Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bona vacantia a Chyfreithiwr y Trysorlys

Efallai y bydd gennych hawl i ystad perthynas i chi sydd wedi marw os yw'r ystad, dan y gyfraith, wedi'i throsglwyddo i'r Goron. Os bydd cwmni'n cael ei gau (ei ddiddymu), gallai hynny effeithio arnoch hefyd. Yma, cewch wybod sut mae cyfeirio ystad neu ased cwmni sydd wedi'i ddiddymu at Gyfreithiwr y Trysorlys a sut mae gwneud hawliad os ydych chi'n berthynas sydd â hawl i'r ystad.

Ynglŷn â bona vacantia

Ystyr bona vacantia yw 'nwyddau gwag' a dyma'r term cyfreithiol am eiddo nad oes neb yn berchen arno sy'n cael ei drosglwyddo i'r Goron dan y gyfraith. Mae hawl 'bona vacantia' yn seiliedig ar ddwy ddeddf:

  • Deddf Gweinyddiad Ystadau 1925
  • Deddf Cwmnïau 1985

Pwy sy'n cynrychioli'r Goron mewn materion bona vacantia

Cyfreithiwr y Trysorlys sy'n cynrychioli'r Goron pan fydd angen delio ag ystadau unigolion sy'n marw heb adael ewyllys ac nad oes ganddynt berthnasau y gwyddys bod ganddynt hawl i'r eiddo. Mae Cyfreithiwr y Trysorlys hefyd yn ymgymryd â'r rôl hon ar gyfer casglu asedau cwmnïau sydd wedi'u diddymu ac achosion bona vacantia eraill yng Nghymru a Lloegr.

Am ragor o wybodaeth am waith cyffredinol Cyfreithiwr y Trysorlys, dilynwch y ddolen isod.

Y Grŵp Ystadau a Chyfreithiwr y Trysorlys

Grŵp Ystadau'r adran bona vacantia sy'n delio â phobl sy'n marw heb adael ewyllys ac nad oes ganddynt deulu sydd â'r hawl i'w heiddo. Os oedd cyfeiriad parhaol diwethaf yr ymadawedig yng Nghymru neu yn Lloegr, ac eithrio yn Nugiaethau Cernyw a Chaerhirfryn, Cyfreithiwr y Trysorlys yw enwebai'r Goron ar gyfer delio â'r ystad.

Dim ond gydag ystadau solfent sy'n gadael balans net o £500 neu uwch y bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn delio. Bydd yn ymdrin â'r asedau i gyd, gan gynnwys cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu, yswiriant bywyd neu eiddo; mewn gwirionedd, unrhyw beth sy'n gallu bod yn eiddo i rywun adeg y farwolaeth.

Hysbysebion a hawliadau

Mae Cyfreithiwr y Trysorlys yn gwneud ymholiadau ar gyfer teuluoedd sydd â hawl i eiddo'r ymadawedig. Os na fydd hyn yn gweithio, efallai y rhoddir hysbysebion ar y we ac mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol. Rhaid i bobl sy'n ateb hysbysebion ddarparu tystiolaeth o'u perthynas waed â'r ymadawedig, fel arfer drwy dystysgrifau geni, priodi a marwolaeth, ynghyd â thystiolaeth o bwy ydyn nhw.

Mae'n bosib y gofynnir i chi hefyd am dystiolaeth eich bod yn adnabod yr ymadawedig. Os gellir olrhain teulu sydd â hawl i'r eiddo, ni fydd gan Gyfreithiwr y Trysorlys unrhyw fudd yn yr ystad ac ni fydd yn ymwneud â'r achos rhagor.

Y Grŵp Cwmnïau a Chyfreithiwr y Trysorlys

Mae Grŵp Cwmnïau'r adran bona vacantia yn delio â'r eiddo ac â'r hawliau a oedd yn eiddo buddiannol i gwmnïau.

Pan fydd cwmni'n cael ei ddiddymu, trosglwyddir ei asedau i'r Goron yn unol ag Adran 654 Deddf Cwmnïau 1985. Os oedd swyddfa gofrestredig olaf y cwmni a ddiddymwyd yng Nghymru neu yn Lloegr, ac eithrio yn Nugiaethau Caerhirfryn neu Gernyw, Cyfreithiwr y Trysorlys yw enwebai'r Goron ar gyfer delio ag asedau o'r fath.

Cyfreithiwr y Trysorlys sy'n delio ag unrhyw asedau a oedd gan gwmni adeg ei ddiddymu, ond fel arfer mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn canolbwyntio ar falansau arian, eiddo rhydd-ddaliadol ac eiddo prydles, nodau masnach, hawlfraint a morgeisi.

Beth nad yw Cyfreithiwr y Trysorlys yn delio ag ef

Nid yw Cyfreithiwr y Trysorlys yn delio ag achosion bona vacantia yn Nugiaethau Cernyw na Chaerhirfryn; Farrer and Co fydd yn delio â hyn yn y lleoedd hynny. Yng Ngogledd Iwerddon, delir â'r materion hyn gan Gyfreithiwr y Goron, fel enwebai Cyfreithiwr y Trysorlys. Yn yr Alban, gweinyddir bona vacantia gan Gofiadur Dyledion yr Arglwydd Drysorydd a'r Frenhines.

Isod, gellir dod o hyd i'r holl ddolenni ar gyfer yr uchod. Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa Cyfreithiwr y Goron yng Ngogledd Iwerddon:

Crown Solicitor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JY

Dyledion a rhwymedigaethau

Nid yw Cyfreithiwr y Trysorlys yn 'camu i esgidiau' cwmni sydd wedi'i ddiddymu ac nid yw'n gyfrifol am ddyledion y cwmni nac am unrhyw rwymedigaethau eraill a oedd gan y cwmni. Os ydych yn un o gredydwyr cwmni a ddiddymwyd ac y mae Cyfreithiwr y Trysorlys yn dal ei asedau, bydd angen adfer y cwmni i chi fynd ymlaen â'ch hawliad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU