Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfeirio ased cwmni sydd wedi'i ddiddymu at Gyfreithiwr y Trysorlys

Ceir nifer o resymau pam y gallai fod angen i chi gyfeirio ased cwmni sydd wedi'i ddiddymu at Gyfreithiwr y Trysorlys. Efallai fod cau cwmni (diddymu) wedi effeithio arnoch yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, neu efallai yr hoffech brynu ased gan Gyfreithiwr y Trysorlys a fu gynt yn eiddo i gwmni a ddiddymwyd.

Rhesymau dros gyfeirio

Gall rhesymau dros gyfeirio ased cwmni sydd wedi'i ddiddymu gynnwys y canlynol:

  • eich bod yn brydlesai ac mai'r cwmni a ddiddymwyd oedd yn berchen eich rhydd-ddaliad
  • eich bod yn dymuno prynu tir a oedd yn eiddo i'r cwmni a ddiddymwyd
  • bod tir a oedd yn eiddo i'r cwmni a ddiddymwyd yn effeithio arnoch yn anffafriol
  • bod gennych forgais neu gost ar eich eiddo sy'n ffafrio'r cwmni a ddiddymwyd
  • eich bod yn dymuno asedau eraill a oedd yn eiddo i'r cwmni a ddiddymwyd megis cyfranddaliadau, nodau masnach neu hawlfreintiau
  • eich bod yn gyfranddaliwr sy'n ceisio adennill arian a gedwir gan y cwmni a ddiddymwyd

Os yw unrhyw un o'r rhesymau hyn yn berthnasol, neu os hoffech roi gwybod i Gyfreithiwr y Trysorlys am ased, gallwch gyfeirio ased cwmni a ddiddymwyd at Gyfreithiwr y Trysorlys drwy lenwi'r ffurflen gyfeirio ar-lein 'Ffurflen hysbysu ynghylch cwmni a ddiddymwyd' drwy ddefnyddio'r ddolen isod. Bydd gofyn i chi gadarnhau'r canlynol:

  • eich manylion cyswllt
  • enw llawn y cwmni
  • rhif cofrestru’r cwmni
  • manylion ynglŷn â'r ased

Neu gallwch ysgrifennu at Gyfreithiwr y Trysorlys i gadarnhau'r wybodaeth uchod.

Cysylltwch â ni

Os oes angen mwy o gyfarwyddyd arnoch, neu os oes gennych unrhyw amheuaeth, defnyddiwch y dolenni at 'Ganllawiau Cyfreithiwr y Trysorlys' isod.

Neu gallwch gysylltu â Chyfreithiwr y Trysorlys drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS

Ffôn 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs 020 7210 3104
E-bost:
bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU