Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn penodi rhywun yn atwrnai i chi o dan Atwrneiaeth Arhosol, gall wneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan. Mae'n bwysig eich bod yn deall pa benderfyniadau y gall eu gwneud. Mynnwch fwy o wybodaeth am gyfrifoldebau rhywun rydych yn ei benodi'n atwrnai.
Gallwch ddewis rhywun i wneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan os na fyddwch yn gallu gwneud hynny eich hun. Gelwir yr unigolyn hwn yn atwrnai.
Gall eich atwrnai wneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan. Mae'n rhaid i'ch atwrnai:
Os na fydd yr atwrnai yn cyflawni ei ddyletswyddau yn briodol, gellir ei orfodi i'ch talu am unrhyw golledion rydych wedi'u dioddef.
Mae cam-drin neu esgeuluso rhywun â diffyg galluedd yn fwriadol yn drosedd. Y gosb am hyn yw dirwy a/neu ddedfryd o hyd at bum mlynedd yn y carchar.
Gellir gweld manylion pellach am ddyletswyddau atwrnai yng Nghod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Gallwch benodi atwrneiod o dan Atwrneiaeth Arhosol i wneud gwahanol fathau o benderfyniadau ar eich rhan. Mae Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles yn penodi rhywun i wneud penderfyniadau am bethau fel gofal meddygol neu symud i gartref gofal. Mae Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol yn penodi rhywun i wneud penderfyniadau am bethau fel talu biliau neu werthu eich cartref.
Mae gan yr atwrneiod gwahanol gyfrifoldebau gwahanol a dim ond yn y meysydd y maent wedi'u penodi y gallant wneud penderfyniadau. Er enghraifft, ni all atwrnai o dan Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles wneud penderfyniadau am eiddo na materion ariannol.
Gallwch gael un atwrnai yn gweithredu ar eich rhan ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles yn ogystal ag eiddo a materion ariannol. Gallwch hefyd ddewis cael atwrneiod gwahanol ar gyfer y ddau os ydych am wneud hynny.
Mae Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles yn caniatáu i chi ddewis un unigolyn neu fwy i wneud penderfyniadau am eich iechyd a'ch lles personol. Gelwir yr unigolyn neu'r unigolion a benodir gennych yn atwrneiod.
Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gall yr unigolyn a benodir gennych yn atwrnai wneud penderfyniadau:
Gallwch roi'r pŵer i'ch atwrnai/atwrneiod wneud penderfyniadau am unrhyw un o'ch materion iechyd a lles, neu'r cyfan. Gall hyn gynnwys gwneud penderfyniadau am bethau fel:
Os hoffech, gallwch hefyd roi'r pŵer i'ch atwrnai/atwrneiod wneud penderfyniadau am 'driniaeth cynnal bywyd' i chi.
Gellir rhoi'r pŵer i'ch atwrnai/atwrneiod wneud penderfyniadau am agweddau o ddydd i ddydd ar eich lles hefyd, fel:
Mae Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol yn caniatáu i chi ddewis un unigolyn neu fwy i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol ar eich rhan.
Unwaith y bydd eich Atwrneiaeth Arhosol wedi'i chofrestru, gall eich atwrnai/atwrneiod wneud penderfyniadau ar eich rhan hyd yn oed pan fydd gennych alluedd o hyd.
Er enghraifft, gall fod yn haws i chi roi'r pŵer i'ch atwrnai gyflawni tasgau fel talu eich biliau. Gallai hyn ddigwydd am sawl rheswm:
Gall eich atwrnai/atwrneiod wneud penderfyniadau ar eich rhan am unrhyw agwedd ar eich eiddo a'ch materion ariannol neu bob un ohonynt. Gall y penderfyniadau hyn gynnwys: