Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyfeirio Ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys: perthnasau â hawl

Canllawiau ar y perthnasau sydd â hawl i ystad a'r hyn y bydd angen i chi ei wneud o ran cysylltu â pherthnasau eraill cyn cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys.

Cysylltu â pherthnasau sydd â hawl - faint o ymdrech y disgwylir i chi ei wneud?

Efallai y byddwch yn bwriadu rhoi gwybod am farwolaeth i Gyfreithiwr y Trysorlys am fod gennych asedau neu eiddo personol neu am eich bod am wneud hawliad yn erbyn yr ystad. Os felly, yn gyntaf dylech wneud 'ymholiadau rhesymol' i ganfod a yw'r sawl a fu farw wedi gadael ewyllys ai peidio neu a oes ganddo berthnasau â hawl.

Cyn cysylltu â Chyfreithiwr y Trysorlys, disgwylir eich bod wedi ysgrifennu i gyfeiriad unrhyw berthynas posibl rydych wedi dod o hyd iddo, naill ai yn eich papurau chi neu drwy fwrw golwg sydyn dros bapurau'r sawl a fu farw sydd ar gael i chi. Mae dyddiadur neu lyfr cyfeiriadau yn ffynhonnell dda o wybodaeth, a allai gynnwys cofnodion yn enw'r sawl a fu farw cyn iddi briodi, os mai gwraig briod ydoedd.

Os ydych yn gyfrifol am drefnu'r angladd a'ch bod yn ysgrifennu at berthnasau drwy briodas (nad oes ganddynt hawl eu hunain) neu at ffrindiau'r sawl a fu farw, gallech ofyn iddynt am help i olrhain ewyllys neu unrhyw berthnasau â hawl.

Nid oes angen i chi wneud ymholiadau helaeth. Os byddwch yn ysgrifennu at berthynas posibl heb dderbyn ateb, byddai Cyfreithiwr y Trysorlys wedyn yn gyfrifol am wneud unrhyw ymholiadau pellach a allai fod eu hangen.

Pwy yw'r perthnasau sydd â hawl?

Oni fydd ewyllys ddilys i'r gwrthwyneb, gŵr neu wraig y sawl a fu farw, ei bartner sifil ac wedyn unrhyw blant fyddai â'r hawl gyntaf ar yr ystad. Os bydd priodas neu bartneriaeth sifil wedi dod i ben drwy ysgariad, ni fydd gan y cyn-briod neu'r cynbartner sifil hawl gyfreithiol mwyach ond ni fyddai'r ysgariad yn effeithio ar hawliau unrhyw blant.

Os na fydd priod, partner sifil neu blentyn sy'n fyw, fel rheol byddai gan unrhyw un o linach nain neu daid y sawl a fu farw hawl i gyfran o'r ystad.

I gael help o ran gwybod pwy yw'r perthnasau sydd â hawl a'r rhai nad oes ganddynt hawl, cliciwch ar y ddolen 'siart achau' isod sy'n dangos pawb sydd â hawl mewn print trwm.

Help gyda'r siart achau

Mae'r siart achau yn egluro, er enghraifft, y gwahaniaeth rhwng plant eich cefndryd neu gefndryd eich rhieni ("first cousin once removed") (sydd â hawl) a'ch cyfyrderon neu gyfyrderesau ("second cousin") (nad oes ganddynt hawl): weithiau mae pobl yn drysu rhwng y ddau.

Ceir dryswch hefyd gyda hanner brawd (neu hanner chwaer) a llysfrawd (neu lyschwaer) Mae gan hanner brawd un rhiant cyffredin â'r sawl a fu farw (mae'r rhiant hwnnw wedi priodi ddwywaith ac wedi cael plentyn drwy'r ddwy briodas) ac mae ganddo hawl. Nid oes gan lysfrawd un rhiant cyffredin â'r sawl a fu farw (mae un o rieni'r sawl a fu farw wedi priodi rhywun yr oedd plentyn ganddo eisoes) ac nid oes ganddo hawl.

Mae gan y rhai sydd wedi'u mabwysiadu'n gyfreithiol o dan Ddeddf Mabwysiadu Plant 1925 (neu Ddeddfau dilynol) yr un hawliau â phe baent wedi'u geni'n aelodau o'u teulu mabwysiadol. Ond nid oes ganddynt unrhyw hawliau mewn perthynas â'r teulu y cawsant eu geni iddo yn wreiddiol.

Noder: dim ond ystadau pobl nad oes unrhyw berthnasau drwy waed wedi goroesi y gall Cyfreithiwr y Trysorlys eu gweinyddu.

Ni all Cyfreithiwr y Trysorlys weithredu yn yr achosion canlynol:

  • os byddwch yn dod o hyd i berthynas â hawl nad yw'n fodlon neu nad yw'n gallu ymdrin â'r gwaith o weinyddu'r ystad
  • os byddwch yn dod o hyd i berthynas â hawl ond wedyn yn colli cysylltiad â'r unigolyn hwnnw, neu'n clywed ei fod wedi marw

Os bydd cadarnhad bod perthynas drwy waed sydd â hawl wedi goroesi'r sawl a fu farw, ni fydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn gallu ymgymryd â'r achos, hyd yn oed os bydd y perthynas yn marw, yn diflannu neu'n gwrthod gweithredu. Dim ond awgrymu eich bod yn cael cyngor gan eich cynghorwyr cyfreithiol eich hun y gall Cyfreithiwr y Trysorlys ei wneud.

Cysylltu

Os na fyddwch yn siŵr p'un a ddylid cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys ai peidio, neu os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch o ran eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu ofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, mae croeso i chi gysylltu:

Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS

Ffôn. 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs. 020 7210 3104
E-bost: bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Sut i gyfeirio achos at Gyfreithiwr y Trysorlys

Os byddwch yn fodlon bod ystad yn un y dylid ei chyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys, gallwch naill ai lenwi'r ffurflen gyfeirio gan ddefnyddio'r ddolen i'r ffurflen hysbysu ynghylch unigolyn a fu farw isod neu ei lawrlwytho a'i dychwelyd i'r cyfeiriad uchod.

Anfon papurau ac eitemau gwerthfawr

Pan fyddwch yn anfon papurau ac eitemau gwerthfawr at Gyfreithiwr y Trysorlys, dylech ddilyn y gweithdrefnau isod er diogelwch a chludiant diogel:

  • dylid cofrestru pob dogfen werthfawr fel gweithredoedd eiddo a thystysgrifau cyfranddaliadau a'u postio drwy wasanaeth 'recorded delivery'
  • dylid torri cardiau credyd/debyd a chardiau siopau cyn eu postio, er mwyn osgoi twyll
  • dylid cofrestru paslyfrau banciau neu gymdeithasau adeiladu a'u postio drwy wasanaeth 'recorded delivery'
  • peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post
  • gwnewch sieciau'n daladwy i Gyfreithiwr y Trysorlys, a nodwch gyfeirnod yr achos ac enw'r sawl a fu farw ar gefn y siec

dylid cadw gemwaith mewn man diogel tan i Gyfreithiwr y Trysorlys anfon cyfarwyddiadau atoch ar sut i gael gwared arno

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU