Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pryderon ynghylch unigolyn sy'n agored i niwed

Efallai eich bod yn adnabod unigolyn sy'n agored i niwed neu rywun sy'n ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau. Gallai fod yn aelod o'r teulu, yn ffrind neu'n gymydog. Mynnwch wybod beth i'w wneud os ydych yn pryderu am sut mae'n cael ei drin a phwy y gallwch siarad ag ef.

Pryderon ynghylch rhywun sy'n ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau

Efallai eich bod yn adnabod rhywun sy'n ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain am:

  • ei faterion ariannol neu ei eiddo
  • ei iechyd a'i les personol

Mae rhai pobl yn llunio trefniadau cyfreithiol, sef Atwrneiaethau Parhaus neu Arhosol fel y gall pobl eraill wneud penderfyniadau ar eu rhan. Os nad yw rhywun rydych yn pryderu amdano wedi llunio Atwrneiaeth Barhaus neu Arhosol, gall y Llys Gwarchod wneud penderfyniadau ar ei ran. Gall y Llys Gwarchod hefyd benodi dirprwy i wneud y penderfyniadau hyn.

Helpu rhywun i wneud penderfyniad

Os oes rhywun yn ei chael hi'n anodd gwneud penderfyniadau, gyda help a chymorth mae'n bosibl y bydd yn gallu gwneud y penderfyniad ei hun o hyd.

Wrth helpu rhywun i wneud penderfyniad, dylech ei annog a'i gefnogi ac ystyried:

  • a oes ganddo'r holl wybodaeth sydd ei angen arno i wneud y penderfyniad
  • a ellir egluro neu gyflwyno'r wybodaeth mewn ffordd sy'n haws iddo ei deall
  • a oes amser penodol o'r dydd pan fydd yn deall pethau'n well
  • a yw'n ei chael hi'n haws gwneud penderfyniad mewn lle penodol, er enghraifft yn ei gartref ei hun

Os bydd yn gwneud penderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef, nid yw'n golygu na all wneud penderfyniadau drosto ei hun. Mae'n rhaid rhoi'r dewis iddo wneud ei benderfyniadau ei hun bob amser, p'un a ydych yn cytuno â hwy ai peidio.

Mae amgylchiadau pawb yn wahanol a bydd angen i chi asesu galluedd yr unigolyn cyn gwneud penderfyniad ar ei ran. Gweler 'deall y Ddeddf Galluedd Meddyliol' am fwy o ganllawiau.

Pryderon ynghylch rhywun yn cael ei gam-drin

Os ydych yn adnabod unigolyn sy'n agored i niwed sydd, yn eich barn chi, mewn perygl o gael ei gam-drin neu sy'n cael ei gam-drin, mae'n bwysig iawn rhoi gwybod i rywun.

Gall camdriniaeth fod yn:

  • gorfforol
  • rhywiol
  • seicolegol (megis bygythiadau, aflonyddu neu orfodi rhywun i fyw yn rhywle nad yw am fyw yno)
  • ariannol (megis rhoi pwysau ar rywun i roi arian, budd-daliadau neu eiddo)
  • esgeulustod (megis atal meddyginiaeth neu beidio â chael bwyd rheolaidd)

Efallai na fydd unigolyn sy'n cael ei gam-drin yn gallu rhoi gwybod am y gamdriniaeth mae'n ei ddioddef. Efallai y bydd angen eich help chi arno i ddweud wrth rywun sydd mewn awdurdod i ymchwilio i'r gamdriniaeth honedig a'i hatal rhag digwydd.

Efallai eich bod yn poeni eich bod yn anghywir neu'n pryderu am yr hyn a allai ddigwydd os byddwch yn rhoi gwybod amdano. Ond mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth rywun beth rydych yn meddwl sy'n digwydd.

Os ydych o'r farn bod rhywun yn cael ei gam-drin, dylech weithredu ar unwaith. Peidiwch â thybio y bydd rhywun arall yn gwneud hynny.

Pwy y dylech gysylltu ag ef os byddwch o'r farn bod rhywun mewn perygl dybryd

Os ydych o'r farn bod rhywun mewn perygl dybryd ac y gallai gael ei frifo, dylech ffonio 999 a dweud wrth y gweithredwr beth sy'n digwydd.

Pwy y dylech gysylltu ag ef os byddwch o'r farn bod rhywun mewn perygl llai dybryd

Os oes rhywun mewn perygl o gael ei gam-drin ond ei fod mewn perygl llai dybryd, dylech gysylltu â'r asiantaeth berthnasol. Ar gyfer pobl wahanol a phryderon gwahanol, mae gwahanol sefydliadau y dylech gysylltu â hwy.

Oedolion, plant neu bobl ifanc sy'n agored i niwed

Dylech gysylltu ag adran gwasanaethau oedolion neu blant yr awdurdod lleol lle mae'r unigolyn sy'n agored i niwed yn byw. Cewch fanylion cyswllt ar gyfer awdurdodau lleol gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Troseddau

Os oes gennych reswm da dros amau bod rhywun wedi cyflawni trosedd yn erbyn unigolyn sy'n agored i niwed, dylech gysylltu â'r heddlu.

Dylech hefyd gysylltu â gwasanaethau oedolion neu wasanaethau plant y cyngor lleol fel y gallant gefnogi'r dioddefwr.

Safonau gofal

Efallai eich bod yn pryderu ynghylch safon y gofal mewn cartref gofal, neu ynghylch y gofal a ddarperir gan ofalwr.

Yn yr achosion hyn dylech gysylltu ag adran gwasanaethau oedolion neu blant eich awdurdod lleol.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (yng Nghymru) drwy ffonio 01443 848450. Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch gysylltu â'r Comisiwn Ansawdd Gofal drwy ffonio 03000 616161.

Gofal iechyd neu driniaeth feddygol

Efallai eich bod yn pryderu ynghylch y gofal neu'r driniaeth a roddir i'r unigolyn gan y GIG, megis yn un o ysbytai neu glinigau'r GIG. Yn yr achosion hyn dylech gysylltu â rheolwyr y gwasanaeth.

Pryderon ynghylch atwrnai neu ddirprwy

Mae atwrneiod a dirprwyon yn bobl sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud hynny drostynt eu hunain. Dylent weithredu er budd yr unigolyn arall. Mae'n bosibl eu tynnu o'u swydd os na fyddant yn gwneud hynny.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU