Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Atwrneiaeth Arhosol - faint mae'n ei gostio

Pan fyddwch yn llunio Atwrneiaeth Arhosol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd. Mynnwch wybod faint yw'r ffioedd i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol ac a oes rhaid i chi eu talu. Gall gymryd hyd at naw wythnos i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol.

Ffi cais i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol

Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru eich Atwrneiaeth Arhosol, codir ffi o £130.

Codir ffi ar wahân ar gyfer pob Atwrneiaeth Arhosol rydych yn gwneud cais i'w chofrestru â Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Er enghraifft, mae'n costio £260 i wneud cais i gofrestru Atwrneiaeth Arhosol iechyd a lles a hefyd Atwrneiaeth Arhosol eiddo a materion ariannol. Mae'r gost yn talu am y gwaith a wneir wrth brosesu cais, archwilio'r dogfennau, cyflwyno hysbysiadau a rhoi gwybod i ymgeiswyr a oes unrhyw wallau.

Ad-daliadau a chywiriadau i'ch cais

Nid oes ad-daliad ar gael os byddwch chi neu'ch atwrnai yn marw cyn bod y cofrestriad wedi'i gwblhau. Ni cheir ad-daliad os bydd y cais yn annilys neu'n amherffaith. Fodd bynnag, gellir cywiro rhai ceisiadau heb orfod gofyn i chi wneud cais i gofrestru'r ddogfen eto.

Dylech sicrhau y caiff eich ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol eu llenwi'n gywir, fel nad ydych yn talu mwy na'r angen.

Cael copi o'ch Atwrneiaeth Arhosol

Byddwch yn cael copi o'ch Atwrneiaeth Arhosol wedi'i chofrestru.

Gall y rhoddwr wneud copïau ardystiedig o'r Atwrneiaeth Arhosol os bydd ganddo'r galluedd meddyliol o hyd. Gellir gwneud hyn drwy gopïo'r ddogfen gofrestredig ac ysgrifennu'r testun canlynol ar waelod pob tudalen:

Ardystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o'r Atwrneiaeth Arhosol wreiddiol

Yna, mae'n rhaid i'r rhoddwr lofnodi gwaelod pob tudalen.

Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, gall cyfreithiwr wneud copïau ardystiedig o'r Atwrneiaeth Arhosol.

Pwy sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd?

Yr unigolyn sy'n cofrestru'r Atwrneiaeth Arhosol sy'n gyfrifol am dalu unrhyw ffioedd. Gellir hawlio'r gost hon o arian y rhoddwr (yr unigolyn a luniodd yr Atwrneiaeth Arhosol).

Os telir y ffi i gael copi o ffurflenni'r Atwrneiaeth Arhosol, dylai pwy bynnag sy'n gwneud cais am y copi dalu'r ffi. Fel arfer gellir hawlio hwn o arian y rhoddwr.

Cael gwybod a ydych wedi'ch eithrio rhag talu ffioedd

Nid oes rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Yr elfen Credyd Gwarantedig Pensiwn o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth (ni fyddwch yn gymwys os cyfrifir hwn fel dim)
  • cyfuniad o Gredyd Treth Gwaith a naill ai Credyd Treth Plant, Elfen Anabledd Credyd Treth Gwaith neu Elfen Anabledd Difrifol
  • Budd-dal Tai; neu Fudd-dal Treth Cyngor (ond heb gynnwys y gostyngiad o 25 y cant ar gyfer pobl sengl)
  • Lwfans Tai Lleol

Gallwch ofyn am eithriad o ffioedd pan fyddwch yn talu'r ffi. Mae'n rhaid i'ch cais gynnwys tystiolaeth ategol, megis llythyr swyddogol neu hysbysiad hawl gan y darparwr budd-daliadau priodol. Ni ddylai fod yn hŷn na thri mis oed, mae'n rhaid iddi gynnwys eich teitl, eich enw llawn, eich cyfeiriad a'ch cod post. Mae'n rhaid iddi hefyd gadarnhau eich bod yn cael y budd-dal ar hyn o bryd.

Os na fyddwch yn cyflwyno'r dystiolaeth gywir, bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi lawn.

Dileu ffioedd - cael gostyngiad rhannol

Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael eithriad o ffioedd, mae'n bosibl o hyd na fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi lawn. Gelwir cael gostyngiad ar ffioedd yn 'ddilead ffioedd' ('fee remission' yn Saesneg).

Mae dileu ffioedd yn seiliedig ar eich incwm blynyddol cyn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol. Caiff budd-daliadau'r wladwriaeth, pensiynau, llog o unrhyw fuddsoddiadau a budd-daliadau heb fod ar sail prawf modd (megis Lwfans Byw i'r Anabl) eu hystyried hefyd.

Os yw eich incwm blynyddol gros yn llai na £12,000, dim ond 50 y cant o'r ffi cais i gofrestru y bydd angen i chi ei dalu.

Sut i wneud cais am eithriad neu ddilead ffioedd

Er mwyn gwneud cais am eithriad neu ddilead ffioedd, dylech gwblhau ffurflen 'LPA120 - Cais am eithriad neu ddilead ffioedd'. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen hon gan ddefnyddio’r ddolen isod. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r ffurflen hon, dylech ei hanfon i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y cyfeiriad canlynol:

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Gallwch ddarllen gwybodaeth fanylach am ffioedd, eithriadau a dilead ffioedd drwy ddilyn y ddolen i'r daflen 'LPA120 - Ffioedd Atwrneiaeth Arhosol'.

Sut y dylid talu'r ffioedd?

Gellir talu ffioedd naill ai drwy siec neu gerdyn credyd/debyd.

Os ydych yn talu drwy siec, dylid ei gwneud yn daladwy i ‘Office of the Public Guardian’. Dylid hefyd ysgrifennu enw'r cleient (y rhoddwr) ar gefn y siec. Os ydych yn gwybod rhifau'r achos a'r ffi, yna dylech eu hysgrifennu ar gefn y siec hefyd.

Er mwyn talu drwy gerdyn credyd neu ddebyd, bydd angen i chi ffonio 0121 450 6686.

Additional links

Ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol

Cael y ffurflenni sydd angen arnoch i gofrestru Atwrniaeth Arhosol

Cyngor ar iechyd meddwl gan y GIG

Mae gwefan NHS Choices yn cynnig help a chyngor ar ddementia ac iselder

Allweddumynediad llywodraeth y DU