Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn buddsoddi arian

Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn cadw arian ar ran plant neu bobl na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain. Caiff yr arian hwn ei fuddsoddi er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gallu cynyddu mewn gwerth. Mynnwch wybod sut mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn buddsoddi'r arian y mae'n gofalu amdano.

Y mathau gwahanol o gyfrifon Swyddfa Cronfeydd y Llys

Cedwir y rhan fwyaf o'r arian ar ran cleientiaid mewn cyfrifon arbennig neu sylfaenol. Gellir buddsoddi gweddill yr arian yn y farchnad stoc.

Cyfrifon arbennig

Defnyddir cyfrifon arbennig yn bennaf ar gyfer cleientiaid y Llys Gwarchod a phlant y mae arian wedi'i ddyfarnu iddynt o achos llys.

Cyfrifon sylfaenol

Defnyddir cyfrifon sylfaenol ar gyfer arian a gedwir ar adnau yn ystod achosion llys sifil o dan amrywiol ddeddfwriaeth statudol.

Mae arian a gedwir mewn cyfrif sylfaenol neu arbennig wedi'i warantu gan Drysorlys EM, sy'n golygu bod yr arian yn gwbl ddiogel. Telir llog ar yr arian a gedwir mewn cyfrifon arbennig a sylfaenol.

Llog ar gyfrifon Swyddfa Cronfeydd y Llys

Gallwch ennill llog os telir arian i mewn i gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys.

Mae dwy gyfradd llog wahanol ar gyfer cyfrifon arbennig a sylfaenol Swyddfa Cronfeydd y Llys.

Mae'r cyfraddau llog cyfredol fel a ganlyn:

  • cyfrif sylfaenol - 0.3 y cant
  • cyfrif arbennig - 0.5 y cant

Nid yw'r cyfraddau hyn yn sefydlog a gallant newid unrhyw bryd.

Fel arfer, telir llog sylfaenol yn achosion y llys sirol neu'r Uchel Lys sy'n ymwneud ag oedolion.

Telir y gyfradd arbennig i gyfrifon cleientiaid y Llys Gwarchod a chyfrifon plant yn bennaf.

Caiff llog ei gyfrifo drwy luosi'r swm a gedwir mewn cyfrif â'r gyfradd llog gyfredol (canran, fel uchod). Caiff y ffigur hwn ei luosi â nifer y diwrnodau sy'n gymwys ar gyfer llog. Yna caiff y cyfanswm ei rannu â 365.

Buddsoddiadau Swyddfa Cronfeydd y Llys yn y farchnad stoc

Gall Swyddfa Cronfeydd y Llys fuddsoddi arian ar ran rhywun drwy ddefnyddio'r Gronfa Mynegai Tracio Ecwiti (ETIF). Ffordd o fuddsoddi yn y farchnad stoc yw hon.

Dim ond rhai pobl a gaiff wneud buddsoddiadau ecwiti. Fel arfer, mae'r rhain yn cynnwys plant o dan 13 oed y mae £10,000 neu fwy wedi'i ddyfarnu iddynt a chleientiaid y Llys Gwarchod. Pobl na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain yw cleientiaid y Llys Gwarchod. Gall y llys benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar ran yr unigolyn dan sylw neu gall y llys wneud y penderfyniad ar ei ran.

Mae'r Gronfa Mynegai Tracio Ecwiti yn buddsoddi mewn amrywiaeth eang o gwmnïau gwahanol, yn hytrach na buddsoddi mewn un cwmni neu ychydig o gwmnïau unigol. Er bod y risgiau yn is na buddsoddiadau eraill, gall gwerth y gronfa ostwng yn ogystal â chodi.

Mae gwerth cyfredol uned o'r Gronfa Mynegai Tracio Ecwiti ar gael ar wefan y Financial Times. Bydd yn rhoi'r pris fesul cyfranddaliad ar ddiwedd y diwrnod masnachu blaenorol.

Sut y gwneir penderfyniadau ynglŷn â buddsoddiadau

Ar gyfer cleientiaid y Llys Gwarchod, caiff arian ei fuddsoddi yn seiliedig ar gyfarwyddiadau gan y Llys Gwarchod, dirprwy neu reolwr buddsoddi a benodwyd gan ddirprwy.

Ar gyfer cyfrifon plant, bydd y llys yn penderfynu sut i fuddsoddi'r arian yn ôl y dewisiadau a gynigir gan Swyddfa Cronfeydd y Llys.

Gwrthwynebu'r ffordd y mae arian wedi cael ei fuddsoddi

Gall cleientiaid Swyddfa Cronfeydd y Llys, neu eu cynrychiolwyr, wneud cais i'r llys i newid y ffordd y caiff arian o gyfrif ei fuddsoddi. Mae hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y llys ac fel arfer bydd ffi am wneud cais i'r llys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU