Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus a'r cofrestrau o atwrneiod a dirprwyon

Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn diogelu pobl sydd â diffyg galluedd meddyliol. Mae'n cynnal y cofrestrau o Atwrneiaethau Arhosol a Pharhaus a gorchmynion llys sy'n penodi dirprwyon. Mynnwch wybod mwy am Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus a sut i chwilio am wybodaeth yn y cofrestrau.

Beth mae'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud

Mae'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unigolyn sy'n gweithio gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ei swydd yw diogelu pobl sydd â diffyg galluedd meddyliol i ofalu amdanynt eu hunain. Mae'n gwneud hyn drwy:

  • gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus
  • goruchwylio dirprwyon a gweithio gyda sefydliadau eraill fel gwasanaethau cymdeithasol (os yw'r unigolyn sydd â diffyg galluedd meddyliol yn derbyn gofal cymdeithasol)
  • cyfarwyddo ymwelwyr y Llys Gwarchod i ymweld â phobl a all fod â diffyg galluedd meddyliol a'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar eu rhan
  • adolygu adroddiadau gan ddirprwyon ac atwrneiod sy'n gweithredu o dan Atwrneiaeth Arhosol
  • ymchwilio i bryderon ynghylch sut mae atwrneiod a dirprwyon yn gweithredu, gan gynnwys llunio adroddiadau i'r Llys Gwarchod

Gofyn am wybodaeth sydd yn y cofrestrau

Gallwch chwilio i weld a oes Atwrneiaeth Arhosol neu Atwrneiaeth Barhaus gofrestredig ar gyfer rhywun rydych yn pryderu amdano. Gallwch hefyd chwilio i gael gwybod a oes dirprwy yn gweithredu ar ei ran.

Er mwyn gwneud cais i chwilio, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais 'OPG100'.

Bydd angen i chi anfon eich ffurflen i:

Office of the Public Guardian
PO Box 15118
Birmingham

B16 6GX

Y wybodaeth a gewch wrth chwilio drwy'r cofrestrau

Os byddwch yn chwilio drwy'r cofrestrau, cewch wybod pethau fel:

  • a oes dirprwy yn gofalu am yr unigolyn sy'n agored i niwed
  • a oes Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth Arhosol ar waith, a'r dyddiad y'i gwnaed ac y'i cofrestrwyd
  • y rhif achos a roddwyd iddi
  • enwau'r rhoddwr, y dirprwy neu'r atwrnai
  • dyddiad geni'r unigolyn sy'n agored i niwed
  • unrhyw amodau neu gyfyngiadau ar yr Atwrneiaeth Arhosol, yr Atwrneiaeth Barhaus neu'r gorchymyn dirprwy (ond nid manylion penodol amdanynt)
  • y dyddiad y cafodd yr Atwrneiaeth Arhosol neu'r Atwrneiaeth Barhaus ei chanslo (os yw wedi'i chanslo)
  • y dyddiad y daeth y gorchymyn dirprwyaeth i ben neu pan gafodd ei ganslo (mae wedi dod i ben neu wedi'i ganslo)

Chwiliad ail haen - os na fydd eich chwiliad cyntaf yn diwallu eich anghenion

Os na fydd y wybodaeth a gewch ar ôl chwilio yn diwallu eich anghenion, gallwch chwilio'n fanylach. Gelwir hyn yn 'chwiliad ail haen'.

Bydd chwiliad ail haen yn rhoi mwy o wybodaeth am y rhoddwr neu'r unigolyn sydd â dirprwy yn gweithio ar ei ran na'r chwiliad cyntaf. Er mwyn gwneud hyn, yn gyntaf mae'n rhaid i chi ysgrifennu i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • enw'r rhoddwr/yr unigolyn sy'n gysylltiedig â'r gorchymyn
  • y wybodaeth benodol sydd ei hangen arnoch a'r rheswm dros fod ei hangen
  • pam nad ydych wedi gallu cael y wybodaeth gan yr unigolyn ei hun

Gallwch ysgrifennu i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y cyfeiriad hwn:

Office of the Public Guardian
PO Box 15118
Birmingham
B16 6GX

Bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried eich cais cyn penderfynu p'un a fydd yn rhyddhau mwy o wybodaeth. Bydd hyn yn dibynnu ar bethau fel:

  • eich perthynas â'r unigolyn
  • y wybodaeth rydych yn gofyn amdani
  • pam rydych am gael y wybodaeth hon

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU