Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Weithiau, dyfernir arian i blant sydd o dan 18 oed fel rhan o achos llys neu wrandawiad. Cedwir yr arian hwn iddynt gan Swyddfa Cronfeydd y Llys. Mynnwch wybod sut yr ymdrinnir â'r arian a sut y gellir cael gafael arno.
Pan fydd llys yn gorchymyn i arian gael ei dalu i blentyn, bydd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn agor cyfrif ac yn gofalu am yr arian. Am na all plentyn gynrychioli ei hun mewn llys, rhaid iddo gael 'Cyfaill Cyfreitha'. Rhiant neu warcheidwad fydd hwn fel arfer, a benodir gan y llys i weithredu er budd y plentyn.
Cedwir yr arian hyd nes y bydd y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed (a elwir yn oedran oedolyn), oni fydd gorchymyn llys yn cyfarwyddo fel arall.
Bydd y llys yn penderfynu ar y ffordd orau o fuddsoddi'r arian. Bydd y llys yn ystyried pethau megis faint a ddyfarnwyd a pha mor hir y disgwylir iddo gael ei gadw yn y llys.
Gellir gwneud taliadau i mewn i gyfrifon plant os dyfernir arian iddynt o ganlyniad i achos llys. Gelwir hyn yn 'adneuad'.
Cewch fwy o wybodaeth am wneud taliadau i mewn i gyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Bydd y llys lle y cafodd yr achos ei setlo'n wreiddiol yn cyfarwyddo Swyddfa Cronfeydd y Llys ynglŷn â beth i'w wneud gydag unrhyw arian a gedwir ar gyfer plentyn. Mae hyn yn cynnwys beth sy'n digwydd pan fydd y plentyn hwnnw'n cyrraedd 18 oed.
Mis cyn pen-blwydd y plentyn yn 18 oed, bydd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn ysgrifennu at y plentyn. Bydd y llythyr yn egluro sut y gall gael ei arian unwaith y bydd wedi cael ei ben-blwydd yn 18 oed.
Gwneud cais i godi arian
Gall y llys benderfynu caniatáu i'r plentyn wneud cais yn uniongyrchol i Swyddfa Cronfeydd y Llys i gael ei arian. Yna anfonir ffurflen at y plentyn i'w chwblhau. Rhaid i'r ffurflen hon gael ei llofnodi gan dyst nad yw'n berthynas ond sy'n adnabod y plentyn, megis athro neu feddyg.
Efallai y bydd y llys yn penderfynu hefyd fod angen i'r plentyn wneud cais yn uniongyrchol i'r llys er mwyn cael unrhyw arian. Anfonir llythyr at y plentyn sy'n egluro hyn a beth y mae angen iddo ei wneud nesaf.
Ni fydd Swyddfa Cronfeydd y Llys yn talu'r arian hyd nes y bydd wedi cael y ffurflen wedi'i chwblhau neu gyfarwyddyd gan y llys i wneud y taliad. Unwaith y bydd cyfarwyddyd wedi'i roi, gwneir y taliad o fewn pum diwrnod gwaith fel arfer.
Os bydd cyfrif plentyn yn cynnwys unrhyw fuddsoddiadau (a elwir yn ecwitïau), rhaid eu gwerthu neu eu trosglwyddo i enw'r plentyn pan fydd yn cyrraedd 18 oed.
Os bydd plentyn am gael rhywfaint o'r arian cyn iddo gael ei ben-blwydd yn 18 oed, gall ei Gyfaill Cyfreitha wneud cais ar ei ran. Gellir gwneud cais am daliadau rheolaidd neu daliad untro. Rhaid i'r cais gael ei wneud i'r llys lle y cafodd yr achos ei setlo'n wreiddiol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, gofynnir i'r Cyfaill Cyfreitha egluro i'r llys sut y defnyddir yr arian a pham bod ei angen ar y plentyn. Er enghraifft, os bwriedir defnyddio'r arian i brynu cyfrifiadur, gofynnir iddo hefyd gyflwyno tystiolaeth o gost y cyfrifiadur. Gellir cyflwyno pytiau o gylchgrawn neu wefan sy'n dangos llun o'r cyfrifiadur a'r pris.
Bydd barnwr yn ystyried y cais am daliad. Efallai y bydd am siarad â'r Cyfaill Cyfreitha neu'r plentyn cyn gwneud penderfyniad.
Efallai y bydd ffi am wneud y cais a dylech ofyn i'r llys ynglŷn â hyn ymlaen llaw.