Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i benderfynu a oes gan unigolyn ddiffyg galluedd i wneud penderfyniadau

Os ydych yn pryderu am les rhywun, mae angen i chi wybod a ydynt yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Gallai hyn olygu bod angen i rywun arall wneud penderfyniadau ar eu rhan. Mynnwch wybod sut y caiff galluedd meddyliol unigolyn ei asesu a sut y gallwch eu helpu i wneud penderfyniadau.

Pan fo gan unigolion ddiffyg galluedd meddyliol

Gall rhywun fod â diffyg galluedd meddyliol os oes ganddo anaf, anhwylder neu gyflwr sy'n effeithio ar y ffordd y mae ei feddwl yn gweithio. Gallai hyn olygu ei fod yn cael anhawster i wneud penderfyniadau drwy'r amser neu ei bod yn cymryd amser hir iddo wneud penderfyniad.

Sut y caiff galluedd meddyliol ei asesu

Dylid cynnal asesiad o alluedd meddyliol rhywun ar yr adeg pan fo angen gwneud penderfyniad penodol.

Bydd unrhyw asesiad yn dechrau gan dybio bod gan yr unigolyn y galluedd i wneud y penderfyniad dan sylw.

Ni ddylid seilio asesiad ar y canlynol yn unig:

  • eu hoedran
  • eu hymddangosiad
  • tybiaethau am eu cyflwr
  • unrhyw agwedd ar eu hymddygiad

Gall gyfreithiwr benderfynu os yw rhywun â’r galluedd i wneud penderfyniadau neu ddeall pethau megis ewyllys neu Atwrneiaeth Arhosol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gallant gael barn gan feddyg neu weithiwr proffesiynol addas arall.

Mae gan y Llys Gwarchod y grym i benderfynu os oes gan rywun y galluedd meddyliol neu beidio os oes anghydfod.

Sut i ddweud a all rhywun wneud penderfyniad

Mae sawl peth y dylech eu hystyried wrth asesu a all unigolyn wneud penderfyniad:

  • a yw'r unigolyn yn deall pa benderfyniad y mae angen iddo ei wneud a pham bod angen iddo wneud y penderfyniad hwnnw
  • a yw'r unigolyn yn deall beth allai ddigwydd os yw'n gwneud y penderfyniad hwn neu os nad yw'n ei wneud
  • a all yr unigolyn ddeall a phwyso a mesur y wybodaeth sy'n berthnasol i'r penderfyniad hwn
  • a all yr unigolyn gyfleu ei benderfyniad (drwy siarad, defnyddio iaith arwyddion neu unrhyw ddull arall)
  • a all yr unigolyn gyfathrebu gyda help gan weithiwr proffesiynol (megis therapydd lleferydd ac iaith)
  • a oes angen asesiad mwy trylwyr (efallai gan gynnwys meddyg neu arbenigwr proffesiynol arall)

Ni ddylech drin yr unigolyn fel rhywun nad yw'n gallu gwneud penderfyniad a hynny am ei fod wedi gwneud penderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn rhoi canllawiau manylach ar sut i asesu gallu rhywun i wneud penderfyniadau.

Os oes angen i chi wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall

Rhaid i chi wneud unrhyw benderfyniad a wnewch ar ran rhywun â diffyg galluedd er budd yr unigolyn hwnnw.

Wrth benderfynu beth sydd o fudd i rywun, mae rhai pethau cyffredin y mae angen i chi eu hystyried bob amser:

  • dylid ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol
  • dylech wneud pob ymdrech i annog a galluogi'r unigolyn â diffyg galluedd i gyfrannu at y penderfyniad
  • a oes posibilrwydd y bydd yr unigolyn yn adfer y galluedd i wneud penderfyniad penodol yn y dyfodol
  • dymuniadau a theimladau, credoau a gwerthoedd presennol a blaenorol yr unigolyn
  • safbwyntiau pobl eraill sy'n agos at yr unigolyn â diffyg galluedd, yn ogystal â safbwyntiau atwrnai neu ddirprwy

Mae dwy brif ffordd y gallwch wneud penderfyniad ar ran rhywun arall:

  • fel atwrnai o dan gytundeb Atwrneiaeth Barhaus neu Arhosol
  • drwy fod yn ddirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod

Trefniadau cyfreithiol yw'r rhain ac ni ellir cyflawni'r rolau hyn heb gytundeb y Llys Gwarchod neu Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae gan bob un o'r rolau hyn gyfrifoldebau a dyletswyddau y gallwch eu cyflawni ar ran rhywun arall.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU