Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys, efallai y bydd angen i chi gadarnhau a yw ewyllys yn ddilys ac a allwch gysylltu â'r ysgutorion (person neu bersonau sy'n gweithredu telerau'r ewyllys) neu'r buddiolwyr (person neu bersonau sy'n cael arian, eiddo neu fudd arall o'r ewyllys).
Caiff ewyllys ei derbyn yn ewyllys ddilys:
Nid oes angen iddi:
Os oes gennych ewyllys sy'n ymddangos yn ddilys, dylech ysgrifennu at yr ysgutor yn rhoi gwybod iddo am farwolaeth y person ac yn gofyn iddo ymdrin â'r gwaith o weinyddu'r ystad.
Os na chewch ymateb a bod rhywun arall yn cael ei enwi'n fuddiolwr, dylech ysgrifennu ato i esbonio beth sydd wedi digwydd, gan awgrymu y dylai gysylltu â'r Gofrestrfa Brofiant. Pan na chaiff ysgutor ei enwi, dylech ysgrifennu'n uniongyrchol at y buddiolwr.
Lle bo ewyllys ddilys a pherthynas â hawl, yr ewyllys sy'n cael blaenoriaeth.
Efallai nad oes gennych yr ewyllys ond credwch fod un ar gael (efallai oherwydd bod nodyn ymhlith papurau'r unigolyn a fu farw yn awgrymu bod yr ewyllys yn cael ei chadw gan gwmni cyfreithwyr neu fanc). Yn yr achos hwn, dylech ysgrifennu at bwy bynnag a all fod â'r ewyllys, gan ofyn iddo roi manylion marwolaeth y person i'r ysgutor.
Os oes gennych unrhyw asedau neu os oes gennych hawliad yn erbyn yr ystad eich hun, mae'n syniad da gofyn am enw a chyfeiriad yr ysgutor fel y gallwch fwrw ymlaen â'r mater.
Ni fydd bob amser yn bosibl i chi gysylltu â'r bobl a enwir yn yr ewyllys. Os yw'n hen, er enghraifft, efallai y byddant wedi symud i ffwrdd o'r cyfeiriad a nodir neu wedi marw. Mae pobl yn aml yn gwneud ewyllys yn enwi un person yn ysgutor a'r unig fuddiolwr ac yna'n anghofio creu un newydd os bydd y person hwnnw'n marw.
Yn yr achosion hyn, hyd yn oed os yw'r ewyllys yn gyfreithiol ddilys o bosibl, ni all dymuniadau'r unigolyn a fu farw gael eu gweithredu, felly dylech barhau fel petai nad oes ewyllys o gwbl. Ond os caiff yr ystad ei chyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys, dylech anfon yr ewyllys i Gyfreithiwr y Trysorlys os oes gennych yr ewyllys.
Os na fyddwch yn siŵr p'un a ddylid cyfeirio ystad at Gyfreithiwr y Trysorlys ai peidio, neu os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch o ran eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu ofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, mae croeso i chi gysylltu.
Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS
Ffôn. 020 7210 3116/3117
Ffacs. 020 7210 3104
E-bost:
Os byddwch yn fodlon bod ystad yn un y dylid ei chyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys, gallwch naill ai lenwi'r ffurflen gyfeirio gan ddefnyddio'r ddolen i'r ffurflen hysbysu ynghylch unigolyn a fu farw isod neu ei lawrlwytho a'i dychwelyd i'r cyfeiriad uchod.
Pan fyddwch yn anfon papurau ac eitemau gwerthfawr at Gyfreithiwr y Trysorlys, dylech ddilyn y gweithdrefnau isod er diogelwch a chludiant diogel: