Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ar gyfer Cymru a Lloegr yn cefnogi ac yn diogelu unigolion nad ydynt o bosibl yn gallu gwneud rhai penderfyniadau. Mynnwch wybod beth a gwmpesir gan y Ddeddf Galluedd Meddyliol a sut y gall helpu pobl.
Rydym yn gwneud penderfyniadau bob dydd am lawer o bethau yn ein bywydau. Gelwir y gallu i wneud penderfyniadau yn alluedd meddyliol.
Gall pobl gael anawsterau i wneud penderfyniadau peth o'r amser, neu'r amser. Gallai hyn fod oherwydd bod ganddynt un o'r canlynol:
Mae gan God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar sut i asesu galluedd rhywun i wneud penderfyniadau.
Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn cwmpasu penderfyniadau mawr am eiddo, materion ariannol, iechyd a lles unigolyn a ble mae'n byw.
Mae hefyd yn cwmpasu penderfyniadau bob dydd am ofal personol (megis beth mae'r unigolyn yn ei fwyta), pan na all yr unigolyn wneud y penderfyniadau hynny ei hun.
Felly, os nad ydych yn gallu gwneud rhai penderfyniadau, mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi'r canlynol:
Mae'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi pum egwyddor - y gwerthoedd sy'n sail i ofynion cyfreithiol y ddeddf.
Mae gan bob oedolyn yr hawl i wneud ei benderfyniadau ei hun a rhaid tybio y gall wneud hynny oni bai y profir i'r gwrthwyneb. Hefyd, rhaid rhoi pob help rhesymol i unigolyn cyn i unrhyw un ei drin fel nad yw'n gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun.
Ni ddylid nad yw unigolyn yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau oherwydd iddo wneud penderfyniad a ystyrir yn un gwael.
Rhaid gwneud unrhyw benderfyniad a wneir ar ran unigolyn nad yw'n gallu ei wneud ei hun yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i'r unigolyn hwnnw. Ni ddylai unrhyw benderfyniadau a wneir ar ran rhywun arall gyfyngu ar ei hawliau na'i ryddid sylfaenol.
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn diogelu pobl â diffyg galluedd ac yn eu helpu i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Gwneir hyn drwy dri phrif sefydliad:
Y Llys Gwarchod
Mae gan y Llys Gwarchod y pŵer i wneud penderfyniadau am p'un a oes gan rywun ddiffyg galluedd meddyliol. Gall hefyd benodi dirprwyon i weithredu a gwneud penderfyniadau ar ran rhywun nad yw'n gallu gwneud hynny ei hun.
Y Gwarcheidwad Cyhoeddus
Unigolyn y mae ei rôl yn cynnwys diogelu pobl â diffyg galluedd meddyliol rhag cael eu cam-drin yw'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus sawl dyletswydd:
Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol
Rhywun a benodir i gefnogi unigolyn â diffyg galluedd nad oes ganddo rywun i siarad ar ei ran yw Eiriolwr Galluedd Meddyliol. Dim ond pan fo angen gwneud penderfyniadau penodol yn ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol y mae Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol yn rhan o'r broses. Mae Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol hefyd yn rhan o'r broses o newid llety unigolyn pan gaiff ei ddarparu gan y GIG neu awdurdod lleol.
Mae ‘Tair Stori’ yn ddogfen ynghylch tair stori am fywyd go iawn. Mae’n dangos sut y mae’r Ddeddf Galluedd Meddwl yn helpu a diogelu pobl sydd â’r diffyg gallu i wneud rhai penderfyniadau. Mae’r ffilm 15 munud hyd ar gael mewn tri fformat: