Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pryderon am atwrnai, dirprwy neu benderfyniad a wneir ar ran rhywun arall

Mae'n rhaid i atwrnai neu ddirprwy sydd wedi'i benodi i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall wneud y penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'r unigolyn hwnnw. Mynnwch wybod beth y gallwch ei wneud os ydych yn poeni nad yw atwrnai neu ddirprwy yn cyflawni ei rôl yn briodol.

Sut i roi gwybod am eich pryderon ynghylch atwrnai neu ddirprwy

Gellir penodi atwrneiod a dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran rhywun pan na all wneud hynny ei hun. Os ydych yn pryderu am atwrnai neu ddirprwy, dylech gysylltu ag Uned Cydymffurfiaeth a Rheoleiddio Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae gan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau bod atwrneiod a dirprwyon yn gweithredu ar ran rhywun arall yn briodol.

Mae llinell ffôn ar gyfer rhoi gwybod am bryderon: 0115 934 2777.

Gellir mynegi pryderon ynghylch dirprwy yn ystod y cais hefyd. Cysylltir â ffrindiau a theulu agos yr unigolyn y mae angen dirprwy arno a rhoddir gwybod am benodiad y dirprwy. Yna gallant fynegi eu gwrthwynebiadau os oes ganddynt rai.

Ar gyfer Atwrneiaeth Barhaus, gall perthnasau agos fynegi eu gwrthwynebiadau os oes ganddynt rai.

Ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol, gall yr unigolion a enwir ar y ffurflenni sydd i'w hysbysu o'r cais fynegi gwrthwynebiadau.

Sut y gall penderfyniadau atwrneiod a dirprwyon beri pryder

Ymhlith y materion y gallech fod yn pryderu amdanynt mewn perthynas â dirprwy neu atwrnai mae:

  • camddefnyddio arian neu faterion ariannol eraill
  • peidio â gweithredu yn y ffordd sydd orau i'r unigolyn
  • gwneud penderfyniadau gwael sy'n effeithio ar yr unigolyn y mae'n gyfrifol amdano
  • gweithgarwch troseddol

Os ydych o'r farn bod dirprwy neu atwrnai yn cam-drin rhywun y mae'n gyfrifol amdano yn gorfforol neu'n rhywiol, cysylltwch â'r heddlu ar unwaith drwy ffonio 999.

Os nad yw'r unigolyn mewn perygl dybryd ond bod yr atwrnai neu'r dirprwy wedi cyflawni trosedd, cysylltwch â'ch heddlu lleol.

Sut yr ymchwilir i ddirprwyon ac atwrneiod

Gall Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i weithredoedd dirprwy neu atwrnai. Gall hefyd gyfeirio pryderon at sefydliadau eraill, fel yr heddlu neu awdurdod lleol.

Bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sicrhau y caiff wybod am unrhyw gynnydd a wneir gan ymchwiliad sefydliad arall.

Gall Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd wneud cais i'r Llys Gwarchod os oes angen iddi gymryd camau yn erbyn yr atwrnai neu'r dirprwy. Gall y Llys Gwarchod wneud penderfyniadau ar ran pobl na allant wneud hynny drostynt eu hunain. Gall hefyd benodi rhywun arall i wneud y penderfyniadau hynny.

Camau gweithredu y gellir eu cymryd yn erbyn atwrnai neu ddirprwy

Mae camau gweithredu amrywiol y gall Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu cymryd yn erbyn atwrnai neu ddirprwy os oes angen iddi wneud hynny. Gall y rhain gynnwys:

  • archebu adroddiad gan un o ymwelwyr y Llys Gwarchod, grŵp lleol, awdurdod neu'r GIG
  • rhoi cyfarwyddiadau pellach i'r atwrnai neu'r dirprwy ynghylch sut y dylai fod yn arddel ei bwerau a'i gyfrifoldebau
  • cyfarwyddo atwrnai neu ddirprwy i roi adroddiad ar y sefyllfa

Ymhlith y camau gweithredu y gall y Llys Gwarchod eu cymryd mae:

  • symud y dirprwy neu'r atwrnai o'i rôl a phenodi rhywun arall yn ddirprwy os bydd angen
  • atal pwerau atwrnai neu ddirprwy

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut y gellir canslo cyfrifoldebau dirprwy.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU