Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Syniadau arbed arian

Os ydych chi'n cyfri'r ceiniogau ac yn ceisio rheoli faint rydych yn ei wario, efallai'ch bod yn chwilio am gyngor call am sut y gallwch gael mwy am eich arian.

Siopa ar-lein

Yn aml iawn cewch well bargeinion wrth siopa ar-lein am bopeth o CDs a llyfrau i nwyddau trydanol mawr.

Er mwyn defnyddio safle siopa ar-lein bydd angen cyfrif banc arnoch oherwydd fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru gyda'ch manylion banc arni.

Os byddwch yn siopa ar-lein, mae'n bwysig defnyddio safle sy'n sicrhau bod manylion eich cerdyn yn cael eu cadw'n ddiogel. Golyga hyn fod y wefan yn defnyddio technoleg sy'n amddiffyn eich manylion banc rhag twyllwyr a hacwyr ar-lein.

Os bydd eicon clo bychan yn ymddangos ar waelod eich ffenestr a bod cyfeiriad y wefan honno'n cychwyn â 'https', mae'n safle diogel a gallwch ei ddefnyddio heb berygl.

Arwyddion bod y wefan yn un ddiogel yw’r eicon clo bychan sy’n ymddangos ar waelod ffenestr eich porwr a bod cyfeiriad y wefan honno'n cychwyn â 'https'.

Cardiau teyrngarwch

Nid dim ond archfarchnadoedd sy'n cynnig cynlluniau teyrngarwch. Mae llawer o siopau'r stryd fawr yn eu defnyddio hefyd, ond peidiwch â chamgymryd y rhain am gardiau siopau. Dydyn nhw ddim yr un fath.

Wrth ymuno â chynllun teyrngarwch, bob tro y byddwch yn siopa mewn un siop arbennig, cewch bwyntiau yn dibynnu ar faint o arian y byddwch wedi ei wario. Unwaith y byddwch wedi casglu digon o bwyntiau, cewch eu defnyddio i dalu am eich siopa yn yr un modd â phe baech yn defnyddio arian parod.

Cedwir eich pwyntiau ar eich cerdyn teyrngarwch personol eich hun y byddwch yn ei roi i'r ariannwr pryd bynnag y byddwch yn talu am eich nwyddau. Byddwch hefyd yn gallu gweld faint o bwyntiau sydd gennych yn y siop neu ar-lein.

Mae cardiau teyrngarwch yn ddefnyddiol os byddwch yn prynu llawer o bethau o'r un siop, a byddech yn synnu pa mor sydyn y maent yn cynyddu.

Tocynnau mantais mewn cylchgronau

Cadwch eich llygaid ar agor am unrhyw docynnau mantais mewn cylchgronau y byddwch yn eu darllen.

Yn aml, bydd llawer o gynigion disgownt os byddwch yn gwario swm penodol yn y siop, yn enwedig ar gyfer pethau megis nwyddau ymolchi, cerddoriaeth a DVDs. Gallwch hefyd godi tocyn 'prynu un, cael un am ddim' fel y gallwch gael mwy o bethau heb orfod talu'n ychwanegol amdanynt.

Dydy mynd allan a gwario'ch arian dim ond er mwyn cael defnyddio'r tocyn ddim yn syniad da, ond os oeddech yn bwriadu mynd i siopa, gwnewch yn fawr o unrhyw docynnau mantais y gallwch gael gafael arnynt.

Torri gwallt yn rhatach

Os ydych chi'n awyddus i gael torri'ch gwallt yn broffesiynol neu'n dymuno cael ychydig o faldod, ond yn methu â fforddio mynd i salon tan gamp, ceisiwch weld a oes yna unrhyw ysgolion gwallt a harddwch yn eich ardal chi. Efallai fod yna un yn eich coleg chi na wyddech erioed amdani.

Mae academïau trin gwallt bob amser yn chwilio am bobl sy'n fodlon gadael i fyfyriwr dorri eu gwallt am bris gostyngol. Gall hyn swnio’n dipyn o risg, ond bydd darlithydd wrth law yn wastad er mwyn sicrhau nad oes camgymeriadau'n cael eu gwneud.

Efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hwy nag apwyntiad arferol ac efallai mai yn ystod y dydd yn unig y bydd modd i chi fynd yno, ond gall y gostyngiadau fod yn sylweddol iawn.

Gwerthu eich hen bethau

Os ydych eisiau codi arian ychwanegol yn gyflym, edrychwch a oes gennych unrhyw beth y gallech ei werthu.

Chwiliwch yn fanwl yn eich ystafell wely. Byddwch yn siŵr o ddod o hyd i bethau nad oes eu hangen arnoch ac nad ydych yn eu defnyddio bellach. Yn hytrach na'u taflu i'r bin, gall CDs nad ydych eu hangen neu hen ddodrefn roi hwb i'ch cyfrif banc. Efallai y byddwch yn synnu faint o arian y gallwch ei godi.

Unwaith y byddwch wedi hel pethau at ei gilydd, rhowch hysbyseb yn eich papur newydd lleol neu ddefnyddio un o'r nifer o safleoedd arwerthu ar-lein a geir ar y we. Os ydych yn dymuno gwerthu'n sydyn, sicrhewch eich bod yn disgrifio'ch eitemau'n fanwl gywir a’ch bod yn rhoi pris realistig arnynt.

Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn gofyn a yw hi'n iawn i chi werthu rhywbeth cyn mynd ati i wneud hynny. Gallai cael gwared ar rywbeth sydd o werth sentimental i rywun arall, neu rywbeth y gallai perthynas iau ei ddefnyddio achosi dadlau fwy na thebyg.

Siopau elusen

Os oes achos da sy'n agos iawn at eich calon, beth am fynd i'ch siop elusen leol? Yn aml iawn gallwch ddod o hyd i lyfrau, DVDs ac ategolion am brisiau gostyngol.

Yn ogystal ag arbed arian ar yr hyn rydych yn ei brynu, byddwch yn rhoi arian i elusen ar yr un pryd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU