Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn siopa ar-lein neu dros y ffôn, nid y pris a welwch ar y label fydd pris llawn eich nwyddau bob amser. Cyn i chi gadarnhau eich archeb, bydd angen i chi gael gwybod am y costau y gallai fod yn ofynnol i chi eu talu.
Os ydych yn prynu tocynnau ar gyfer gig neu sinema dros y ffôn neu ar y we, yn aml bydd ffi archebu yn cael ei ychwanegu at eich bil. Bydd ffioedd archebu yn talu am gostau gweinyddol cyffredinol megis cyhoeddi a phostio'r tocynnau a'r gost o gynnal system gyfrifiadurol.
Bydd ffioedd bwcio yn amrywio, yn dibynnu ar beth rydych yn ei brynu ac o ble rydych yn ei brynu. Er enghraifft, os ydych yn prynu tocynnau yn uniongyrchol o'r sinema, bydd y ffi archebu fel arfer yn llai na phunt.
Ond os byddwch yn prynu tocynnau ar gyfer gornest chwaraeon neu gyngerdd anhygoel, byddant yn aml yn cael eu dosbarthu trwy gyfrwng asiantaeth docynnau a fydd yn codi tâl ychwanegol am eu gwasanaethau. Peidiwch â synnu os codir tâl o bum punt y pen neu ragor arnoch os byddwch yn mynd i weld digwyddiad poblogaidd iawn.
Pan fyddwch yn cadarnhau eich taliad, sicrhewch eich bod yn gofyn neu'n cael gwybod faint o ffi archebu sydd ar bob tocyn. Efallai nad yw dwy neu dair punt yn swnio'n llawer, ond os byddwch yn prynu tocynnau cyngerdd i chi'ch hun ac ar gyfer criw o ffrindiau, gallai £20 ychwanegol ar ben beth roeddech yn disgwyl ei dalu fod yn dipyn o sioc.
Gall prynu nwyddau dros y we arbed llawer o arian i chi, ond mae'n bwysig eich bod yn edrych a yw'r cwmni yr ydych yn archebu ganddynt yn ychwanegu costau cludo a dosbarthu at eich archeb.
Ni fydd ambell gwmni'n codi tâl o gwbl. Os na fyddant yn gwneud hynny, mae'n debyg y gwnânt hynny'n berffaith eglur ar eu hafan gan y byddai'n un o'u prif bwyntiau gwerthu.
Gall cwmnïau a fydd yn ychwanegu costau am ddanfon eich nwyddau atoch godi tâl am bob eitem, pob dosbarthiad neu'r ddau. Bydd y gwir swm a ychwanegir yn dibynnu ar faint yr eitem - felly mae'n debyg na fyddai'r gost o ddosbarthu ychydig o lyfrau clawr meddal cymaint â gliniadur newydd.
Weithiau ni chodir tâl cludo os yw eich archeb dros swm penodol, felly os ydych eisiau arbed arian, mae'n syniad da i chi archebu pethau ar yr un pryd yn hytrach na'u prynu ar wahan.
Mae'n bosib eich bod yn prynu nwyddau o dramor, fel DVDs, sydd heb gael eu rhyddhau yn y DU eto. Mae'n bosib y bydd angen i chi dalu tollau a/neu TAW yn ychwanegol at y pris prynu a nodwyd. Bydd hynny'n dibynnu ar darddwlad y nwyddau.
Os byddwch yn prynu o dramor ac y byddech yn hoffi gwybod faint y bydd rhaid i chi ei dalu, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000 neu ymwelwch â’r tudalennau we ynghylch siopa ar y rhyngrwyd ar wefan Cyllid a Thollau EM. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm yn ystod yr wythnos. Mae ar gau yn ystod y penwythnos ac ar wyliau banc.
Hefyd gallwch wrando ar bodlediad sain gan Gyllid a Thollau EM, sy’n egluro popeth y dylech chi fod yn ymwybodol ohono wrth i chi brynu pethau o dramor.