Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Os ydych yn adnabod rhywun sy'n cael trafferth gwneud penderfyniadau am ei iechyd, ei arian neu ei les personol, neu'n gofalu amdano, efallai y bydd angen i chi wneud cais i'r Llys Gwarchod fel y gallwch chi (neu rywun arall) wneud penderfyniadau ar ei ran.

Beth y dylech ei wneud cyn gwneud cais

Cyn gwneud cais i'r Llys Gwarchod, dylech ddarllen am y ffordd y mae'n penodi dirprwyon fel eich bod yn gwybod popeth sydd angen i chi ei wybod. Mae'n esbonio beth mae'r Llys yn ei wneud a sut mae'n gwneud ei benderfyniadau.

Gwneud cais i'r Llys

Os ydych wedi darllen y manylion yn 'Y Llys Gwarchod' a bod angen i chi wneud cais i'r Llys, cam cyntaf y broses yw canfod a oes angen caniatâd arnoch gan y Llys i wneud cais. Yn gyffredinol:

  • fel arfer ni fydd angen caniatâd arnoch i wneud cais i'r Llys os yw'r cais yn ymwneud ag eiddo a materion personol - fodd bynnag, mae rhai achosion yn ymwneud â phenodi a diswyddo ymddiriedolwyr, a nifer fach o geisiadau yn ymwneud ag ewyllysiau a rhoddion, lle mae'n bosibl y bydd angen caniatâd y Llys arnoch
  • bydd angen caniatâd arnoch os bydd y cais yn ymwneud â lles personol

Os ydych yn ansicr ynghylch p'un a oes angen caniatâd arnoch yn eich achos penodol chi, gallwch gysylltu â'r Llys am gyngor. Dilynwch y ddolen isod i gael y manylion cyswllt.

Ffurflenni a chanllawiau ar gyfer gwneud cais

Bydd y ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi ar gyfer eich cais yn dibynnu ar eich sefyllfa benodol chi. Mae 10 o becynnau cais gwahanol, felly dylech ddewis yr un cywir o'r rhestr isod, ac yna dilyn y ddolen ar y diwedd er mwyn lawrlwytho'r pecyn. Os nad ydych yn gwybod a oes angen caniatâd arnoch i wneud cais, dylech gysylltu â'r Llys i gael cyngor drwy ddilyn y ddolen uchod i'r manylion cyswllt.

Pecyn cais 1 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud ag eiddo a materion personol yn unig lle nad oes angen caniatâd arnoch i wneud cais

Pecyn cais 2 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud ag eiddo a materion personol yn unig lle mae angen caniatâd arnoch i wneud cais

Pecyn cais 3 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud â lles personol yn unig lle nad oes angen caniatâd arnoch i wneud cais

Pecyn cais 4 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud â lles personol yn unig lle mae angen caniatâd arnoch i wneud cais

Pecyn cais 5 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud ag eiddo a materion personol a lles personol lle nad oes angen caniatâd arnoch i wneud cais

Pecyn cais 6 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud ag eiddo a materion personol a lles personol lle mae angen caniatâd arnoch i wneud cais

Pecyn cais 7 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud â chofrestru Atwrneiaeth Barhaus (i wrthwynebu cofrestriad neu wneud cais am gofrestriad yn dilyn cyfnod o atal)

Pecyn cais 8 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud â gwrthwynebiad (ar sail a ragnodir) i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Pecyn cais 9 - ar gyfer ceisiadau i ailystyried penderfyniad Llys

Pecyn cais 10 - ar gyfer ceisiadau'n ymwneud ag apêl yn erbyn penderfyniad Llys

Ffioedd y Llys Gwarchod

Ni chodir tâl am geisiadau a gwrandawiadau'n ymwneud â gwrthwynebu cofrestru Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth Arhosol, yn yr un modd â rhai apeliadau. Os ydych yn ansicr ynghylch p'un a fydd tâl yn cael ei godi am eich apêl, dylech ffonio'r Llys Gwarchod am gyngor ar y rhif canlynol: 0300 456 4600. Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.00 am a 5.00 pm, heblaw am ddydd Mercher pan fo'r llinellau ar agor rhwng 10.00 am a 5.00 pm.

Ffi am wneud cais: £400.00 - yn daladwy pan wneir cais i ddechrau achos Llys, neu pan wneir cais am ganiatâd i ddechrau achos

Ffi am apêl: £400.00 - yn daladwy pan gyflwynir hysbysiad apelydd sy'n apelio yn erbyn penderfyniad Llys neu'n gofyn am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad Llys

Ffi am wrandawiad: £500.00 - yn daladwy pan fo Llys wedi cynnal gwrandawiad i wneud penderfyniad ar y cais ac wedi gwneud y gorchymyn, y datganiad neu'r penderfyniad terfynol

Ffi am gopi o ddogfen: £5.00 - os oes angen copïau ychwanegol o orchymyn arnoch

Ffi am gopi o ddogfen ardystiedig: £0 - nid oes ffi am gopïau o ddogfennau ardystiedig mwyach

Dylid gwneud pob siec am ffioedd Llys yn daladwy i'r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Os hoffech dalu drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn, dylech ffonio 0300 456 4600 a gofyn am gael siarad â'r Tîm Rheoli Credyd.

Efallai y bydd rhai pobl, sydd ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau, yn cael eu heithrio o dalu'r ffioedd, neu dim ond rhan ohonynt y bydd angen iddynt ei thalu. Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, dilynwch y ddolen isod i ddarllen am eithriadau ac achosion o ddileu ffioedd.

Cyfrifoldeb am dalu'r ffioedd

Mae'r ffioedd am y cais a'r apêl yn daladwy gan yr unigolyn sy'n gwneud y cais neu'r apêl - fodd bynnag, efallai y bydd y Llys yn penderfynu y gall yr ymgeisydd adfer y ffi gan yr unigolyn y mae'n ymwneud ag ef, neu gan rywun arall.

Mae ffi'r gwrandawiad yn daladwy gan yr unigolyn sy'n gwneud y cais - ond efallai y bydd y llys yn penderfynu y gall yr ymgeisydd gael yr arian yn ôl gan yr unigolyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef, neu gan rywun arall. Os yw'r gwrandawiad yn ymwneud ag apêl, mae'n daladwy gan yr unigolyn sy'n gwneud yr apêl.

Mae ffioedd am gopïau o ddogfennau'n daladwy gan yr un sydd wedi gwneud cais am y copïau.

Y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gan y Llys

Mae gan y Llys Siarter sy'n nodi ansawdd y gwasanaeth y gall unrhyw un sy'n ei ddefnyddio ei ddisgwyl. Mae'n cynnwys gweinyddiaeth gwasanaethau'r Llys, yn hytrach nag unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llys. Er mwyn darllen y Siarter, dilynwch y ddolen isod.

Os ydych am gwyno am y gwasanaeth rydych wedi'i gael gan staff, dilynwch yr ail ddolen isod i gael manylion am sut i wneud hyn a'r ffurflen y mae angen i chi ei llenwi.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU