Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae alawon ffôn, hysbysiadau negeseuon testun a negeseuon aml-gyfrwng yn dod yn fwy a mwy poblogaidd. Ond cyn i chi sylweddoli, gall y costau ddechrau cynyddu a bydd gennych chithau ddigon o fil i'ch rhoi mewn dyled.
Os ydych chi'n prynu eich ffôn cyntaf ynteu'n gobeithio arbed ychydig o arian, mae'n bwysig eich bod yn dewis y tariff cywir ar gyfer eich ffordd chi o fyw. Mae gan gwmnïau ffônau symudol amrywiaeth o gynlluniau siarad sy'n cynnig gwahanol gyfnodau o amser siarad ar y ffôn am ddim, gwahanol nifer o negeseuon testun am ddim a gwahanol ddefnydd rhyngrwyd am ddim bob mis. Er mwyn dewis y fargen orau i chi, meddyliwch am y canlynol:
Hefyd, cadwch olwg am unrhyw gynigion newydd a hysbysebir gan gwmnïau ffônau symudol. Efallai y bydd eich amgylchiadau'n newid ac y byddai math arall o gontract neu fargen yn gweddu'n well i chi. Mae newid eich cynllun siarad yn haws nag y tybiwch, felly peidiwch oedi a newidiwch eich cynllun os ydych chi'n meddwl y gall hyn arbed arian i chi.
Mae llwytho tonau yn ffordd boblogaidd iawn o bersonolu eich ffôn a'i gwneud hi'n fwy unigol. Mae pob un ohonom wedi gweld y nifer anferth o hysbysebion sy'n ceisio'n perswadio i ychwanegu alaw, papur wal neu gêm newydd i'ch ffôn, ond yn aml iawn nid am lwytho'r rheiny'n unig y codir tâl arnoch.
Weithiau, wrth i chi archebu alaw, byddwch yn cytuno i ymuno â chlwb ffôn symudol sy'n golygu y gallech gael negeseuon testun ychwanegol yn cynnig mwy o bethau ar gyfer eich ffôn. Yr hyn nad yw llawer o bobl yn ei sylweddoli yw y gellir codi tâl arnoch am bob neges a hynny ar gyfradd uwch.
Os ydych eisiau archebu alaw gan glwb, mae'n bwysig eich bod yn gwybod faint o arian a godir arnoch am bopeth y byddwch yn ei dderbyn a sut y gallwch ddiddymu eich tanysgrifiad os byddwch am beidio â bod yn aelod. Fe ddowch o hyd i'r wybodaeth hon yn y print mân ar waelod unrhyw hysbyseb. Os ydych yn cael trafferth ei ddeall, gofynnwch i berthynas hwn eich cynorthwyo.
Mae'r rhan fwyaf o ffonau erbyn hyn yn caniatáu i chi gael mynediad at y rhyngrwyd o'ch ffôn, fel y gallwch edrych ar eich negeseuon e-bost neu 'syrffio'r we' tra byddwch yn crwydro o le i le. Efallai eich bod yn meddwl bod hyn fel gwneud unrhyw alwad ffôn arall, ond nid dyma'r achos.
Bydd y costau'n amrywio yn ôl eich cynllun prisiau, ond os nad yw eich contract yn crybwyll hyn, efallai y codir tâl arnoch yn ôl faint o wybodaeth y byddwch yn ei hanfon ac yn ei derbyn bob tro y byddwch yn defnyddio'ch ffôn er mwyn mynd ar y we. Gall edrych ar ychydig o dudalennau'n unig arwain at dâl annisgwyl.
Os ydych yn dymuno defnyddio'ch ffôn symudol er mwyn gwneud hyn, chwiliwch am dariff sy'n gadael i chi ddefnyddio'r we a WAP o fewn tâl rhentu'r llinell bob mis.
Bydd y mwyafrif o gwmnïau ffôn symudol yn cynnig anfon y penawdau newyddion diweddaraf neu ganlyniadau pêl droed yn syth i'ch ffôn ar ffurf negeseuon testun.
Er mai gwasanaeth gan eich darparwr yw hyn, codir tâl arnoch am y rhain ar wahan ac nid ydynt yn cael eu cynnwys fel rhan o'r cynigion negeseuon testun am ddim y gallech eu cael fel rhan o'ch contract.
Os nad ydych eisiau i hysbysiadau negeseuon testun gael eu hanfon i'ch ffôn mwyach, gwnewch yn siŵr eich bod yn diddymu'r gwasanaeth yn syth. Dylai'ch darparwr neu lyfryn gwybodaeth eich ffôn ddweud wrthych sut i wneud hyn.
Mae bob amser yn hwyl anfon lluniau a fideos i'ch ffrindiau er mwyn iddynt gael gwybod am eich hynt a'ch helynt. Ond mae'n bwysig cofio nad yw'r mathau hyn o negeseuon yn cael eu cynnwys yn y negeseuon am ddim y mae gennych yr hawl i'w cael bob mis a chodir tâl arnoch ar sail pob neges.
A dweud y gwir, bydd negeseuon aml-gyfrwng yn aml yn costio dwywaith cymaint â neges testun cyffredin.
Os ydych yn meddwl eich bod yn debygol o anfon llawer o negeseuon llun neu fideo, holwch a yw'ch cwmni ffôn symudol yn gwerthu 'bwndeli' aml-gyfrwng misol. Gall hyn arbed arian i chi ar gost pob neges a'ch helpu i gadw'ch bil yn isel.