Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru eich cwch gyda Gwylwyr Glannau Ei Mawrhydi - y cynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol

Os na wnaethoch chi ddychwelyd i’r doc yn ôl y disgwyl, pwy fyddai’n galw am gymorth? Ac a fyddai modd iddynt roi digon o wybodaeth i wylwyr y glannau ddod o hyd i chi? Dyma sut mae ymuno â chynllun sy’n rhoi eich manylion i wylwyr y glannau ledled y DU - gallai’r wybodaeth hon arbed eich bywyd mewn argyfwng.

Sut mae’r cynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol (CG66) yn gweithio

Caiff y cynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol (CG66) ei redeg gan Yr Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau (MCA). Mae’n rhoi gwybodaeth hollbwysig am eich cwch i wylwyr y glannau mewn argyfwng. Hyd yn oed os byddwch yn rhoi gwybod i ffrindiau neu aelodau o’ch teulu lle’r ydych yn mynd ar eich cwch, mae’n bosibl na fyddant yn gwybod gyda phwy y dylent gysylltu oni fyddwch yn dychwelyd. Mae’n bosibl na fydd ganddynt ddigon o fanylion am eich cwch a lle rydych chi er mwyn dweud wrth wylwyr y glannau sut mae dod o hyd i chi.

Os ydych chi wedi cofrestru eich cwch gyda’r cynllun CG66, gallwch gael cymorth os byddwch yn mynd i drafferthion. Y cwbl y bydd yn rhaid i chi ei wneud fydd gwneud galwad Mayday, lle byddwch yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol am eich cwch a’ch sefyllfa. Gall gwylwyr y glannau gael mwy o wybodaeth am eich cwch, megis sut mae’n edrych a’r offer diogelwch rydych chi’n eu cario, oddi ar gronfa ddata’r CG66. Mae’r wybodaeth hon yn helpu gwylwyr y glannau i ymateb i’ch galwad.

Gall Canolfannau Cydlynu Achub ar y Môr weld cronfa ddata’r CG66 ledled y DU.

Sut mae ymuno â’r cynllun CG66

Mae ymuno â’r CG66 am ddim a gallwch gofrestru ar-lein.

Hefyd, gallwch argraffu ffurflen gofrestru a’i hanfon i’ch Canolfan Cydlynu Achub ar y Môr agosaf. Neu gallwch gael ffurflen yn unrhyw un o’r lleoliadau canlynol:

  • canolfan Gwylwyr Glannau Ei Mawrhydi
  • Swyddfa Forol yr Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau
  • Tŷ cychod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub
  • eich marina neu glwb hwylio lleol

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gofrestru eich manylion

Pan fyddwch yn cofrestru, caiff eich manylion eu rhoi yng nghronfa ddata CG66 a’u cadw yno am ddwy flynedd. Defnyddir yr wybodaeth at ddibenion chwilio ac achub yn unig, ac at ddibenion diogelwch. Ar ôl dwy flynedd, bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion neu cânt eu tynnu oddi ar y gronfa ddata.

Os bydd manylion eich cwch neu eich manylion cyswllt yn newid, dylech ddiweddaru eich manylion yng nghronfa ddata CG66 er mwyn sicrhau bod gan wylwyr y glannau yr wybodaeth gywir. Os byddwch yn cael gwared ar eich cwch, rhowch wybod i’ch Canolfan Cydlynu Achub ar y Môr leol.

Pan fyddwch yn cofrestru, bydd yn rhaid i chi ddarparu manylion rhywun ar y lan. Sicrhewch fod yr unigolyn hwn yn gwybod eich bod wedi cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau a rhowch fanylion y Ganolfan Cydlynu Achub ar y Môr lle gwnaethoch restru eich CG66 iddynt. Yna gallant gysylltu â gwylwyr y glannau os byddant yn poeni am eich diogelwch.

Additional links

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Fire Kills

Find out how to prevent and deal with fires on your boat

Allweddumynediad llywodraeth y DU