Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canslo neu derfynu cyfrifoldeb dirprwy

Mae llawer o amgylchiadau lle gall pwerau dirprwy gael eu terfynu. Gall fod yn benderfyniad gan y dirprwy, y Llys Gwarchod neu'r unigolyn y mae angen rhywun arno i weithredu ar ei ran. Mynnwch wybod sut y gall rôl dirprwy ddod i ben.

Os bydd yr unigolyn â diffyg galluedd meddyliol yn gwella

Os bydd yr unigolyn yn gwella digon i wneud ei benderfyniadau ei hun, bydd gorchymyn y dirprwy yn parhau mewn grym oni bai:

  • y daw gorchymyn y dirprwy i ben
  • bod y llys yn gwneud gorchymyn sy'n terfynu penodiad y dirprwy

Bydd y llys yn gwneud gorchymyn os bydd yn fodlon y gall yr unigolyn wneud ei benderfyniadau ei hun eto. Os ydych wedi cael eich penodi'n ddirprwy, bydd y gorchymyn llys hwn yn dweud wrthych fod eich rôl bellach wedi dod i ben.

Beth fydd yn digwydd pan ddaw'r gorchymyn llys i ben

Bydd rhai gorchmynion llys yn cynnwys terfyn amser, sy'n golygu na fyddant yn gymwys ar ôl dyddiad penodol. Pan ddaw'r gorchymyn llys i ben, ni fydd gan y dirprwy unrhyw bwerau na chyfrifoldebau mwyach.

Os oes angen i rywun wneud penderfyniadau o hyd ar ran yr unigolyn â diffyg galluedd ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen gwneud cais newydd i'r Llys Gwarchod.

Os cawsoch eich penodi'n ddirprwy a'ch bod am barhau â'ch rôl, gallwch wneud cais i'r Llys Gwarchod. Gallwch hefyd wneud cais os ydych am enwebu rhywun arall (gyda'u cydsyniad) ar gyfer rôl dirprwy.

Beth y dylech ei wneud os bydd yr unigolyn â diffyg galluedd yn marw

Os bydd yr unigolyn â diffyg galluedd yn marw a'ch bod wedi bod yn gweithredu fel dirprwy, ni fydd gennych unrhyw gyfrifoldebau mwyach. Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar unwaith os yw'r unigolyn rydych yn gweithredu ar ei ran wedi marw.

Efallai y bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn i chi lunio adroddiad terfynol ar eich gweithgarwch a'ch trafodion ariannol fel dirprwy.

Os oedd gan yr unigolyn sydd wedi marw unrhyw arian a gedwid yn Swyddfa Cronfeydd y Llys, rhaid i'w gynrychiolwyr cyfreithiol gysylltu'n uniongyrchol â Swyddfa Cronfeydd y Llys.

Beth sy’n digwydd os bydd y dirprwy'n marw

Os bydd y dirprwy'n marw, dylai ei gynrychiolwyr cyfreithiol hysbysu Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar unwaith.

Os oes angen i ddirprwy wneud penderfyniadau o hyd ar ran yr unigolyn â diffyg galluedd, yna bydd angen gwneud cais newydd i'r Llys Gwarchod.

Os nad yw'r dirprwy yn gallu neu'n dymuno parhau

Os ydych yn ddirprwy ac nad ydych yn dymuno parhau â'ch rôl, neu nad ydych yn gallu parhau i'w chyflawni, bydd angen i chi wneud cais i'r Llys Gwarchod. Bydd yn canslo'r gorchymyn ac ni fydd gennych unrhyw gyfrifoldebau mwyach.

Os oes angen dirprwy i wneud penderfyniadau o hyd, dylech geisio dod o hyd i rywun i weithredu yn eich lle. Efallai na fydd y llys yn eich rhyddhau o'ch rôl fel dirprwy os nad oes rhywun arall a all gymryd eich cyfrifoldebau. Os na ellir dod o hyd i rywun i weithredu yn eich lle, gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy panel o banel cymeradwy.

Mae ffioedd ynghlwm wrth benodi dirprwy panel. Bydd yn rhaid talu'r rhain gan ddefnyddio arian yr unigolyn y bydd y dirprwy'n gweithredu ar ei ran.

Os bydd y llys yn rhyddhau'r dirprwy

Mae rhesymau gwahanol pam y gallai'r Llys Gwarchod wneud gorchymyn i derfynu rôl dirprwy.

Os mai chi yw'r dirprwy, efallai y byddwch wedi gwneud cais am hyn neu efallai y bydd y llys wedi penderfynu nad ydych wedi cyflawni eich dyletswyddau'n gywir. Gallai'r rhesymau am hyn gynnwys peidio â gweithredu er budd yr unigolyn.

Efallai y bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn i chi lunio adroddiad terfynol ar eich gweithgarwch a'ch trafodion ariannol fel dirprwy ar ôl i chi gael eich rhyddhau.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU