neu ei lawrlwytho a'i dychwelyd i'r cyfeiriad uchod.

Anfon papurau ac eitemau gwerthfawr

Pan fyddwch yn anfon papurau ac eitemau gwerthfawr at Gyfreithiwr y Trysorlys, dylech ddilyn y gweithdrefnau isod er diogelwch a chludiant diogel:

  • dylid cofrestru pob dogfen werthfawr fel gweithredoedd eiddo a thystysgrifau cyfranddaliadau a'u postio drwy wasanaeth 'recorded delivery'
  • dylid torri cardiau credyd/debyd a chardiau siopau cyn eu postio, er mwyn osgoi twyll
  • dylid cofrestru paslyfrau banciau neu gymdeithasau adeiladu a'u postio drwy wasanaeth 'recorded delivery'
  • peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post
  • gwnewch sieciau'n daladwy i Gyfreithiwr y Trysorlys, a nodwch gyfeirnod yr achos ac enw'r sawl a fu farw ar gefn y siec
  • dylid cadw gemwaith mewn man diogel tan i Gyfreithiwr y Trysorlys anfon cyfarwyddiadau atoch ar sut i gael gwared arno

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU