Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llunio a chofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Mae Atwrneiaeth Arhosol yn penodi rhywun i wneud penderfyniadau ar ran rhywun na all wneud hynny drosto ei hun. Gall gymryd hyd at naw wythnos i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol. Mynnwch wybod sut i lenwi'r ffurflenni a chofrestru Atwrneiaeth Arhosol.

Llenwi'r ffurflenni cais

Gallwch lenwi ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol eich hun neu os ydych yn helpu rhywun arall i lunio Atwrneiaeth Arhosol.

Gellir llenwi ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol heb gael cyngor cyfreithiol proffesiynol. Fodd bynnag, os oes manylion cymhleth (megis cyllid) neu gyfarwyddiadau penodol i'r atwrneiod, efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol.

Cofrestru'r Atwrneiaeth Arhosol

Gall gymryd i fyny at naw wythnos i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol os nad oes unrhyw broblemau gyda’ch cais

Ni ellir cofrestru a defnyddio Atwrneiaeth Arhosol ar unwaith a gall yr amser y gallai fod yn rhaid i chi ei aros newid.

Yr amser aros ar gyfer cofrestru Atwrneiaeth Arhosol ar hyn o bryd yw naw wythnos.

Mae'n rhaid i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus edrych ar y cais i sicrhau nad oes unrhyw broblemau. Ceir cyfnod o chwe wythnos hefyd pan fydd gan bobl gyfle i wrthwynebu'r Atwrneiaeth Arhosol.

Dim ond unwaith y bydd Atwrneiaeth Arhosol wedi'i chofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus y gall atwrnai ei defnyddio. Dim ond unwaith na all y rhoddwr (yr unigolyn y mae angen help arno) wneud ei benderfyniadau ei hun y gellir defnyddio Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles.

Bydd gweithiwr llys neu feddygol proffesiynol yn helpu i benderfynu a yw rhywun wedi colli'r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.

Pryd y gellir cofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Gall rhoddwr gofrestru ei Atwrneiaeth Arhosol ei hun tra'i fod yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Fel arall, gall yr atwrnai/atwrneiod ei chofrestru.

Nid yw'n ofynnol cofrestru Atwrneiaeth Arhosol ar unwaith ond mae manteision amlwg o wneud hynny. Mae cofrestru ar unwaith yn golygu y gellir nodi unrhyw wallau yn yr Atwrneiaeth Arhosol ar adeg y gellir eu cywiro.

Talu ffi i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Codir ffi i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol. Gellir lleihau'r ffi ar gyfer rhywun sy'n cael budd-daliadau penodol neu os yw ar incwm isel. Gallwch gael mwy o wybodaeth am faint mae Atwrneiaeth Arhosol yn ei gostio gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Y ffurflenni cofrestru y mae angen eu cwblhau

Mae dwy ffurflen y mae angen eu cwblhau er mwyn cofrestru Atwrneiaeth Arhosol. Mae'n rhaid iddynt gael eu cwblhau gan y rhoddwr neu'r atwrnai, yn dibynnu ar bwy sy'n gwneud cais i gofrestru'r Atwrneiaeth Arhosol.

Dyma'r ddwy ffurflen:

  • LPA001 - hysbysiad o'r bwriad i wneud cais i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol
  • LPA002 - cais i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Gellir lawrlwytho'r ffurflenni hyn gan ddefnyddio'r dolenni isod. Gallwch hefyd lawrlwytho'r holl ffurflenni a'r canllawiau sydd eu hangen arnoch mewn un ffeil ZIP o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i wneud cais am ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol drwy ddilyn y ddolen isod.

Mae ffurflenni hefyd ar gael mewn fformatau eraill, megis fersiynau print bras neu fersiynau Welsh. Er mwyn gwneud cais am y ffurflenni hyn neu unrhyw ffurflenni neu ganllawiau eraill, cysylltwch â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy ffonio 0300 456 0300 a dewiswch yr ail opsiwn. Mae'r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm, heblaw am ddydd Mercher pan fo ar agor rhwng 10.00 am a 5.00 pm.

Defnyddir ffurflen LPA001 i roi gwybod i bobl benodol bod yr Atwrneiaeth Arhosol yn cael ei chofrestru. Dyma'r 'bobl sy'n cael gwybod' a enwir ar y ffurflen Atwrneiaeth Arhosol.

Gallant wrthwynebu os ydynt yn poeni am yr Atwrneiaeth Arhosol - er enghraifft, os ydynt o'r farn bod y rhoddwr wedi'i roi dan bwysau i'w llunio. Bydd ganddynt hyd at chwe wythnos i wneud hyn.

Mae ffurflen LPA002 yn gofyn i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus gofrestru'r Atwrneiaeth Arhosol.

Bydd angen i chi anfon yr eitemau canlynol hefyd:

  • y ffurflen Atwrneiaeth Arhosol wreiddiol
  • y ffi, neu ffurflen OPG506A os ydych yn gwneud cais am eithriad neu ddilead ffioedd

Yna dylid anfon y dogfennau i

Office of the Public Guardian:

PO Box 15118
Birmingham
B16 6GX

Sicrhau na all rhywun gael ei orfodi i lunio Atwrneiaeth Arhosol

Ni ellir gorfodi unrhyw un i lofnodi Atwrneiaeth Arhosol yn erbyn ei ewyllys. Mae'n rhaid i 'ddarparwr tystysgrif' hefyd lofnodi rhan B o'r ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol. Mae darparwr tystysgrif yn rhywun sy'n siarad yn breifat â'r rhoddwr er mwyn sicrhau ei fod yn deall y pwerau mae'n eu rhoi i'w atwrnai/atwrneiod.

Gall darparwr tystysgrif fod yn rhywun y mae'r rhoddwr wedi'i adnabod ers dwy flynedd neu'n rhywun sydd â sgil neu ddealltwriaeth broffesiynol o'r sefyllfa. Er enghraifft, gallai fod yn feddyg, yn weithiwr cymdeithasol neu'n gyfreithiwr.

Bydd hefyd yn cadarnhau nad oes unrhyw achos o dwyll na phwysau wedi'i roi ar y rhoddwr i lunio'r Atwrneiaeth Arhosol.

Os bydd problemau wrth gofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn edrych ar y ffurflen yr Atwrneiaeth Arhosol a'r ffurflen gais. Os bydd unrhyw broblemau gyda'r ffurflen, bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cysylltu â phwy bynnag a wnaeth y cais (y rhoddwr neu'r atwrnai). Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau i'r Atwrneiaeth Arhosol o fewn pum wythnos, caiff ei chofrestru ar ôl o leiaf chwe wythnos.

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU