Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae angen i chi ystyried yn ofalus pwy y byddwch yn ei benodi'n atwrnai o dan Atwrneiaeth Arhosol. Mae angen i chi fod yn sicr y bydd yn gweithredu yn y ffordd sydd orau i chi. Mae gofynion cyfreithiol penodol hefyd. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi ei ystyried wrth ddewis atwrnai.
Wrth benodi atwrnai, dylech ystyried:
Efallai y byddwch am benodi mwy nag un unigolyn yn atwrnai i chi er mwyn atal unrhyw un rhag cymryd mantais o'i gyfrifoldeb.
Mae bod yn atwrnai yn rôl bwysig. Mae'n rhaid i chi fod yn sicr bod yr unigolyn a ddewiswch yn eich adnabod yn ddigon da i wneud penderfyniadau ar eich rhan sydd orau i chi. Mae'n rhaid i chi allu ymddiried ynddo.
Hefyd, mae angen i chi sicrhau bod yr unigolyn yn fodlon cyflawni'r rôl a'i chyfrifoldebau.
Gall eich atwrnai/atwrneiod fod yn unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn, er enghraifft:
Os caiff eich priod neu'ch partner ei enwebu'n atwrnai i chi ond eich bod yn gwahanu'n ddiweddarach, bydd eich Atwrneiaeth Arhosol yn annilys. Fodd bynnag, gall weithredu'n atwrnai i chi o hyd os:
Ni allwch ddewis rhywun sydd:
Ni all atwrnai weithredu os yw wedi'i ddatgan yn fethdalwr ar ôl cofrestru'r Atwrneiaeth Arhosol. Efallai y caiff eich Atwrneiaeth Arhosol ei chanslo hefyd os nad oes atwrneiod eraill i weithredu ar eich rhan.
Ar ryw adeg, efallai na fydd eich atwrnai/atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan. Ymhlith y rhesymau pam y gallai hyn ddigwydd mae'r canlynol:
Mae cael o leiaf un atwrnai wrth gefn i wneud penderfyniadau yn golygu, pan fydd hyn yn digwydd, y gellir parhau i ddefnyddio eich Atwrneiaeth Arhosol.
Er enghraifft, os byddwch yn dewis eich priod i fod yn atwrnai i chi, efallai y byddwch yn dewis mab neu ferch i fod yn atwrnai wrth gefn os bydd eich priod yn marw.
Gallwch ddewis cymaint o atwrneiod wrth gefn ag y mynnwch ond unwaith y bydd yr Atwrneiaeth Arhosol wedi'i chofrestru, ni allwch newid atwrneiod.
Fel arfer nid oes angen cyngor proffesiynol arnoch i lunio Atwrneiaeth Arhosol oherwydd caiff y ffurflenni eu cynllunio i fod yn hawdd i'w cwblhau. Fodd bynnag, os yw eich materion personol a'ch materion o ran eiddo ac arian yn gymhleth, dylech gael cyngor gan gyfreithiwr cyn llunio Atwrneiaeth Arhosol.