Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Opsiynau cynilo

Os oes arnoch eisiau cynilo arian er mwyn prynu rhywbeth mawr mewn ychydig fisoedd, neu os ydych am wneud yn siŵr bod gennych arian wrth gefn petai'r annisgwyl yn digwydd, dylech feddwl am agor cyfrif cynilo.

Dewis y ffordd gywir o gynilo

Os oes arnoch eisiau arbed eich arian, mae sawl gwahanol ffordd y gallwch wneud hynny. Er mwyn dod o hyd i gyfrif a fydd yn gweddu i chi ac sy'n ffordd o wneud yn fawr o'ch arian, bydd angen i chi feddwl am nifer o bethau, megis:

  • pa mor hen mae'n rhaid i chi fod i agor y cyfrif
  • faint o arian y bydd ei angen arnoch er mwyn agor y cyfrif
  • faint o log gewch chi ar eich arian
  • faint o arian y gallwch fforddio ei roi mewn cyfrif cynilo
  • a gewch chi wneud taliadau rheolaidd ynteu dim ond pan fydd gennych arian dros ben
  • a fyddwch chi'n colli'r cyfle i gael bonysau neu logau wrth dynnu arian allan o'r cyfrif
  • faint mae arnoch chi eisiau ei gynilo ac am ba mor hir yr hoffech wneud hynny cyn defnyddio'r arian
  • a gewch chi dynnu eich arian allan ohonynt yn syth, neu os bydd rhaid i chi roi rhybudd cyn i chi allu cymryd unrhyw arian allan o’r cyfrif

Cyfrifon cynilo ar y stryd fawr

Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig amrywiaeth o gyfrifon cynilo, gan gynnwys cyfrifon ar-lein. Er mwyn gwneud yn fawr o'ch arian, bydd angen i chi feddwl faint mae arnoch eisiau ei gynilo ac am ba hyd y gallwch gynilo cyn defnyddio'r arian.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi gael cyfrif cynilo yn yr un banc neu gymdeithas adeiladu â'ch cyfrif cyfredol - gallech wedyn reoli'ch treuliau o ddydd i ddydd drwy'ch cyfrif cyfredol a symud unrhyw arian ychwanegol yn sydyn i'ch cyfrif cynilo.

Ond cofiwch y gallech ddod o hyd i well cyfrif cynilo yn rhywle arall. Gallai cael arian mewn dau wahanol le fod yn llai hwylus, ond mae bancio ar y we a dros y ffôn yn gwneud symud eich arian rhwng gwahanol gyfrifon yn hawdd iawn.

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) yw'r amrywiaeth o gyfrifon cynilo a gynigir gan y llywodraeth i bobl sy'n cynilo. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf diogel o gynilo'ch arian.

Os oes arnoch eisiau agor cyfrif gyda Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, meddyliwch am ba mor hir yr ydych yn dymuno buddsoddi. Edrychwch ar yr holl gyfrifon y gallwch wneud cais amdanynt a phenderfynu p'run yw'r gorau i chi.

Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)

Os ydych dros 16 oed ac yn dymuno ennill llog ar eich arian heb i dreth gael ei thynnu, gallai ISA arian fod yn ddewis da.

Gallwch dalu arian i mewn i ISA mor aml ag y dymunwch, cyn belled nad yw'r cyfanswm y byddwch yn ei dalu i'r cyfrif o fewn blwyddyn dros £3,600.

Maent yn ddelfrydol os ydych yn bwriadu mynd i deithio yn ystod y flwyddyn nesaf, neu'n cynilo er mwyn cael car a'ch bod yn gwybod faint fydd ei angen arnoch o fewn amser penodol.

Gellir cael ISAs gan fanciau a chymdeithasau adeiladu yn ogystal â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU