Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael cyfrif cyfredol

Os ydych yn cael cyflog ynteu'n hawlio budd-daliadau, mae'n debygol iawn y bydd angen i chi gael cyfrif banc. Mae sawl gwahanol fath o gyfrif banc ar gael, ond mae'n hanfodol edrych o gwmpas i weld pa un fyddai'r gorau ar eich cyfer chi.

Beth yw cyfrifon cyfredol?

Os ydych chi'n rhy hen i roi arian mewn cadw mi gei, mae'n debyg eich bod yn barod i agor cyfrif cyfredol. Enw arall am gyfrif banc syml yw cyfrif cyfredol. Gyda chyfrif fel hyn, byddwch chi'n gallu tynnu arian o beiriant arian parod, trosglwyddo arian i gyfrifon eraill ac ennill llog ar eich arian.

Er bod gennych, o bosib, gyfrif cynilo wedi ei sefydlu yn eich enw chi, bydd cyfrifon cyfredol yn caniatáu i chi reoli'n fanylach yr hyn fydd yn mynd i mewn ac allan o'ch cyfrif personol.

Gallwch hefyd sefydlu archebion sefydlog a Debydau Uniongyrchol o gyfrif cyfredol ar gyfer y taliadau rheolaidd y bydd rhaid i chi eu gwneud, fel eich bil ffôn symudol. Golyga hyn na fydd raid i chi boeni am fod yn hwyr yn talu gan fod eich biliau'n cael eu talu yn awtomatig.

Pethau y dylech chwilio amdanynt

Mae cannoedd o gyfrifon i ddewis ohonynt, ond er mwyn dod o hyd i'r un gorau ar eich cyfer chi, meddyliwch am y pethau y byddwch yn eu gwneud â'r cyfrif:

  • ydych chi eisiau medru cael gafael ar eich arian 24 awr y dydd?
  • ydych chi eisiau cynilo arian ar gyfer y dyfodol?
  • ydych chi eisiau medru defnyddio'ch cerdyn i dalu am eich siopa?

Beth bynnag y byddwch eisiau ei wneud, dylech yn gyntaf weld pa mor hen mae'n rhaid i chi fod i agor cyfrif. Dylech gael yr hawl i agor cyfrif pan rydych yn 11 oed, ond mae'n bosib na chewch chi rai pethau, fel llyfr siec, nes byddwch yn hŷn.

Mae banciau hefyd yn cynnig anrhegion am ddim a gostyngiadau er mwyn gwneud i'w cyfrifon swnio'n fwy apelgar. Er y gall y syniad o gael chwaraewr MP3 newydd neu 'docynnau gostyngiad' i'w wario yn siopau'r stryd fawr fod yn ddeniadol, ddylech chi ddim dewis cyfrif ar sail faint o bethau y cewch am ddim. Gwnewch yn siŵr bod y cyfrif yn gyfleus i chi.

Dylech hefyd weld a ellir rheoli'ch cyfrif dros y ffôn neu ac a oes llinell gwasanaeth cwsmeriaid 24 awr ar gael. Gan mai yn ystod yr wythnos yn unig y bydd y rhan fwyaf o fanciau'n agor, gall hyn ei gwneud yn llawer haws i chi reoli'ch arian ac os collwch unrhyw gardiau yn ystod y penwythnos, gallwch roi gwybod i'ch banc yn syth.

Beth gewch chi gan eich banc

Mae hyn oll yn dibynnu faint oed ydych chi. Bydd y rhan fwyaf o gyfrifon yn rhoi cerdyn i chi fel y gallwch ei ddefnyddio i dynnu arian trwy gyfrwng peiriant arian parod, ond mae'n bosib na dderbyniwch gerdyn debyd na llyfr siec y gallwch eu defnyddio i dalu am nwyddau nes eich bod yn 16 oed.

Ni fydd rhai banciau rhyngrwyd gadael i bobl dan 18 agor cyfrif trwyddynt, ac ni fydd modd i chi gael gorddrafft nes y byddwch yn 18 oed.

Telir llog ar eich arian yn ogystal, yn dibynnu ar faint o arian fyddwch chi'n ei roi yn eich cyfrif a pha mor hir y bydd yn aros yno. Pan fyddwch yn dewis eich cyfrif, mae'r gyfradd llog yn ffactor pwysig i'w ystyried, ond os ydych eisiau cadw'ch arian, byddai'n talu'n well i chi edrych ar gyfrifon cynilo yn hytrach na chyfrifon cyfredol.

Cyfrifon myfyrwyr

Os ydych chi'n astudio mewn prifysgol, fe welwch fod nifer o fanciau sy'n cynnig cyfrifon wedi'u teilwra ar gyfer anghenion myfyrwyr. Byddant yn aml yn cynnig gorddrafftiau llog isel a gostyngiadau ar yswiriant cynnwys a thrafnidiaeth.

Fel gydag unrhyw gyfrif arall, bydd y cyfrif gorau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Os dowch chi o hyd i gyfrif gwell mewn banc gwahanol i'r un yr ydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, symudwch i'r cyfrif hwnnw mor fuan â phosib.

Cychwyn cyfrif cyfredol

I wneud cais am gyfrif cyfredol, bydd angen i chi fynd i'ch cangen leol a siarad â chynghorydd cwsmeriaid. Os ydych dan 16 oed, mae'n bosib y bydd angen caniatâd rhieni arnoch, felly gofynnwch i un o'ch rhieni ddod gyda chi.

Efallai bydd arnoch angen rhywbeth i ddangos pwy ydych chi, felly cofiwch fynd â phasport, tystysgrif geni neu brawf o gyfeiriad gyda chi. Os ydych dan 16 oed ac nad oes gennych un o'r rhain, mae'n bosib y bydd modd i chi ddefnyddio manylion eich rhieni - cyn belled â'u bod yn mynd gyda chi.

Bancio ar-lein

Mae'n bosib y gallwch hefyd wneud cais am gyfrifon stryd fawr ar-lein, ond os yw bancio yn rhywbeth newydd i chi ac mai hwn yw'ch cyfrif cyntaf, byddai'n well i chi fynd i mewn i'ch cangen i gael ateb i'ch cwestiynau.

Efallai y byddwch eisiau agor cyfrif gyda banc sy'n gweithredu ar y rhyngrwyd yn unig. Bydd gofyn i chi fod yn 18 neu drosodd er mwyn medru gwneud cais am un yn ôl pob tebyg, ond gallai'r gwasanaeth hwylus o fedru gwneud y rhan fwyaf o'ch bancio ar eich cyfrifiadur fod yn gyfleus dros ben.

Cewch gerdyn i dynnu arian o'r banc, ond byddwch yn medru edrych ar eich balans a'ch cyfriflen ar-lein 24 awr y dydd, a chewch gyfrinair neu god unigryw i gadw'ch manylion yn ddiogel.

Allweddumynediad llywodraeth y DU