Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llenwi ffurflen Atwrneiaeth Arhosol

Sicrhewch eich bod yn deall y ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol ac yn eu llenwi'n gywir. Gall gymryd hyd at naw wythnos i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol. Mynnwch wybod am y ffurflen Atwrneiaeth Arhosol a beth sydd angen i chi ei gynnwys.

Beth fydd ar ffurflen Atwrneiaeth Arhosol

Mae pedair rhan i ffurflen Atwrneiaeth Arhosol:

  • y daflen wybodaeth
  • rhan A - i'w chwblhau gennych chi
  • rhan B - i'w chwblhau gan eich 'darparwyr tystysgrif'
  • rhan C - i'w chwblhau gan unrhyw un rydych wedi'i enwi yn atwrnai

Mae pob rhan o'r ffurflen yn cynnwys cyfarwyddiadau. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus ac yn sicrhau eich bod yn llenwi popeth yn gywir.

Gallwch lawrlwytho copïau o'r ffurflenni yn ogystal â chanllawiau manylach ar eu cwblhau.

Y daflen wybodaeth

Mae eich ffurflen atwrneiaeth arhosol yn cynnwys taflen wybodaeth. Mae'r daflen wybodaeth yn egluro rôl pob unigolyn a faint o bobl sydd eu hangen arnoch.

Mae hefyd yn egluro'r tair rhan o'r ffurflen Atwrneiaeth Arhosol a phwy sy'n cwblhau pob rhan.

Rhan A - datganiad y rhoddwr

Mae'n rhaid i chi gwblhau'r rhan hon o'r ffurflen. Mae angen i chi gynnwys manylion amdanoch chi eich hun, megis eich enw, eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni. Mae angen i chi hefyd gynnwys manylion unrhyw un rydych yn ei benodi'n atwrnai.

Penodi mwy nag un atwrnai

Os ydych yn penodi mwy nag un atwrnai, mae'n rhaid i chi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau am sut y byddant yn cydweithio ac yn cytuno ar benderfyniadau. Er enghraifft, gallwch ddweud bod yn rhaid i bob un ohonynt gydweithredu, neu y gallant gydweithredu neu weithredu ar eu pen eu hunain. Gallwch hefyd nodi unrhyw amodau neu gyfyngiadau eraill ar eich atwrneiod yn y rhan hon o'r ffurflen.

Os ydych yn penodi atwrnai wrth gefn (i weithredu os na all eich atwrneiod wneud hynny mwyach), bydd angen i chi gynnwys eu manylion hwy hefyd.

Ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles, gallwch benderfynu a all eich atwrnai gytuno neu wrthod unrhyw driniaeth feddygol i chi.

Ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol, gallwch enwebu 'corfforaeth ymddiried' i ofalu am eich materion ariannol. Mae corfforaeth ymddiried fel arfer yn fanc sy'n rheoli eich cynilion, eich pensiynau neu'ch buddsoddiadau yn seiliedig ar unrhyw feini prawf rydych yn cytuno arnynt.

Galluogi pobl i wrthwynebu Atwrneiaeth Arhosol

Gallwch enwebu rhywun sy'n eich adnabod yn dda a bydd yn cael y cyfle i wrthwynebu'r Atwrneiaeth Arhosol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau nad ydych wedi cael eich gorfodi i'w llofnodi yn erbyn eich ewyllys.

Os na fyddwch yn enwebu rhywun a all wrthwynebu'r Atwrneiaeth Arhosol, mae angen i chi enwebu dau 'ddarparwr tystysgrif' yn Rhan B.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau Rhan A, bydd angen i chi ei llofnodi. Bydd angen i chi hefyd gael tyst i lofnodi'r ddogfen. Gall y tyst fod yn unrhyw un ar wahân i rywun rydych wedi'i enwebu'n atwrnai ond mae'n rhaid iddo eich gweld yn llofnodi ac yn dyddio'r ffurflen.

Rhan B - datganiad y darparwr tystysgrif

Mae angen i'ch 'darparwr tystysgrif' gwblhau'r rhan hon o'r ffurflen.

Darparwr tystysgrif yw rhywun sy'n siarad â chi yn breifat er mwyn sicrhau eich bod yn deall y pwerau rydych yn eu rhoi i'ch atwrnai/atwrneiod. Bydd hefyd yn cadarnhau nad oes achos o dwyll wedi bod na phwysau wedi'i roi arnoch i lunio'r Atwrneiaeth Arhosol.

Gall darparwr tystysgrif fod yn rhywun rydych wedi'i adnabod am ddwy flynedd neu'n rhywun sydd â sgil neu ddealltwriaeth broffesiynol o'ch sefyllfa. Er enghraifft, gallai fod yn feddyg, yn weithiwr cymdeithasol neu'n gyfreithiwr.

Ni all aelodau'r teulu fod yn ddarparwyr tystysgrif. Mae hyn yn cynnwys:

  • priod, partner neu bartner sifil (neu bobl sy'n byw gyda'i gilydd felly)
  • plant, wyrion, wyresau (gan gynnwys llysblant)
  • rhieni, neiniau, teidiau (gan gynnwys llysrieni)
  • brodyr, chwiorydd (gan gynnwys hanner brodyr a hanner chwiorydd)
  • modrybedd, ewyrthod
  • nithod, neiaint
  • rhywun sy'n perthyn drwy briodas (megis mab yng nghyfraith neu ferch yng nghyfraith)

Os na fyddwch yn enwebu rhywun yn Rhan A i gael y cyfle i wrthwynebu eich Atwrneiaeth Arhosol, bydd angen dau ddarparwr tystysgrif arnoch. Bydd angen i'r ail ddarparwr tystysgrif gwblhau 'taflen barhad B'.

Rhan C - datganiad yr atwrnai

Mae angen i bwy bynnag rydych wedi'i enwebu'n atwrnai lofnodi Rhan C.

Mae angen i'ch atwrnai ddarllen Rhan A o'r ffurflen, sicrhau bod y wybodaeth yn gywir a chadarnhau ei fod yn deall ei rôl a'i gyfrifoldebau.

Os ydych wedi enwebu mwy nag un atwrnai, mae angen i bob atwrnai lofnodi copi o Ran C. Bydd angen i dyst lofnodi pob copi o Ran C hefyd. Gallwch ddefnyddio'r un tyst ar gyfer pob atwrnai yn ogystal â'r un tyst a ddefnyddiwyd gennych yn Rhan A.

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU