Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Llys Gwarchod a sut mae'n penodi dirprwyon

Mae'r Llys Gwarchod yn helpu pobl sy'n cael trafferth gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Gwna hyn drwy wneud y penderfyniadau ar ran yr unigolyn neu drwy benodi rhywun arall i wneud hynny. Mynnwch wybod sut mae'r Llys Gwarchod yn gweithio i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed.

Beth mae’r Llys Gwarchod yn ei wneud

Mae'r Llys Gwarchod yn gwneud penderfyniadau ar ran pobl na allant wneud hynny drostynt eu hunain. Gall hefyd benodi rhywun (a elwir yn ddirprwy) i weithredu ar ran pobl nad ydynt yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mae'r penderfyniadau hyn yn ymwneud ag eiddo, materion ariannol, iechyd a lles personol yr unigolyn.

Gall y Llys Gwarchod:

  • benderfynu a yw unigolyn yn gallu gwneud penderfyniad penodol ei hun ('â'r galluedd' i wneud hynny)
  • gwneud penderfyniadau am faterion ariannol neu les ar ran pobl nad ydynt yn gallu gwneud hynny
  • penodi dirprwy i weithredu ar ran rhywun nad yw'n gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun
  • tynnu cyfrifoldebau dirprwyon neu atwrneiod sy'n methu â chyflawni eu dyletswyddau
  • penderfynu a yw Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus yn ddilys
  • gwrando ar achosion yn ymwneud â gwrthwynebiadau i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus

Mae Siarter y Llys Gwarchod yn nodi sut y gallwch ddisgwyl gael eich trin os oes rhaid i chi wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall. Gallwch wneud cwyn am y Llys Gwarchod os nad ydych yn fodlon ar lefel y gwasanaeth a gewch.

Pam y gallai fod angen i chi wneud cais i'r Llys Gwarchod

Mae nifer o resymau pam y gallai fod angen i chi wneud cais i'r Llys Gwarchod. Efallai y byddwch am:

  • ofyn i'r llys wneud penderfyniad am eiddo a materion ariannol rhywun neu ei iechyd a'i les
  • gwneud cais i fod yn ddirprwy i rywun
  • gwneud ewyllys ar ran rhywun
  • gwrthwynebu cofrestru atwrneiaeth

Gallwch ddarllen mwy am sut i wneud cais i'r Llys Gwarchod.

Cyn i chi wneud cais i'r Llys Gwarchod - beth mae angen i chi ei wneud

Weithiau, os yw unigolyn yn ei chael yn anodd gwneud penderfyniad, efallai y bydd yn gallu gwneud hynny gyda'r help a'r gefnogaeth gywir. Dylech wneud popeth y gallwch i annog a chefnogi'r unigolyn i wneud penderfyniad ei hun.

Wrth helpu rhywun arall i wneud penderfyniad, mae pethau pwysig y dylech eu cofio:

  • gwnewch yn siŵr bod ganddo'r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arno i wneud y penderfyniad
  • gwnewch yn siŵr ei fod yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael
  • gwnewch yn siŵr bod popeth wedi cael ei esbonio mewn ffordd y gall ei ddeall - efallai y byddwch am ddefnyddio lluniau, ffotograffau neu fideos, er enghraifft
  • gwnewch yn siŵr nad oes pwysau wedi'i roi arno i wneud penderfyniad pan nad yw am wneud hynny neu pan fydd o dan straen neu'n bryderus
  • os oes rhywun yn gwneud penderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef, nid yw'n golygu nad yw'n gallu gwneud y penderfyniad

Cyn penderfynu gwneud penderfyniad ar ran rhywun arall, rhaid i chi fod yn rhesymol sicr nad oes ganddo'r gallu i wneud y penderfyniad ei hun. Mae hyn yn golygu bod angen i chi farnu ei allu - er nad oes disgwyl i chi fod yn arbenigwr. Gallwch ddarllen mwy am sut i wneud hyn a sut i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.

Penderfyniadau y gallwch eu gwneud heb wneud cais i'r Llys Gwarchod

Os ydych yn gofalu am rywun â diffyg galluedd, gallwch wneud rhai penderfyniadau bach ar ei ran heb ofyn i'r Llys Gwarchod. Mae'r rhain yn cynnwys rhai penderfyniadau am ofal personol, gofal iechyd neu driniaeth arall - cyn belled ag y cânt eu gwneud er budd yr unigolyn.

Gall meddygon ac awdurdodau lleol wneud penderfyniadau am driniaeth a llety ac fel arfer nid oes angen iddynt wneud cais i'r llys er mwyn gwneud hynny. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys penderfyniadau y mae angen eu gwneud yn gyflym am ofal iechyd rhywun.

Beth i'w wneud os ydych yn pryderu am eich trefniadau eich hun

Os oes gennych bryderon amdanoch chi eich hun, gallwch ddewis rhywun rydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Gallai'r penderfyniadau hyn ymwneud â'ch eiddo a'ch materion personol, neu eich lles personol. Gelwir hyn yn Atwrneiaeth Arhosol.

I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud hyn, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU