Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gweithio allan eich statws cyflogaeth: au pairs

Fel au pair byddwch fwy na thebyg yn byw gyda'r teulu rydych yn gweithio iddo ac yn cael eich trin fel aelod o'r teulu. O ganlyniad, bydd gennych statws cyflogaeth gwahanol i weithwyr neu gyflogeion. Mynnwch wybod sut i weithio allan eich statws cyflogaeth.

Au pairs

Os byddwch yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r datganiadau isod, mae'n debygol iawn nad ydych yn weithiwr nac yn gyflogai:

  • rydych yn dramorwr sy'n byw gyda theulu yn y DU
  • rydych yn ddinesydd yr UE neu wedi dod i'r DU gyda Fisa Symudedd Ieuenctid (neu fisa Myfyriwr)
  • rydych yma ar Raglen Gyfnewid Ddiwylliannol fel 'Au Pair'
  • mae gennych lythyr gwahoddiad wedi'i lofnodi gan y teulu sy'n rhoi cartref i chi sy'n amlinellu manylion eich arhosiad gan gynnwys llety, amodau byw, oriau gwaith bras, amser rhydd ac arian poced, ac ati
  • rydych yn dysgu am ddiwylliant Prydain gan y teulu ac yn rhannu eich diwylliant eich hun ag ef
  • mae gennych eich ystafell breifat eich hun yn y tŷ a ddarperir am ddim gan y teulu
  • rydych yn bwyta eich prydau bwyd gyda'r teulu a darperir y rhain am ddim
  • yn gyfnewid am yr uchod, rydych yn cytuno i helpu'r teulu gyda gwaith tŷ ysgafn a dyletswyddau gofal plant am gyfanswm o 30 awr yr wythnos gan gynnwys gwarchod y plant cwpwl o nodweithiau'r wythnos
  • rydych yn cael arian poced rhesymol
  • rydych yn rhydd i fynd i Ddosbarthiadau Iaith Saesneg yn eich amser rhydd mewn coleg lleol er mwyn gwella eich sgiliau iaith Saesneg
  • mae'r teulu'n sicrhau bod gennych amser i gyflawni eich astudiaethau a'ch bod yn ymarfer eich Saesneg gyda'r teulu a'r plant
  • rydych weithiau'n mynd ar wyliau gyda'r teulu ac yn helpu i ofalu am y plant
  • rydych yn rhydd i deithio adref i weld eich teulu yn ystod y flwyddyn

Sefyllfa enghreifftiol

Mae Gina wedi dod o Ffrainc i ddysgu Saesneg. Mae'n byw gyda theulu yn y DU ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau teuluol fel diwrnodau allan a gwyliau. Mae'n bwyta ei phrydau bwyd gyda'r teulu. Mae'n gwneud gwaith tŷ ysgafn a dyletswyddau gofal plant am tua phum awr y dydd ac yn gofalu am y plant cwpl o weithiau'r wythnos.

Mae ganddi ddau ddiwrnod rhydd yr wythnos. Mae'n rhydd i astudio Saesneg mewn coleg lleol ddau brynhawn yr wythnos. Y llynedd treuliodd dair wythnos yn Ffrainc yn ymweld â'i theulu ei hun ac aeth ar wyliau i Crete gyda'i theulu yn y DU hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU