Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw Atwrneiaeth Arhosol?

Dogfen gyfreithiol yw Atwrneiaeth Arhosol sy'n caniatáu i chi benodi rhywun i wneud penderfyniadau am eich lles, eich arian neu'ch eiddo. Gall gymryd hyd at naw wythnos i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol. Mynnwch wybod mwy am Atwrneiaeth Arhosol.

Beth yw Atwrneiaeth Arhosol?

Ni ellir dechrau defnyddio Atwrneiaeth Arhosol hyd nes iddi gael ei chofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae Atwrneiaeth Arhosol yn ddogfen gyfreithiol. Mae'n caniatáu i chi benodi rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn 'atwrnai' i wneud penderfyniadau ar eich rhan. Gall atwrneiod wneud penderfyniadau ar eich rhan pan nad ydych am wneud hynny mwyach neu pan nad oes gennych y galluedd meddyliol i wneud hynny.

Ni ellir defnyddio Atwrneiaeth Arhosol hyd nes iddi gael ei chofrestru gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rheoli eich materion personol a'ch Atwrneiaeth yn yr Alban

Os ydych yn byw yn yr Alban, gellir llunio atwrneiaethau mewn perthynas â'ch materion ariannol neu'ch lles personol neu mewn perthynas â'r ddau faes. Mae hyn yn golygu y gallwch benodi ffrind, perthynas neu weithiwr proffesiynol i fod ag atwrneiaeth i wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Cewch fwy o wybodaeth am Atwrneiaeth yn yr Alban ar wefan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus (yr Alban).

Ystyr 'diffyg galluedd meddyliol'

Gall rhywun fod â diffyg galluedd meddyliol os oes ganddo anaf, anhwylder neu gyflwr sy'n effeithio ar y ffordd mae ei feddwl yn gweithio. Gallai hyn olygu ei fod yn cael trafferth gwneud penderfyniadau drwy'r amser neu y gallai gymryd amser hir iddo wneud penderfyniad.

Gallwch ddarllen mwy am alluedd meddyliol a gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Manteision Atwrneiaeth Arhosol

Gall Atwrneiaeth Arhosol eich helpu i gynllunio sut y gofelir am eich iechyd, eich lles a'ch materion ariannol. Mae'n eich galluogi i gynllunio'r canlynol ymlaen llaw:

  • y penderfyniadau yr hoffech iddynt gael eu gwneud ar eich rhan os byddwch yn colli'r galluedd i'w gwneud eich hun
  • y bobl rydych am iddynt wneud y penderfyniadau hyn
  • sut rydych am i'r bobl wneud y penderfyniadau hyn

Mae cael Atwrneiaeth Arhosol yn ffordd ddiogel o barhau i fod â rheolaeth dros y penderfyniadau a wneir drosoch oherwydd:

  • mae'n rhaid ei chofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gellir ei defnyddio
  • rydych yn dewis rhywun i ddarparu 'tystysgrif', sy'n golygu ei fod yn cadarnhau eich bod yn deall arwyddocâd a diben yr hyn rydych yn cytuno iddo
  • gallwch ddewis pwy sy'n cael gwybod am eich Atwrneiaeth Arhosol pan gaiff ei chofrestru (fel bod ganddynt y cyfle i fynegi pryderon)
  • mae'n rhaid cael tyst i'ch llofnod chi a llofnodion eich atwrneiod dethol
  • mae'n rhaid i'ch atwrnai/atwrneiod ddilyn Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gweithredu er eich budd chi
  • mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn darparu cymorth a chyngor defnyddiol

Y mathau gwahanol o Atwrneiaethau Arhosol

Mae dau fath gwahanol o Atwrneiaethau Arhosol:

  • Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles
  • Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol

Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles

Mae Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles yn caniatáu i chi ddewis un neu fwy o bobl i wneud penderfyniadau am bethau fel triniaeth feddygol. Dim ond os nad oes gennych y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau drosoch chi eich hunain y gellir defnyddio Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles.

Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol

Mae Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol yn caniatáu i chi ddewis un unigolyn neu fwy i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol ar eich rhan. Gallai hyn gynnwys penderfyniadau am dalu biliau neu werthu eich cartref. Gallwch benodi rhywun yn atwrnai i ofalu am eich eiddo a'ch materion ariannol ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd gynnwys amod sy'n golygu mai dim ond pan fyddwch yn colli'r gallu i wneud penderfyniadau eich hun y gall yr atwrnai wneud penderfyniadau.

Sut i lunio a chofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Fel arfer nid oes angen cyngor proffesiynol arnoch i lunio Atwrneiaeth Arhosol gan fod y ffurflenni wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i'w cwblhau. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gall fod yn syniad da cael cyngor gan gyfreithiwr cyn llunio Atwrneiaeth Arhosol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes gennych faterion personol, faterion am eiddo neu faterion ariannol sy'n gymhleth.

Ni ellir dechrau defnyddio Atwrneiaeth Arhosol hyd nes iddi gael ei chofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Sut i ganslo Atwrneiaeth Arhosol

Efallai y byddwch am ganslo eich Atwrneiaeth Arhosol os bydd eich amgylchiadau'n newid. Mynnwch wybod sut y gallwch wneud hyn os ydych wedi llunio Atwrneiaeth Arhosol eisoes.

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU