Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyflwyniad i gartrefi gofal

Efallai fod angen lefel o gefnogaeth arnoch nad yw'n bosibl ei darparu yn eich cartref eich hun. Yn yr achos hwn, efallai mai cartref gofal yw'r dewis delfrydol. Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol roi gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael a sut i'w cael.

Dewis cartref gofal

Mae gennych chi hawl i ddewis eich cartref gofal. Gall gymryd amser i ddod o hyd i un sy'n iawn i chi. Dylech wneud yn siŵr bod y cartref gofal a ddewiswch yn cynnig y cyfleusterau, yr offer a'r staff gyda'r hyfforddiant priodol i fodloni'ch anghenion.

Mae pob cyngor lleol yn pennu symiau y bydd yn eu talu fel arfer ar gyfer rhywun sydd ag anghenion asesedig fel eich rhai chi. Os oes arnoch eisiau symud i gartref gofal drutach, efallai y bydd angen i chi dalu'r gwahaniaeth.

Mathau o gartrefi gofal

Ceir gwahanol fathau o gartrefi gofal. Bydd rhai yn cynnig gofal nyrsio amser llawn, ac eraill yn cefnogi pobl gydag angen meddygol neu anabledd penodol.

Os ydych yn derbyn triniaeth reolaidd ar hyn o bryd gan nyrs gymwysedig, efallai y bydd arnoch angen cartref gofal gyda nyrsio. Bydd eich nyrs ardal neu staff yr ysbyty yn gallu eich helpu i benderfynu.

Talu'r gost

Mae ffioedd cartrefi gofal yn peri pryder i lawer o bobl. Gall cartrefi gofal sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy'n briodol ar gyfer anableddau penodol fod yn ddrud.

Bydd gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal yn asesu'ch anghenion ac yn eich helpu i ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu'r anghenion hynny.

Byddant wedyn yn cynnal asesiad ariannol i ganfod faint y gallwch fforddio ei gyfrannu tuag at y costau. Ar hyn o bryd, os oes gennych dros £22,250 o gyfalaf, bydd yr asesiad yn nodi y byddwch yn gallu talu cost eich gofal yn llawn.

Cyfnodau dros dro mewn cartref gofal

Efallai y byddwch yn dewis aros dros dro mewn cartref gofal er mwyn gwella o salwch neu i roi egwyl i chi a'ch gofalwr. Dylech hefyd allu aros dros dro am gyfnod prawf i weld a ydy'r cartref gofal yn addas ar eich cyfer. Mae rhai pobl hefyd yn mynd i gartrefi gofal am ofal dydd.

Cyfnodau dros dro mewn cartref gofal

Efallai y byddwch yn dewis aros dros dro mewn cartref gofal er mwyn gwella o salwch neu i roi egwyl i chi ac i'ch gofalwr.

Dylech hefyd allu aros dros dro am gyfnod prawf i weld a ydy'r cartref gofal yn addas ar eich cyfer. Bydd rhai pobl hefyd yn mynd i gartrefi gofal i gael gofal dydd.

Cartrefi gofal ac ysbytai

Mae rhai pobl yn symud i gartref gofal yn uniongyrchol o'r ysbyty - os ydynt newydd ddod yn anabl efallai. Ni ellir eich rhyddhau o ysbyty i gartref gofal heb eich caniatâd ac mae gennych hawl i ddewis eich cartref gofal.

Efallai y bydd yn angenrheidiol i chi aros yn yr ysbyty tra byddwch yn byw mewn cartref gofal.

Safonau cartrefi gofal

Y rheolydd annibynnol iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr yw’r Comisiwn Safon Gofal. Mae'n rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys cartrefi gofal. Mae hefyd yn amddiffyn hawliau pobl sy'n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Pan fyddwch yn symud i gartref gofal, dylech gael gwybod am y drefn gwyno. Os oes gennych unrhyw broblemau, gallwch gwyno'n uniongyrchol wrth y cartref gofal neu gwyno wrth y Comisiwn Safon Gofal.

Allweddumynediad llywodraeth y DU