Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gelwir arian a adawyd mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys heb ei gyffwrdd am ddeng mlynedd neu fwy yn falans nas hawliwyd. Gall hefyd ddigwydd pan na ellir cysylltu â gwir berchennog cyfrif. Mynnwch wybod sut i wneud hawliad mewn perthynas â chyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys.
Weithiau, dyfernir setliad o ganlyniad i achos llys i bobl nad ydynt yn gwybod bod ganddynt hawl i unrhyw arian. Hefyd, efallai y bydd rhywun yn colli cysylltiad â Swyddfa Cronfeydd y Llys neu heb wybod bod unrhyw arian wedi'i dalu i mewn i'r llys ar ei ran. Bydd Swyddfa Cronfeydd y Llys bob amser yn ceisio cysylltu ag unrhyw un sydd â £400 o arian nas hawliwyd neu fwy.
Os yw'r arian wedi'i adael mewn cyfrif heb ei gyffwrdd am ddeng mlynedd neu fwy fe'i gelwir yn falans nas hawliwyd. Gellir hefyd ei alw'n falans nas hawliwyd cyn deng mlynedd os na all Swyddfa Cronfeydd y Llys ddod o hyd i'r gwir berchennog.
Os ydych yn credu bod balans nas hawliwyd yn eiddo i chi neu rywun rydych yn gyfrifol amdano, ffoniwch linell gymorth Swyddfa Cronfeydd y Llys ar 0845 223 8500. Ni roddir gwybodaeth i chi dros y ffôn oni fyddwch yn gallu profi mai chi yw'r unigolyn sydd â'r hawl i gael yr arian.
Gallwch hefyd wneud cais ysgrifenedig i Swyddfa Cronfeydd y Llys a bydd yn gwneud chwiliad ar eich rhan:
Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB
Gallwch hefyd chwilio am falans nas hawliwyd ar y rhyngrwyd. Bydd angen i chi wybod rhif y cyfrif neu enw'r unigolyn roedd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn cadw'r arian ar ei ran.
Er mwyn chwilio am falans nas hawliwyd, mae angen i Swyddfa Cronfeydd y Llys gael cymaint o wybodaeth ag y gallwch ei darparu ynglŷn â'r cyfrif a'r hawl sydd gennych iddo. Er enghraifft:
Bydd hefyd angen tystiolaeth o bwy ydych chi ar Swyddfa Cronfeydd y Llys. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol megis tystysgrif geni, priodas neu farwolaeth pan fyddwch yn gwneud cais am chwiliad. Bydd y Swyddfa Cronfeydd Llys yn derbyn copïau o'r dogfennau hyn.
Mae cofnodion Swyddfa Cronfeydd y Llys yn gyfrinachol. Ni chewch weld y cofnodion oni fyddwch yn gallu darparu tystiolaeth o 'fuddiant llesiannol'.
Os bydd eich chwiliad am falans nas hawliwyd yn llwyddiannus a'ch bod yn gallu profi eich hawl, gallwch wneud cais i gael yr arian. Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu i'r llys lle y cafodd yr achos ei wrando'n wreiddiol.
Dylech sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a ddaeth i law o ganlyniad i'r chwiliad.
Efallai y bydd angen i chi dalu ffi i'r llys er mwyn i'ch cais gael ei brosesu. Dylech gysylltu â'r llys lle y gwnaed y gorchymyn llys gwreiddiol i weld a oes ffi a faint y bydd yn ei gostio.
Efallai y bydd ffioedd y llys yn fwy na'r arian a gewch o'r cyfrif. Dylech ystyried hyn wrth wneud cais.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y llys yn rhoi gwybod i Swyddfa Cronfeydd y Llys, a fydd wedyn yn trefnu i chi gael eich talu. Gallai'r broses hon gymryd hyd at dri mis o'r adeg y byddwch yn gwneud cais am falans nas hawliwyd i ddechrau i'r adeg y byddwch yn cael yr arian.
Nid yw pob cais i Swyddfa Cronfeydd y Llys yn llwyddiannus. Byddwch yn cael gwybod os caiff eich cais ei wrthod.
Beth sy'n digwydd os na all y llys gwreiddiol ymdrin â'ch cais
Weithiau, ni fydd y llys lle y gwnaed y gorchymyn gwreiddiol yn gallu ymdrin â chais am falans nas hawliwyd. Gall hyn ddigwydd am nad oes gan y llys unrhyw waith papur ynglŷn â'r achos mwyach. Gallwch ysgrifennu at Uwch Feistr Is-adran Mainc y Frenhines os na all y llys eich helpu gyda'ch cais.
Dylech ysgrifennu llythyr sy'n cynnwys yr holl fanylion sydd gennych sy'n berthnasol i'ch cais a'r achos llys gwreiddiol. Dylech anfon y llythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol:
Royal Courts of Justice
Judgement Orders Section (Unclaimed Balances)
Room E19
Queen's Bench Division
Strand
London
WC2A 2LL
Bydd hefyd angen i chi gynnwys datganiad tyst wedi'i gwblhau. Gallwch lawrlwytho'r datganiad tyst gan ddefnyddio'r ddolen isod.