Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod yn ddirprwy a’ch cyfrifoldebau

Rhywun sydd wedi'i benodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun nad yw'n gallu gwneud hynny ei hun yw dirprwy. Os ydych wedi cael eich penodi yn ddirprwy i rywun, mynnwch wybod mwy am eich rôl a'ch cyfrifoldebau.

Pwy all ddod yn ddirprwy

Fel arfer, ffrind agos neu aelod o deulu'r unigolyn y mae angen help arno i wneud penderfyniadau yw dirprwy. Gall dirprwy hefyd fod yn weithiwr proffesiynol, megis cyfrifydd neu gyfreithiwr. Rhaid i unrhyw ddirprwy fod dros 18 oed.

Y Llys Gwarchod fydd yn penderfynu pwy all fod yn ddirprwy.

Sut y gallwch ddod yn ddirprwy

Rhaid i chi wneud cais i'r Llys Gwarchod neu gael eich penodi ganddo er mwyn dod yn ddirprwy i rywun. Gallwch gael eich penodi yn:

  • ddirprwy ar gyfer eiddo a materion personol
  • dirprwy ar gyfer lles personol

Bydd y llys yn anfon gorchymyn - dogfen gyfreithiol sy'n nodi penderfyniad y mae wedi'i wneud - atoch yn eich penodi'n ddirprwy. Bydd eich gorchymyn yn esbonio pa benderfyniadau y mae gennych ganiatâd cyfreithiol i'w gwneud ar ran rhywun arall.

Y Llys Gwarchod fydd yn penderfynu ar eich pwerau yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn arall a gallent gynnwys gwneud penderfyniadau am arian a gofal iechyd.

Gallwch ddarllen mwy am y Llys Gwarchod a sut mae'n gweithio gyda dirprwyon drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Eich cyfrifoldebau fel dirprwy

Help a chyngor

Rhif ffôn: 0300 456 0300

Gall y penderfyniadau a wnewch fel dirprwy gael effaith fawr ar fywyd yr unigolyn arall. Fel dirprwy, dylech:

  • ond gwneud penderfyniadau sydd er budd yr unigolyn
  • ond gwneud y penderfyniadau y mae'r llys yn dweud y cewch eu gwneud
  • bod yn ofalus iawn wrth wneud penderfyniadau

I gael cyngor ar fod yn ddirprwy, ffoniwch 0300 456 0300 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm, ac eithrio ar ddydd Mercher, rhwng 10.00 am a 5.00 pm).

Mae rhagor o fanylion am y canllawiau i ddirprwyon yng Nghod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Gwneud penderfyniadau ar ran rhywun arall

Bydd y llys yn penderfynu pa benderfyniadau y gallwch eu gwneud fel dirprwy. Os nad yw penderfyniad rydych am ei wneud wedi'i gynnwys yn y gorchymyn, gallwch wneud cais i'r llys. Gall y llys naill ai:

  • newid eich pwerau fel y gallwch wneud y penderfyniad; neu
  • wneud y penderfyniad penodol yn hytrach na'ch bod chi'n ei wneud

Cyn i chi wneud penderfyniad ar ran rhywun arall, dylech ystyried a allai'r unigolyn hwnnw wneud y penderfyniad ei hun. Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am sut i benderfynu a oes gan unigolyn ddiffyg galluedd meddyliol i wneud penderfyniad.

Pryd i beidio â gwneud penderfyniadau

Fel dirprwy, nid ydych yn gallu gwneud penderfyniad ar ran rhywun o dan amgylchiadau penodol. Ymhlith y rhain mae:

  • pan gredwch y gall yr unigolyn wneud y penderfyniad ei hun
  • pan fydd yn atal yr unigolyn yn gorfforol, oni bai bod angen gwneud hynny er mwyn ei atal rhag cael niwed
  • pan fydd yn mynd yn groes i benderfyniad a wnaed gan atwrnai sy'n gweithredu o dan Atwrneiaeth Arhosol
  • pan fyddwch am derfynu triniaeth cynnal bywyd, er enghraifft diffodd peiriant cynnal bywyd

Beth na allwch ei wneud fel dirprwy

Fel dirprwy, ni fyddwch yn gallu gwneud rhai penderfyniadau penodol. Ymhlith y rhain mae:

  • gwneud ewyllys neu unrhyw ychwanegiad at ewyllys ar ran yr unigolyn
  • gwneud rhoddion mawr gan ddefnyddio arian yr unigolyn
  • dal unrhyw arian neu eiddo ar ran yr unigolyn

Gall Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i chi os yw'n credu nad ydych yn cyflawni eich dyletswyddau'n gywir. Os byddwch yn gwneud penderfyniadau fel dirprwy nad oes gennych ganiatâd i'w gwneud, efallai y caiff eich cyfrifoldeb fel dirprwy ei dynnu'n ôl.

Cyflwyno adroddiadau i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Efallai y bydd eich gorchymyn yn gofyn i chi gwblhau adroddiadau rheolaidd fel y gall Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus fonitro eich gwaith. Bydd yn ei helpu i ddeall y penderfyniadau a wnewch fel dirprwy.

Fel arfer gofynnir am adroddiadau unwaith y flwyddyn. Dylai'r adroddiad gofnodi'r holl benderfyniadau a wnaethoch ar ran yr unigolyn arall.

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen adroddiad dirprwyaeth o wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Talu ffioedd dirprwyaeth

Chi sy’n gyfrifol am dalu unrhyw ffi goruchwylio i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os cewch eich penodi’n ddirprwy.

Bydd y ffi’n dibynnu ar y lefel o oruchwyliaeth sydd ei hangen arnoch. Os ydych yn gymwys i gael eithriad neu ddilead, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffi lawn.

Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth ynghylch ffioedd dirprwyaeth, eithriadau a dileadau drwy ddilyn y ddolen isod.

Cadw cofnod o'r penderfyniadau a wnewch

Dylech gadw cofnod o unrhyw benderfyniadau a wnewch fel dirprwy. Gallai'r rhain gynnwys:

  • gwneud buddsoddiad mawr
  • newid y gofal y mae unigolyn yn ei gael
  • penderfynu ble y dylai rhywun fyw

Dylech nodi sut y gwnaethoch y penderfyniad, pa bethau y gwnaethoch eu hystyried a gyda phwy y gwnaethoch drafod y penderfyniad. Er enghraifft, gwneud nodiadau am unrhyw gyfarfodydd â meddyg.

Dylech hefyd gadw unrhyw ddogfennau am benderfyniadau rydych wedi'u gwneud. Mae hyn yn cynnwys derbynebau, cyfriflenni a gohebiaeth banc, llythyrau ac adroddiadau gan asiantaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

Pryd y gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy panel

Gall y llys benodi dirprwy panel i warchod materion ariannol rhywun os nad oes unrhyw un arall sy'n gallu neu'n fodlon gweithredu.

Mae dirprwy panel yn aelod o grŵp o ddirprwyon cymeradwy sydd â gwybodaeth arbenigol am y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae ganddo'r profiad a'r sgiliau i weithredu fel dirprwy. Bydd Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penderfynu pwy all fod yn ddirprwy panel.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU