Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y byddwch am ystyried gwneud trefniadau fel y caiff eich buddiannau eu gwarchod os byddwch yn colli galluedd meddyliol. Drwy wneud trefniadau cyfreithiol, gallwch sicrhau y caiff eich buddiannau eu gwarchod hyd yn oed os na fyddwch yn gallu gwneud penderfyniadau drosoch chi eich hun. Mynnwch wybod yr hyn y mae angen i chi ei ystyried.
Mae trefniadau cyfreithiol penodol y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer yr adeg pan na fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun. Bydd y rhain yn sicrhau bod rhywun a all wneud penderfyniadau ar eich rhan ac y caiff eich buddiannau eu gwarchod.
Dylech ystyried y trefniadau posibl canlynol:
Dogfen gyfreithiol yw Atwrneiaeth Arhosol sy'n eich galluogi i benodi rhywun (a elwir yn 'atwrnai') i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Gall gael ei defnyddio unrhyw bryd yn y dyfodol os na fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun. Gall y penderfyniadau hyn ymwneud â'ch eiddo a'ch arian neu eich iechyd a'ch lles.
Mae Atwrneiaeth Barhaus yn galluogi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan am eich eiddo a'ch materion ariannol. Gelwir yr unigolyn a ddewiswch yn 'atwrnai'. Gall atwrnai wneud penderfyniadau ar eich rhan pan fo gennych alluedd meddyliol o hyd, yn ogystal â phan fo gennych ddiffyg galluedd.
Disodlwyd Atwrneiaethau Parhaus gan Atwrneiaethau Arhosol, ond gellir eu defnyddio o hyd os cawsant eu llunio a'u llofnodi cyn mis Hydref 2007.
Drwy wneud ewyllys gallwch benderfynu beth sy'n digwydd i'ch eiddo ar ôl i chi farw. Nid yw gwneud ewyllys yn ofyniad cyfreithiol.
Os byddwch yn colli'r gallu i wneud penderfyniadau drosoch chi eich hun ac nad oes gennych ewyllys, gall y Llys Gwarchod lunio un i chi.