Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lleddfu poen cyllidebu

Os ydych yn meddwl bod cyllidebu'n golygu gwneud heb y pethau da mewn bywyd, meddyliwch eto. Mae'n bosib i chi wario llai a dal i fynd allan a mwynhau eich hun - dim ond i chi gynllunio rhyw fymryn.

Cynllunio cyllideb

Os ydych yn dymuno cadw golwg agos ar eich arian, bydd paratoi cyllideb o help mawr i chi. Bydd yn eich galluogi i weld faint o'ch incwm sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn talu treuliau angenrheidiol fel biliau a chostau llety ac yn dangos faint sydd gennych ar ôl i'w wario ar bethau eraill fel cymdeithasu gyda ffrindiau.

Os byddwch chi'n cael trafferth rheoli faint rydych yn ei wario, gall siart gyllidebu hefyd ddangos i chi ym mha fannau y gallwch wario llai.

Mae hefyd yn syniad da i chi gadw cofnod o'r swm bob tro y byddwch chi'n codi arian neu'n talu arian o'ch cyfrif. Gallwch ddefnyddio'r cofnodion hyn fel canllawiau bras i'ch arferion gwario wrth i chi lenwi'r manylion.

Dileu debydau

Os oes gennych gyfrif banc, edrychwch ar y Debydau Uniongyrchol fydd yn mynd allan ohono bob mis. Efallai eich bod yn gwario arian ar gampfa nad ydych wedi bod ynddi ers tri mis. Efallai eich bod hefyd yn tanysgrifio i gylchgrawn nad ydych yn darllen llawer arno. Os dowch o hyd i rai, gallwch eu diddymu drwy gysylltu â'ch banc.

Gall Debydau Uniongyrchol hefyd arbed arian i chi. Bydd nifer o gwmnïau, megis darparwyr ffonau symudol, yn codi tâl ychwanegol arnoch am beidio â thalu gyda Debyd Uniongyrchol oherwydd y gwaith papur ychwanegol a'r costau gweinyddu. Os byddwch yn gwneud taliadau rheolaidd, cysylltwch â'r cwmni perthnasol er mwyn gweld a fyddai defnyddio Debyd Uniongyrchol yn golygu eich bod yn cael gostyngiad.

Gwario llai ar adloniant

Bydd nifer o bobl yn peidio â chynnwys costau adloniant a chymdeithasu yn gyfan gwbl wrth edrych ar faint fyddant yn ei wario bob mis. Er bod hyn yn addas ar gyfer ambell un, efallai y byddai'n syniad da i chi feddwl a ydych chi'n dueddol o fynd allan i siopa cyn gynted â'ch bod wedi tocio'ch cyllideb.

I wario llai ar adloniant, ceisiwch feddwl am opsiynau rhatach. Er enghraifft, yn hytrach na mynd allan i gael rhywbeth i'w fwyta ac yna fynd i'r sinema, beth am rentu DVD a rhoi gwahoddiad i ffrindiau alw draw? Fe synnwch wrth weld faint allech chi ei arbed.

Os yw arian yn brin, nid yw'n syniad da mynd am dro i weld beth sydd yn y siopau, oherwydd mae'n bosib y byddwch yn prynu rhywbeth yn y diwedd. Beth am geisio gwneud rhywbeth nad ydych erioed wedi ei wneud o'r blaen, fel ymweld ag amgueddfa neu oriel gelf?

Beth i'w wneud ag arian dros ben

Os oes gennych arian dros ben ar ddiwedd y mis yna mae'n amlwg fod eich cyllideb yn gweithio. Er mwyn gwneud yn fawr o'ch, y peth gorau i'w wneud yw ei roi mewn cyfrif cynilo. Mae nifer o wahanol gyfrifon a chynlluniau ar gael.

Bydd yr opsiwn gorau ar eich cyfer chi yn dibynnu ar am faint rydych chi'n awyddus i gynilo a pha mor aml y byddwch eisiau mynd at eich arian.

Unwaith y byddwch wedi rhoi digon o arian i mewn yn eich cyfrif cynilo, gallech ddifetha'ch hun drwy fynd ar wyliau neu newid eich hen chwaraewr CD am system sain ddigidol newydd sbon. Gallwch hefyd gychwyn arbed arian ar gyfer y dyfodol a dod i arfer â chynilo.

Allweddumynediad llywodraeth y DU