Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ceisiadau brys a cheisiadau llwybr carlam i'r Llys Gwarchod

Mae angen defnyddio'r ffurflenni perthnasol a gwybodaeth ategol i wneud ceisiadau i'r Llys Gwarchod. Fodd bynnag, os oes angen i chi wneud cais brys i'r Llys Gwarchod, neu ofyn iddo roi cais newydd neu gais sydd eisoes wedi'i wneud ar lwybr carlam, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau isod.

Sut a phryd i wneud cais brys

ceisiadau y mae angen i'r Llys eu hystyried o fewn 24 awr neu ar yr un diwrnod yw ceisiadau 'brys'

Os oes risg fawr y gall rhywun ddioddef colled neu niwed difrifol, gallwch wneud cais i'r Llys gan ddefnyddio'r weithdrefn frys.

Dim ond ar adegau pan fydd angen penderfyniad ar unwaith arnoch, lle mae angen i'r Llys ystyried y cais o fewn 24 awr neu ar yr un diwrnod y defnyddir y weithdrefn hon. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • ceisiadau am driniaeth feddygol frys
  • ceisiadau i atal rhywun rhag cael ei symud o'r fan lle mae'n byw
  • ceisiadau i weithredu ewyllys statudol neu drafodyn ariannol lle mae disgwyliad oes yr unigolyn yn fyr iawn

Er mwyn gwneud eich cais brys, dylech gysylltu â'r llys ar 0300 456 4600 a gofyn am gael siarad â'r 'Swyddog Busnes Brys'. Bydd yn trafod yr achos gyda chi ac yn gwneud trefniadau i gael eich cais a'i gyflwyno i farnwr. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio dydd Mercher pan fo ar agor rhwng 10.00 am a 5.00 pm.

Gwneud cais brys y tu allan i oriau swyddfa

Os oes angen i chi wneud cais brys i'r Llys Gwarchod y tu allan i'r oriau swyddfa arferol (er enghraifft, ar y penwythnos, neu cyn 9.00 am neu ar ôl 5.00 pm yn ystod yr wythnos), dylech ffonio switsfwrdd y Llysoedd Barn Brenhinol ar 020 7947 6000 a gofyn am y swyddog diogelwch ('Security'). Bydd y swyddog diogelwch yn gallu cysylltu â'r swyddog neu'r clerc busnes brys cywir i'ch helpu.

Sut a phryd i roi cais ar lwybr carlam

gellir rhoi ceisiadau ar lwybr carlam mewn sefyllfaoedd penodol

Efallai y bydd sefyllfaoedd lle bydd angen penderfyniad cyflym arnoch gan y llys, neu lle rydych eisoes wedi gwneud cais ac mae'r amgylchiadau wedi newid ac mae angen prosesu eich cais yn gyflymach na'r disgwyl. Os bydd hyn yn digwydd, gellir rhoi eich cais 'ar lwybr carlam'.

Fel arfer bydd y Llys yn cytuno i roi achosion ar lwybr carlam pan fo'r unigolyn yn debygol o wynebu colled ariannol os na chymerir camau. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • gwerthu neu brynu eiddo lle mae risg uniongyrchol y gallech golli prynwr
  • penodi ymddiriedolwr newydd i werthu eiddo lle mae risg uniongyrchol y gallech golli prynwr
  • buddsoddiad arian lle mae'r terfyn amser yn agosáu
  • rhyddhau arian i dalu am ofal a gwaith cynnal a chadw critigol

Os ydych eisoes wedi gwneud cais, ond mae angen i chi ei roi ar lwybr carlam bellach:

Os ydych eisoes wedi gwneud cais a bod angen cyfarwyddiadau arnoch ar unwaith cyn y gwneir penderfyniad ar eich prif gais, gallwch wneud 'cais yn ystod achos'. Byddai angen hyn, er enghraifft, os ydych eisoes wedi gwneud cais i gael eich penodi'n Ddirprwy, ond mae disgwyl bellach i'r unigolyn gael ei ryddhau o'r ysbyty ac mae angen i chi allu defnyddio ei arian i wneud addasiadau i'w gartref.

Er mwyn gwneud cais yn ystod achos, dilynwch y ddolen isod i wneud cais am gyfarwyddiadau dros dro (ffurflen COP9), cwblhewch y ffurflen a'i hanfon. Nid oes ffi ychwanegol am hyn.

Rhoi cais a wnaed eisoes ar lwybr carlam:

Yn aml, os bydd mater pwysig yn codi, yna, yn hytrach na delio â chais yn ystod achos (fel yr esbonnir uchod), gallai'r llys roi'r cais rydych eisoes wedi'i wneud ar lwybr carlam. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os ydych eisoes wedi gwneud cais i gael eich penodi'n Ddirprwy, ond bod angen gorchymyn brys arnoch gan y llys bellach i werthu'r eiddo er mwyn osgoi colli prynwr posibl.

Fel arfer, dim ond os yw'r llys wedi cyhoeddi (stampio a dychwelyd) eich cais a'ch bod wedi hysbysu pobl bod eich cais wedi'i gyhoeddi y gall y cais rydych eisoes wedi'i wneud gael ei roi ar lwybr carlam. Os nad yw hyn wedi digwydd, dylech wneud 'cais yn ystod achos' o hyd, fel yr esbonnir uchod.

Os yw'r cais rydych wedi'i wneud bellach yn un brys a hoffech roi eich cais ar lwybr carlam, dylech ffonio 0300 456 4600 a gofyn am gael siarad â'r 'Swyddog Busnes Llwybr Carlam' er mwyn ei drafod. Unwaith y caiff eich cais ei roi ar lwybr carlam, y nod yw ei gyfeirio at y Llys o fewn pum diwrnod ac anfon y gorchymyn atoch neu ddweud wrthych pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen o fewn deg diwrnod gwaith i benderfyniad y Llys.

Y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gan y Llys

Mae gan y Llys Siarter sy'n nodi safon y gwasanaeth y gall unrhyw un sy'n ei ddefnyddio ei disgwyl. Mae'n cwmpasu'r gwaith o weinyddu gwasanaethau'r Llys, yn hytrach nag unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llys. Er mwyn darllen y Siarter, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU