Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Talu arian i mewn i gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gall arian gael ei dalu i mewn i gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys gan ddirprwy neu gan rywun o ganlyniad i achos llys neu setliad. Mynnwch wybod sut i dalu arian i mewn i gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys.

Pryd y gall arian gael ei dalu i mewn i gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gall y Llys Gwarchod benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall. Os ydych wedi cael eich penodi'n ddirprwy i rywun, gallwch dalu arian i mewn i'w gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys. Gall yr arian fod o gynilion, o werthu tŷ, etifeddiaeth neu o werthu stociau neu gyfranddaliadau mewn cwmni.

Gellir hefyd dalu arian i mewn i Swyddfa Cronfeydd y Llys o ganlyniad i achos llys neu setliad. Os bydd angen talu arian o ganlyniad i achos llys, bydd y llys yn cyfarwyddo'r amddiffynnydd i wneud hynny.

Agor cyfrif y Llys Gwarchod

Os ydych wedi cael eich penodi'n ddirprwy, gallwch agor cyfrif gyda Swyddfa Cronfeydd y Llys ar ran rhywun arall. Os nad ydych wedi agor cyfrif eto, gallwch wneud hynny drwy gwblhau ffurflen A a ffurflen L.

Gellir lawrlwytho ffurflen A a ffurflen L o'r dolenni isod:

I gael mwy o wybodaeth am agor cyfrif ar ran rhywun arall defnyddiwch y ddolen 'Canllaw i ddirprwyon sy'n defnyddio Swyddfa Cronfeydd y Llys'.

Gwneud taliad i mewn i gyfrif y Llys Gwarchod

Er mwyn talu arian i mewn i gyfrif rydych wedi'i agor fel dirprwy, bydd angen y canlynol ar Swyddfa Cronfeydd y Llys:

  • ffurflen L (taliadau i mewn i Swyddfa Cronfeydd y Llys)
  • copi wedi'i selio o'r gorchymyn llys gwreiddiol lle y cawsoch eich penodi'n ddirprwy
  • siec am y swm i'w dalu i mewn, yn daladwy i 'Accountant General of the Senior Courts'

Er mwyn cwblhau ffurflen L, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn nodi'r canlynol:

  • enw llawn y cleient (yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy iddo)
  • rhif yr achos (nodir hwn ar y gorchymyn llys)
  • y swm o arian i'w dalu i mewn (mewn geiriau a rhifau)
  • eich manylion cyswllt, gan sicrhau eich bod yn llofnodi ac yn dyddio'r ffurflen

Dylid anfon ffurflen L wedi'i chwblhau, eich siec a chopi wedi'i selio o'r gorchymyn llys i:

Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB

Bydd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn anfon derbynneb atoch i gydnabod eich taliad o fewn pum diwrnod gwaith.

Gwneud taliad o ganlyniad i achos llys

Os oes angen i chi wneud taliad i Swyddfa Cronfeydd y Llys o ganlyniad i achos llys, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • Ffurflen 100 wedi'i chwblhau
  • copi wedi'i selio o'r gorchymyn llys

Rhaid i chi anfon y rhain i Swyddfa Cronfeydd y Llys yn y cyfeiriad canlynol:

Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB

Rhaid i chi anfon siec sy'n daladwy i 'Accountant General of the Senior Courts’ hefyd. Gallwch lawrlwytho Ffurflen 100 gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Gwneud taliad mewn arian cyfred tramor

Ni ellir gwneud taliadau arian cyfred tramor i Swyddfa Cronfeydd y Llys oni fydd y gorchymyn llys yn caniatáu i chi wneud hynny. Ym mhob achos arall, rhaid i'r taliad gael ei wneud mewn punnoedd sterling y DU.

Gallwch wneud taliadau arian cyfred tramor i Swyddfa Cronfeydd y Llys drwy drosglwyddiad electronig. Mae hyn yn golygu y gall eich banc drosglwyddo'r arian yn uniongyrchol i Swyddfa Cronfeydd y Llys. Bydd eich banc yn gallu eich helpu i drefnu hyn.

O dan rai amgylchiadau gellir gwneud taliadau drwy siec neu ddrafft banc (yn daladwy i 'Accountant General of the Senior Courts').

Er mwyn gwneud taliad i Swyddfa Cronfeydd y Llys mewn arian cyfred tramor, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • copi wedi'i selio o'r gorchymyn llys
  • eich siec neu ddrafft banc (oni fyddwch yn gwneud taliad electronig)
  • ffurflen 100 wedi'i chwblhau

Yna dylech anfon y rhain i'r cyfeiriad canlynol:

Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB

Os ydych yn gwneud taliad electronig, bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Cronfeydd y Llys ymlaen llaw i wneud y trefniadau. Cewch wybod ble i drosglwyddo'r arian ar ôl i'r wybodaeth hon gael ei hanfon a'i chymeradwyo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU