Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pan gedwir arian gan Swyddfa Cronfeydd y Llys

Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn gofalu am arian i bobl na allant wneud penderfyniadau am eu harian eu hunain. Mae hefyd yn gofalu am arian i bobl o dan 18 oed y mae arian wedi'i ddyfarnu iddynt o achos llys. Mynnwch wybod sut mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn gofalu am yr arian hwn.

Sut mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn gweithio

Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn darparu gwasanaeth gweinyddu bancio i'r llysoedd sifil yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys yr Uchel Lys.

Mae'r achosion lle y gall Swyddfa Cronfeydd y Llys gadw arian yn cynnwys:

  • pan ddyfernir iawndal i blentyn o ganlyniad i gamau cyfreithiol sifil yn y llys sirol neu'r Uchel Lys
  • pan fydd y Llys Gwarchod yn penderfynu na all unigolyn wneud ei benderfyniadau ei hun
  • pan gedwir arian yn y llys wrth aros i achos llys gael ei setlo

Fel arfer, bydd y Llys Gwarchod yn penodi dirprwy os na all unigolyn wneud ei benderfyniadau ei hun. Bydd gan y dirprwy gyfrifoldebau a phwerau penodol a nodir yn glir gan y llys.

Cedwir arian mewn 'cyfrif arbennig' i blentyn neu rywun na all wneud ei benderfyniadau ei hun. Os cedwir yr arian hyd nes y caiff achos sifil ei setlo, fe'i rhoddir mewn 'cyfrif sylfaenol'.

Mae cyfrifon arbennig a chyfrifon sylfaenol yn talu cyfraddau llog gwahanol. Bydd hyn yn effeithio ar werth y cyfrifon dros amser. Cewch fwy o wybodaeth am y cyfraddau llog a sut mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn buddsoddi arian gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Cyfrifon plant gyda Swyddfa Cronfeydd y Llys

Weithiau, dyfernir arian i blant sydd o dan 18 oed fel rhan o achos llys neu wrandawiad. Gall yr arian hwn gael ei gadw iddynt gan Swyddfa Cronfeydd y Llys. Cewch fwy o wybodaeth am gyfrifon plant gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Arian a gedwir gan Swyddfa Cronfeydd y Llys cyn i achos gael ei setlo

Gall arian gael ei gadw mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys cyn i achos gael ei setlo. Bydd hyn yn digwydd os bydd un ochr yn cynnig swm o arian i setlo'r achos ond bod yr ochr arall yn gwrthod y cynnig ac yn parhau â'r camau cyfreithiol. Gelwir hyn yn 'amddiffyniad cynnig'.

Bydd Swyddfa Cronfeydd y llys yn cadw'r arian hyd nes y caiff yr achos ei setlo.

Cyfrifon Swyddfa Cronfeydd y Llys a threth

Gall arian a gedwir yng nghyfrifon Swyddfa Cronfeydd y Llys ennill llog a chynyddu mewn gwerth oherwydd buddsoddiadau a wneir gyda'r arian. Bydd yn rhaid talu treth os bydd y llog neu'r difidendau a enillwyd yn uwch na lwfans treth yr unigolyn. Efallai y bydd angen talu treth bellach ar ddifidendau a enillwyd os yw'r unigolyn yn drethdalwr cyfradd uwch.

Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys hefyd yn dosbarthu talebau treth. Mae'r rhain yn dangos faint o log a ychwanegwyd at y cyfrif yn ystod cyfnod penodol neu'n rhoi manylion unrhyw ddifidendau a dalwyd. Efallai y bydd angen y rhain wrth baratoi ffurflen dreth.

Gellir defnyddio arian mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys i fuddsoddi yn y farchnad stoc. Os gwerthwyd unrhyw fuddsoddiadau am fwy na'u gwerth gwreiddiol, efallai y bydd treth yn daladwy hefyd. Mae hyn yn wir os yw'r gwahaniaeth mewn gwerth yn fwy na lwfans Treth Enillion Cyfalaf yr unigolyn.

Cael cyfriflenni gan Swyddfa Cronfeydd y Llys

Mae Swyddfa Cronfeydd y Llys yn anfon cyfriflenni yn awtomatig yn y gwanwyn (Ebrill/Mai) ar gyfer holl gleientiaid y Llys Gwarchod ac achosion plant. Anfonir cyfriflen arall yn yr hydref ar gyfer holl gyfrifon y Llys Gwarchod a chyfrifon plant lle cedwir £100,000 neu fwy.

Bydd y gyfriflen yn dangos faint o arian sydd yn y cyfrif, ac unrhyw drafodion a wnaed yn y cyfrif.

Gellir gwneud cais ysgrifenedig i gael cyfriflen unrhyw bryd y tu allan i'r dyddiadau hyn. Nid ydynt yn dangos gwerth unrhyw fuddsoddiadau ecwiti.

Er mwyn gwneud cais am gyfriflen, dylech gysylltu â Swyddfa Cronfeydd y Llys drwy ffonio'r llinell gymorth gwasanaeth cwsmeriaid ar 0845 223 8500 neu e-bostio:

enquiries@cfo.gsi.gov.uk

Mae cyfriflenni'n cynnwys y wybodaeth ganlynol am unrhyw drafodion:

  • enw'r achos, rhif yr achos a rhif cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys
  • dyddiad, natur a gwerth ariannol unrhyw drafodion i mewn neu allan o'r cyfrif
  • balans y cyfrif na allwch ennill llog arno, sef y balans arian parod
  • balans y cyfrif y gallwch ennill cyfradd llog is arno, sef y cyfrif sylfaenol
  • balans y cyfrif y gallwch ennill cyfradd llog uwch arno, sef y cyfrif arbennig

Diweddaru eich manylion

Os bydd unrhyw newid i'ch cyfeiriad chi neu gyfeiriad yr unigolyn rydych yn gyfrifol amdano, dylech roi gwybod i Swyddfa Cronfeydd y Llys. Gallai manylion anghywir olygu bod oedi cyn gwneud taliadau neu fod dogfennau'n mynd ar goll.

Er mwyn diweddaru eich manylion, mae angen i chi gysylltu â Swyddfa Cronfeydd y Llys drwy ysgrifennu i'r cyfeiriad canlynol:

Court Funds Office
Glasgow
G58 1AB

Bydd angen i chi hysbysu Swyddfa Cronfeydd y Llys o'r hen gyfeiriad ynghyd â'r cyfeiriad newydd. Bydd hefyd angen i chi gynnwys rhif cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys neu enw'r unigolyn rydych yn gweithredu ar ei ran. Dylech gynnwys unrhyw gyfeirnodau llys os ydych yn gwybod beth ydynt.

Allweddumynediad llywodraeth y DU