Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud taliadau o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn cadw arian mewn cyfrifon i bobl na allant wneud eu penderfyniadau ariannol eu hunain. Gall dirprwyon a benodir gan y llys ddefnyddio'r arian hwnnw i dalu am bethau megis gofal iechyd a chostau byw. Mynnwch wybod sut y gellir gwneud taliadau o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys.

Taliadau o gyfrifon plant gyda Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gellir cadw arian a ddyfernir o ganlyniad i achos llys i rywun sydd o dan 18 oed mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys. Mynnwch wybod mwy am gyfrifon plant gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Taliadau rheolaidd o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gall taliadau rheolaidd gael eu gwneud yn awtomatig ac maent yn ddefnyddiol ar gyfer costau megis gofal iechyd a ffioedd cartrefi nyrsio.

Telir taliadau rheolaidd yn uniongyrchol i gyfrif banc y dirprwy penodedig.

Pennu terfynau taliadau

Efallai y bydd y Llys Gwarchod yn pennu terfynau taliadau. Bydd unrhyw derfynau wedi'u cynnwys yn y gorchymyn llys gwreiddiol. Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn edrych ar y cyfrif a'r gorchymyn llys er mwyn sicrhau mai dim ond y symiau cywir o arian a delir.

Telir taliadau yn awtomatig yn rheolaidd - yn fisol, yn chwarterol, bob chwe mis neu'n flynyddol.

Trefnu taliadau

Adolygir taliadau rheolaidd bob dwy flynedd. Os ydych wedi eich penodi'n ddirprwy, bydd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn ysgrifennu atoch ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd. Bydd yn gofyn a ydych am barhau â'r taliadau, eu newid neu eu canslo.

Bydd y taliadau'n parhau yn awtomatig oni fyddwch yn penderfynu eu newid.

Trefnu taliadau rheolaidd o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Bydd angen i chi gwblhau ffurflen R i drefnu taliadau rheolaidd o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys. Gallwch lawrlwytho ffurflen R gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Wrth gwblhau ffurflen R, sicrhewch eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw'r cleient - yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy iddo
  • rhif yr achos - nodir hwn ar y gorchymyn llys
  • unrhyw derfyn blynyddol a bennwyd gan y llys - nodir hwn ar y gorchymyn llys
  • unrhyw ddyddiad ar gyfer adnewyddu eich terfyn blynyddol - nodir hwn ar y gorchymyn llys
  • dylid ticio'r blwch 'NEW' i ddangos mai taliad rheolaidd newydd yw hwn
  • y swm o arian i'w dalu, wedi'i nodi mewn geiriau a rhifau
  • pa mor aml i'w dalu
  • y dyddiad dechrau
  • manylion eich cyfrif
  • eich manylion cyswllt

Yna rhaid i chi lofnodi'r ffurflen a'i dyddio.

Newid neu atal taliad rheolaidd o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Er mwyn newid taliad rheolaidd - er enghraifft, newid pa mor aml y caiff y taliad ei wneud - bydd angen i chi gwblhau ffurflen R.

Er mwyn newid taliad rheolaidd, rhaid ticio'r blwch 'Amending' ar y ffurflen a chynnwys y manylion newydd ar gyfer y taliad.

Er mwyn atal taliadau rheolaidd, rhaid ticio'r blwch 'Stop' ar y ffurflen.

Yna rhaid i chi lofnodi a dyddio'r ffurflen a'i hanfon i:

Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB

Gwneud taliadau untro o gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gall dirprwyon wneud cais am daliad untro o gyfrif. Er enghraifft, i dalu am wyliau i'r unigolyn y maent yn gyfrifol amdanynt.

Efallai y bydd y Llys Gwarchod yn pennu terfyn ar y swm y gellir ei dalu. Bydd unrhyw derfyn wedi'i gynnwys ar y gorchymyn llys gwreiddiol. Bydd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn cadarnhau na fydd taliadau yn mynd y tu hwnt i'r terfyn a bennwyd.

Er mwyn gwneud cais am daliad untro bydd angen i chi gwblhau ffurflen P. Gallwch lawrlwytho ffurflen P gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Wrth gwblhau ffurflen P, sicrhewch eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw'r cleient - yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy iddo
  • rhif yr achos - nodir hwn ar y gorchymyn llys
  • unrhyw derfyn blynyddol a bennwyd gan y llys - nodir hwn ar y gorchymyn llys
  • unrhyw ddyddiad ar gyfer adnewyddu'r terfyn blynyddol - nodir hwn ar y gorchymyn llys
  • y swm o arian i'w dalu, wedi'i nodi mewn geiriau a rhifau
  • manylion y cyfrif y telir yr arian i mewn iddo
  • eich manylion cyswllt

Yna rhaid i chi lofnodi'r ffurflen a'i dyddio.

Os nad ydych wedi cael taliad o'r cyfrif o'r blaen, bydd hefyd angen i chi gwblhau ffurflen A. Gallwch lawrlwytho'r ffurflen hon gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Rhaid i chi ddarparu manylion y cyfrif y telir yr arian i mewn iddo. Bydd hefyd angen i chi ddarparu:

  • copi o gyfriflen banc o'r cyfrif hwnnw neu lythyr o'ch banc (tri mis oed fan bellaf)
  • copi wedi'i selio o'r gorchymyn llys

Yna rhaid i chi lofnodi a dyddio'r ffurflenni a'u hanfon i:

Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB

Allweddumynediad llywodraeth y DU