Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau a grantiau dewisol cwmnïau ac ystadau

Efallai y bydd gennych hawl i gael taliad dewisol o asedau cwmni sydd wedi'i ddiddymu neu grant o ystad person sydd wedi marw gan Gyfreithiwr y Trysorlys.

Sut mae taliadau dewisol cwmnïau ac ystadau yn gweithio

Cyfreithiwr y Trysorlys sy'n gweinyddu ystadau pobl sy'n marw heb wneud ewyllys ac nad oes ganddynt berthnasau gwaed sydd â'r hawl i'w heiddo. Cyfreithiwr y Trysorlys sy'n casglu asedau cwmnïau sydd wedi'u diddymu hefyd. Dan rai amgylchiadau gall Cyfreithiwr y Trysorlys wneud taliad neu grant dewisol i bobl fel cyn gyfranddeiliaid ac i bobl y byddai'n rhesymol tybio y byddai'r ymadawedig wedi disgwyl iddynt elwa o'u hystad.

Gallwch wneud cais i Gyfreithiwr y Trysorlys gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Taliadau dewisol - cwmnïau wedi'u diddymu

Pan fydd modd adfer cwmni, gall Cyfreithiwr y Trysorlys ddefnyddio asedau ariannol y cwmni a ddiddymwyd i wneud taliadau i gyn-aelodau. Mewn achosion lle gellir adfer cwmni, £3,000 yw'r taliad mwyaf, er nad yw hyn yn berthnasol i gwmnïau na ellir eu hadfer yn gyfreithiol lle mae gwahanol reolau'n berthnasol. Gellir dod o hyd i arweiniad pellach ar daliadau dewisol drwy ddefnyddio canllawiau Cyfreithiwr y Trysorlys isod.

Os hoffech wneud cais am daliad dewisol, defnyddiwch y ddolen 'ffurflen hysbysu ynghylch cwmni a ddiddymwyd' isod a chadarnhewch y canlynol:

  • enw llawn y cwmni
  • rhif cofrestru’r cwmni
  • enw a chyfeiriad y banc lle cedwir y cyfrif
  • rhif y cyfrif banc a'r cod didoli

Neu gallwch ysgrifennu at Gyfreithiwr y Trysorlys drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Dyledion a rhwymedigaethau

Nid yw Cyfreithiwr y Trysorlys yn gallu gwneud taliadau dewisol i gredydwyr. Nid yw Cyfreithiwr y Trysorlys yn 'camu i esgidiau' cwmni sydd wedi'i ddiddymu ac nid yw'n gyfrifol am ddyledion y cwmni nac am unrhyw rwymedigaethau eraill a oedd gan y cwmni. Os ydych yn un o gredydwyr cwmni a ddiddymwyd ac y mae Cyfreithiwr y Trysorlys yn dal ei asedau, bydd angen adfer y cwmni i chi fynd ymlaen â'ch hawliad.

Grant dewisol - ystadau pobl sydd wedi marw

Gall y Goron wneud grantiau o asedau ystad pobl sydd wedi marw heb adael ewyllys ac nad oes ganddynt berthnasau gwaed y gwyddys bod ganddynt hawl i'r ystad. Mae'r pŵer hwn wedi'i gofnodi yn Adran 46 y Ddeddf Gweinyddiad Ystadau, sy'n nodi y 'caiff' y Goron wneud darpariaethau ar gyfer 'dibynyddion' yr ymadawedig ac ar gyfer 'pobl eraill y byddai'n rhesymol tybio y byddai'r ymadawedig wedi darparu ar eu cyfer'. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth a yw'r dibynyddion yn perthyn i'r ymadawedig ai peidio. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'r Goron wneud y taliadau hyn. Gellir 'dewis' defnyddio'r pŵer hwn, ac fe'i defnyddir yn deg. Nid oes gan yr un ymgeisydd hawl i grant.

I gael arweiniad ar grantiau dewisol, defnyddiwch y ddolen isod, 'Canllawiau Cyfreithiwr y Trysorlys', ac edrychwch dan 'ystadau'. Dylid anfon ceisiadau am grantiau neu daliadau dewisol ar gyfer cwmnïau ac ystadau ymlaen at Gyfreithiwr y Trysorlys drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Cysylltwch â ni

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu ofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS

Ffôn 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs 020 7210 3104
E-bost: bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU