Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os oes gennych Atwrneiaeth Barhaus eisoes

Mae Atwrneiaeth Barhaus yn caniatáu i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan am eich eiddo a'ch materion ariannol. Cafodd Atwrneiaethau Parhaus eu disodli gan Atwrneiaethau Arhosol ond gellir eu defnyddio o hyd os cawsant eu llunio a'u llofnodi cyn mis Hydref 2007. Mynnwch wybod mwy am Atwrneiaethau Parhaus.

Beth yw Atwrneiaeth Barhaus?

Dim ond Atwrneiaethau Parhaus a luniwyd ac a lofnodwyd cyn mis Hydref 2007 y gellir eu defnyddio

Mae Atwrneiaeth Barhaus yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i rywun rydych wedi'i ddewis wneud penderfyniadau am eich eiddo a'ch materion ariannol. Gelwir yr unigolyn a ddewisir gennych yn 'atwrnai'.

Gall atwrnai wneud penderfyniadau ar eich rhan pan fydd gennych alluedd meddyliol o hyd, yn ogystal â phan na fydd gennych alluedd meddyliol. Er enghraifft, gall fod yn haws i chi os bydd eich atwrnai yn cyflawni tasgau fel talu eich biliau ar eich rhan.

Ar 1 Hydref 2007, cafodd yr Atwrneiaeth Barhaus ei disodli gan yr Atwrneiaeth Arhosol. Mae Atwrneiaeth Arhosol, fel Atwrneiaeth Barhaus, yn caniatáu i rywun wneud penderfyniadau ar eich rhan os na allwch wneud hynny.

Gellir defnyddio Atwrneiaeth Barhaus a luniwyd ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 o hyd.

Cofrestru Atwrneiaeth Barhaus

Dylid cofrestru Atwrneiaeth Barhaus â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Er mwyn cofrestru Atwrneiaeth Barhaus mae angen i chi gwblhau'r ffurflenni yn y pecyn cofrestru. Gellir lawrlwytho'r pecyn cofrestru o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Dylid anfon y ffurflenni wedi'u cwblhau i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

Office of the Public Guardian
PO Box 15118
Birmingham
B16 6GX

Gellir defnyddio'r Atwrneiaeth Barhaus heb ei chofrestru cyhyd â bod gan y rhoddwr alluedd o hyd. Os bydd y rhoddwr yn dechrau colli ei alluedd, bydd angen cofrestru'r Atwrneiaeth Barhaus er mwyn ei defnyddio o hyd.

Gellir parhau i ddefnyddio Atwrneiaeth Barhaus a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 ond nad yw wedi'i chofrestru.

Mae'r holl ffurflenni a'r canllawiau sydd eu hangen i gofrestru Atwrneiaeth Barhaus gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y pecyn cofrestru. Gallwch lawrlwytho'r pecyn cofrestru hwn gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Defnyddio Atwrneiaeth Barhaus gydag Atwrneiaeth Arhosol

Os oes gennych Atwrneiaeth Barhaus eisoes, gallwch hefyd lunio Atwrneiaeth Arhosol.

Er enghraifft, gallwch gael Atwrneiaeth Barhaus ar gyfer penderfyniadau sy'n ymwneud ag eiddo a materion ariannol ac Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer iechyd a lles.

Er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi (neu eich atwrnai os na allwch chi ei wneud) gofrestru Atwrneiaeth Arhosol â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Canslo Atwrneiaeth Barhaus

Os nad yw eich Atwrneiaeth Barhaus wedi'i ei chofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gallwch ei chanslo ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi fod â'r galluedd meddyliol i wneud hynny.

Er mwyn canslo eich Atwrneiaeth Barhaus, mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen 'Gweithred Ddirymu'. Wedyn, anfonir y ffurflen at eich atwrnai a Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallwch gael ffurflen 'Gweithred Ddirymu' gan unrhyw werthwr deunydd cyfreithiol neu drwy siarad â chynghorydd cyfreithiol.

Os yw eich Atwrneiaeth Barhaus wedi'i chofrestru, ni ellir ei chanslo heb gael caniatâd y Llys Gwarchod. Mae'n rhaid i chi neu eich atwrnai gysylltu â'r Llys Gwarchod i wneud cais i ganslo eich Atwrneiaeth Barhaus.

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU