Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canslo neu derfynu Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus

Mae Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus yn rhoi'r cyfrifoldeb i rywun arall wneud penderfyniadau ar eich rhan. Gallwch ddewis terfynu'r cyfrifoldeb hwnnw os oes gennych y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drosoch chi eich hun. Mynnwch wybod sut i ganslo neu derfynu Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus.

Pryd y gellir terfynu Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch ddewis terfynu Atwrneiaeth Arhosol os nad ydych am i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan mwyach. Gallwch ganslo Atwrneiaeth Arhosol ar unrhyw adeg, hyd yn oed os yw’r ffurflen wedi’i chofrestru. Fodd bynnag, mae’n rhaid bod gennych y medr i’w ddiddymu.

Pan fydd Atwrneiaeth Arhosol yn dod i ben yn awtomatig

Bydd Atwrneiaeth Arhosol yn dod i ben yn awtomatig os:

  • byddwch chi neu'r atwrnai yn marw
  • byddwch chi neu'r atwrnai yn mynd yn fethdalwr (yn dibynnu ar yr amgylchiadau a amlinellir isod)
  • bydd priodas neu bartneriaeth sifil rhyngoch chi a'r atwrnai yn cael ei diddymu neu'i dirymu
  • nid oes gan yr atwrnai neu'r atwrneiod y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau
  • caiff y pŵer ei 'ymwadu' (neu'i wrthod) gan yr atwrnai

Nid yw'r atwrneiaeth yn dod i ben yn yr amgylchiadau uchod os oes atwrnai arall ar ôl i weithredu neu os oes atwrnai newydd. Os gwnaethoch enwebu mwy nag un atwrnai yn wreiddiol, caiff y pŵer i wneud penderfyniadau ei drosglwyddo'n awtomatig.

Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol

Caiff Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol ei chanslo'n awtomatig hefyd os bydd llys yn datgan eich bod chi neu'ch atwrnai yn fethdalwr. Yn achos corfforaeth ymddiried, mae'r Atwrneiaeth Arhosol yn dod i ben yn awtomatig os bydd yr ymddiriedolaeth yn dirwyn i ben neu'n cael ei diddymu.

Cwmni neu sefydliad rydych wedi'i enwebu i wneud penderfyniadau ar eich rhan yw corfforaeth ymddiried.

Caiff Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol ei hatal os ceir methdaliad o ganlyniad i orchymyn methdalu interim (amser cyfyngedig). Unwaith y daw'r gorchymyn i ben, ni fydd yr Atwrneiaeth Arhosol wedi'i hatal mwyach.

Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles

Gall y Llys Gwarchod derfynu Atwrneiaeth Arhosol am resymau fel pan nad yw'r atwrnai yn cyflawni ei ddyletswyddau'n gywir. Cewch fwy o wybodaeth am y Llys Gwarchod gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Os caiff dirprwy ei ddatgan yn fethdalwr, ni fydd ei bwerau yn dod i ben o dan Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles.

Pryd y gallwch ganslo Atwrneiaeth Arhosol

Os oes gennych alluedd meddyliol o hyd, gallwch ddirymu'r Atwrneiaeth Arhosol. Bydd rhaid i chi hysbysu eich atwrneiod a Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn i'r Atwrneiaeth Arhosol gael ei dileu o'r gofrestr.

Er mwyn canslo eich Atwrneiaeth Arhosol, mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen 'Gweithred Ddirymu'. Yna dylid anfon y ffurflen at eich atwrnai a Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (os yw'r Atwrneiaeth Arhosol wedi'i chofrestru).

Gallwch gael ffurflen 'Gweithred Ddirymu' gan unrhyw werthwr deunydd cyfreithiol neu gan gynghorydd cyfreithiol. Gallwch hefyd ddefnyddio'r geiriad a awgrymir isod mewn llythyr os yw'r Atwrneiaeth Arhosol wedi'i chofrestru. Byddai'n gweithredu fel gweithred ddirymu.

Os nad yw wedi'i chofrestru, defnyddiwch y geiriau "offeryn y bwriedir iddo greu Atwrneiaeth Arhosol" yn lle "Atwrneiaeth Arhosol". Mae hyn am nad yw'n Atwrneiaeth Arhosol nes ei bod wedi'i chofrestru, yn ôl y gyfraith.

Gweithred ddirymu

Trefnir y weithred ddirymu hon gan [enw'r rhoddwr] o [cyfeiriad y rhoddwr]

1. Rhoddais Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Eiddo a Materion Ariannol/Iechyd a Lles [dilëwch fel y bo'n briodol] ar [dyddiad y llofnododd y rhoddwr yr Atwrneiaeth Arhosol] gan benodi [enw'r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw'r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu yn atwrnai/atwrneiod i mi

2. Rwy'n dirymu'r Atwrneiaeth Arhosol a'r awdurdod a roddwyd ganddi

Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [llofnod y rhoddwr]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw'r tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]

Atwrneiaeth Barhaus

Dogfen gyfreithiol yw Atwrneiaeth Barhaus a ddisodlwyd gan yr Atwrneiaeth Arhosol ar 1 Hydref 2007. Fe'i defnyddiwyd i enwebu unigolyn neu unigolion i ddelio â'ch materion ariannol. Gelwid yr unigolyn a enwebwyd gennych yn atwrnai a gallai wneud pethau fel talu biliau ar eich rhan.

Dim ond unwaith y mae'r unigolyn yn dechrau colli, neu wedi colli, ei alluedd meddyliol, y gellir cofrestru Atwrneiaeth Barhaus.

Canslo Atwrneiaeth Barhaus sydd wedi'i chofrestru

Os yw'r Atwrneiaeth Barhaus wedi'i chofrestru, ni ellir ei dirymu heblaw drwy ganiatâd y Llys Gwarchod. Er mwyn dirymu Atwrneiaeth Barhaus heb ei chofrestru bydd angen i chi lofnodi dogfen ffurfiol, sef 'Gweithred Ddirymu'. Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol ar gyfer hyn.

Gallwch gael ffurflen 'Gweithred Ddirymu' gan unrhyw werthwr deunydd cyfreithiol neu gan gynghorydd cyfreithiol.

Bydd angen i chi brofi'r canlynol i'r Llys Gwarchod hefyd:

  • eich bod yn deall pwy yw'r atwrnai a pha bwerau sydd ganddo
  • eich bod yn deall effaith y broses o ganslo'r atwrneiaeth
  • pam fod angen canslo'r Atwrneiaeth Barhaus

Pan fydd Atwrneiaeth Barhaus yn dod i ben yn awtomatig

Caiff Atwrneiaeth Barhaus ei dirymu'n awtomatig os byddwch chi neu'r atwrnai penodedig yn mynd yn fethdalwr. Bydd hefyd yn dod i ben yn awtomatig os byddwch chi neu'ch atwrnai yn marw. Bydd hefyd yn dod i ben os bydd eich atwrnai yn 'ymwadu' ei hun (yn gwrthod ei gyfrifoldeb) ac nad oes unrhyw atwrneiod eraill ar gael i weithredu.

Gall y Llys Gwarchod hefyd ganslo Atwrneiaeth Barhaus, er enghraifft, os nad yw'r atwrnai yn cyflawni ei ddyletswyddau'n gywir.

Gallwch ddirymu Atwrneiaeth Barhaus heb ei chofrestru ar unrhyw adeg tra bo gennych y galluedd meddyliol i wneud hynny.

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU