Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i wrthwynebu cofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Pan fydd rhywun yn gwneud cais i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol, efallai y ceir gwrthwynebiadau i'r cais iddo gael cyfrifoldeb am faterion personol rhywun arall. Mynnwch wybod a allwch wrthwynebu Atwrneiaeth Arhosol a sut i wneud hynny.

Beth yw Atwrneiaeth Arhosol

Term cyfreithiol yw Atwrneiaeth Arhosol sy'n golygu y gall rhywun wneud penderfyniadau am gyllid a lles rhywun arall. Gall y cyfrifoldeb hwn gael ei roi iddo os na fydd rhywun yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun.

Pwy all wrthwynebu Atwrneiaeth Arhosol?

Mae cyfnod o chwe wythnos er mwyn caniatáu ar gyfer gwrthwynebiadau i Atwrneiaeth Arhosol

Dim ond y bobl ganlynol all wrthwynebu Atwrneiaeth Arhosol:

  • y rhoddwr (yr unigolyn y mae angen rhywun arno i wneud penderfyniadau ar ei ran)
  • yr unigolion a enwir (y bobl a enwir yn yr Atwrneiaeth Arhosol sy'n cael gwybod am y cais)
  • y bobl a fydd yn cael y pŵer i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall (yr atwrneiod)

Bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu'r Llys Gwarchod yn cysylltu â chi os oes gennych yr hawl i wrthwynebu. Bydd yn dweud wrthych sut y gallwch wrthwynebu.

Mae cyfnod o chwe wythnos er mwyn galluogi rhywun i wrthwynebu cofrestru Atwrneiaeth Arhosol.

Gallwch lawrlwytho ffurflenni i wrthwynebu cofrestru Atwrneiaeth Arhosol o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Gall wrthwynebiad i Atwrneiaeth Arhosol gael ei wneud am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn credu y bydd yr atwrneiaeth yn gwneud y penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’r unigolyn hwnnw.

Os mai chi yw’r rhoddwr, nid oes angen unrhyw reswm penodol neu dystiolaeth arnoch i wrthwynebu.

Pryd i gyflwyno gwrthwynebiad i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Gallwch wneud cais i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gwrthwynebu cofrestru Atwrneiaeth Arhosol. Gallai'r canlynol fod ymhlith y rhesymau dros wneud hyn:

  • caiff y rhoddwr ei ddatgan yn fethdalwr (ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol yn unig)
  • mae'r atwrnai yn fethdalwr (ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol yn unig)
  • mae'r atwrnai yn gwmni (sef 'corfforaeth ymddiried') nad yw'n bodoli mwyach (ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol yn unig)
  • mae'r rhoddwr yn marw
  • mae'r atwrnai yn marw
  • roedd y rhoddwr a'r atwrnai yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac nid yw hyn yn wir mwyach
  • nid oes gan yr atwrnai y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau
  • nid yw'r atwrnai am gael ei benodi

Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth am y rhesymau dros eich gwrthwynebiad, megis llythyrau neu ddogfennau gan yr atwrnai neu'r rhoddwr.

Pryd i gyflwyno gwrthwynebiad i'r Llys Gwarchod

Gallwch wneud cais i'r Llys Gwarchod i wrthwynebu cofrestru Atwrneiaeth Arhosol:

  • os ydych o'r farn nad oedd gan y rhoddwr y galluedd meddyliol i lunio Atwrneiaeth Arhosol
  • os ydych o'r farn i'r rhoddwr ganslo'r Atwrneiaeth Arhosol ar adeg pan oedd ganddo'r galluedd meddyliol i wneud hynny
  • os ydych o'r farn i dwyll neu bwysau annheg gael eu defnyddio i ddarbwyllo'r rhoddwr i lunio'r Atwrneiaeth Arhosol
  • os ydych o'r farn y bydd yr atwrnai yn ymddwyn mewn ffordd na fyddai er budd y rhoddwr

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU