Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canllaw i ddirprwyon sy'n defnyddio Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gellir agor cyfrifon Swyddfa Cronfeydd y Llys ar gyfer pobl na allant wneud penderfyniadau am eu harian eu hunain. Golyga hyn y gellir rheoli eu harian yn briodol. Cael gwybod beth mae angen i ddirprwy fod yn ymwybodol ohono pan fydd yn gofalu am gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys i rywun arall.

Rôl dirprwy

Gall ddirprwy gael ei benodi gan y Llys Gwarchod i ofalu am arian rhywun nad yw'n gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun. Er enghraifft, efallai y bydd gan yr unigolyn gyflwr iechyd meddwl sy'n effeithio ar ei allu i lunio barn. Mae gan ddirprwy rolau a chyfrifoldebau penodol a rhaid iddo wneud penderfyniadau er budd yr unigolyn arall.

Os byddwch yn cael eich penodi'n ddirprwy gan y Llys Gwarchod, rhoddir dogfen swyddogol a elwir yn orchymyn llys i chi. Bydd y ddogfen hon yn nodi eich cyfrifoldebau a pha benderfyniadau y gallwch eu gwneud ar ran rhywun arall.

Mae'r pwerau y gellir eu rhoi i chi fel dirprwy yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn rydych wedi eich penodi i'w helpu.

Pan fyddwch yn gweithredu fel dirprwy, gall y penderfyniadau a wnewch gael effaith fawr ar yr unigolyn arall. Er mwyn cyflawni eich cyfrifoldebau yn briodol, dylech gofio'r pethau canlynol:

  • dim ond y penderfyniadau hynny y mae'r gorchymyn llys caniatáu i chi eu gwneud y dylech eu gwneud
  • gwnewch benderfyniadau er budd yr unigolyn arall
  • talwch sylw i'r holl ganllawiau perthnasol yng nghod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Agor cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys ar gyfer rhywun arall

Efallai y bydd angen i chi agor cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys os ydych wedi eich penodi'n ddirprwy gan y Llys Gwarchod. Er mwyn agor cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys ar gyfer rhywun arall, bydd angen i chi gwblhau dwy ffurflen:

  • ffurflen A - mae angen hon er mwyn gallu codi arian o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys
  • ffurflen L - mae hon yn eich galluogi i wneud taliadau i mewn i gyfrif

Wrth gwblhau ffurflen A, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cwblhau neu'n cynnwys y canlynol:

  • enw llawn y cleient (yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy iddo)
  • rhif yr achos (nodir hwn ar y gorchymyn llys a roddwyd i chi pan gawsoch eich penodi'n ddirprwy)
  • tic yn y blwch 'MANYLION NEWYDD'
  • dyddiad y gorchymyn (nodir hwn ar y gorchymyn llys)
  • manylion y cyfrif banc y byddwch yn ei ddefnyddio fel dirprwy
  • eich manylion cyswllt, gan sicrhau eich bod yn llofnodi ac yn dyddio'r ffurflen
  • cyfriflen banc ddiweddar o'r cyfrif banc y byddwch yn ei ddefnyddio fel dirprwy (tri mis oed fan bellaf)

Anfonwch y ddwy ffurflen wedi'u cwblhau a chopi wedi’i selio o'r gorchymyn llys a roddwyd i chi pan gawsoch eich penodi'n ddirprwy i:

Court Funds Office
Glasgow

G58 1AB

Gellir lawrlwytho ffurflen A a ffurflen L o'r dolenni isod:

Allweddumynediad llywodraeth y DU