Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae atal problemau ar fwrdd cychod pleser

Gall gwybod beth i’w wneud pan mae pethau’n mynd o chwith ar fwrdd eich cwch pleser olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Dysgwch sut mae atal rhywun rhag syrthio dros ochr y cwch a sut mae delio â’r sefyllfa pe bai hynny’n digwydd, a beth i’w wneud os bydd yr injan yn methu.

Byddwch yn barod ac osgowch ddamweiniau ar fwrdd eich cwch

Helpwch i atal pethau rhag mynd o chwith pan fyddwch yn defnyddio eich cwch pleser drwy:

  • gynllunio’n ofalus
  • dilyn y rheoliadau diogelwch
  • gwneud yn siŵr bod yr offer diogelwch angenrheidiol ar fwrdd y cwch, ei fod mewn cyflwr da a bod pawb yn gwybod sut mae ei ddefnyddio

Darllenwch y cyngor isod a gweler 'Rheoliadau diogelwch ar gyfer cychod pleser' am ragor o wybodaeth.

Gwisgo’n addas ar gyfer yr amgylchiadau

Mae siacedi achub yn achub bywydau!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch criw yn gwisgo siaced achub bob amser

Gwisgwch offer addas – ni fydd criw oer a gwlyb yn gallu gweithredu’n effeithiol. Dewiswch ddillad wedi’u gwneud o ddeunydd sy’n anadlu – maent yn dal aer cynnes ac yn sychu’n gyflym os ydynt yn gwlychu. Mae lliwiau llachar a stribedi adlewyrchol hefyd yn ddefnyddiol.

Dylai’ch haen allanol fod wedi’i chynllunio ar gyfer tywydd garw. Er mwyn cadw’r dŵr allan a gwres y corff i mewn, gwisgwch:

  • drowsus sy’n cyrraedd y frest
  • siaced â choler uchel, cwfl a llewys storm
  • menig môr – byddant yn amddiffyn eich dwylo rhag llosgiadau rhaff
  • penwisg thermol

Gwisgo esgidiau addas

Bydd esgidiau hwylio’n cadw’ch traed yn sych ac yn eich atal rhag llithro ar y dec. Mae esgidiau dec hefyd yn gafael yn dda yn y dec pan fyddwch yn symud o gwmpas – gwnewch yn siŵr eu bod yn dal dŵr.

Gwnewch yn siŵr bod eich criw yn gwybod beth i’w wneud

Dywedwch wrth bawb ar fwrdd y cwch lle mae’r offer diogelwch wedi’i gadw, ac eglurwch:

  • sut mae defnyddio siacedi achub a harneisi
  • sut mae delio â defnyddiau fflamadwy a sut / pa bryd i ddiffodd y nwy
  • beth i’w wneud wrth angori
  • sut mae gweithio’r radio ac anfon neges o gyfyngder

Gwybod sut mae delio â salwch môr

Gall salwch môr fod yn beryglus os ydych yn sâl ac yn methu rheoli’r cwch yn effeithiol. Gallwch baratoi drwy gymryd meddyginiaeth cyn cychwyn ar eich taith. Darllenwch gyfarwyddiadau’r feddyginiaeth rhag ofn bod ganddynt sgil effeithiau posibl, a all gynnwys syrthni. Cadwch fara neu fisgedi plaen a dŵr ar fwrdd y llong i’w bwyta os byddwch yn sâl.

Os byddwch yn sâl, peidiwch â gwyro dros ochr y cwch - defnyddiwch fwced yn y caban.

Gwybod beth i’w wneud os bydd rhywun yn syrthio dros yr ochr

I atal rhywun rhag syrthio dros yr ochr:

  • daliwch afael mewn rhywbeth sefydlog ar y cwch, os gallwch
  • ceisiwch osgoi gwneud rhywbeth sy’n golygu perygl o ddisgyn dros yr ochr, fel cael ‘gwagiad’ dros yr ochr (defnyddiwch fwced)
  • gwisgwch harnais sy’n wedi’i chysylltu wrth rywbeth sy’n ddigon cryf i ddal eich pwysau
    Gwiriwch eich lleoliad a hyd y lein pan fyddwch yn cysylltu’ch harnais. Gwnewch yn siŵr nad yw’r lein yn rhy hir fel y bydd perygl i chi gael eich tynnu i’r llafnau o dan y cwch pe baech yn syrthio dros yr ochr.

Os oes rhywun yn syrthio dros yr ochr, dylech wneud y canlynol, ar unwaith:

  • tynnu sylw drwy weiddi, "Man overboard!"
  • taflu bwi achub at y person a signal mwg oren sy’n arnofio – os yw’n olau dydd
  • taflu bwi achub gyda golau arno – os yw’n nos ac os oes un ar y cwch
  • dweud wrth aelod o’r criw am gadw llygad a phwyntio at y person yn y dŵr yn ddi-baid
  • hysbysu’r gwasanaethau brys.

Os mai chi yw’r unig berson ar ôl ar fwrdd y cwch, arhoswch ar y dec a pheidiwch â cholli golwg ar y person yn y dŵr. Yn y nos, gallwch ddefnyddio fflêr barasiwt wen (os oes gennych un) i oleuo cyffiniau’r cwch. Bydd hefyd yn goleuo unrhyw dâp adlewyrchol ar ddillad y person.

Os na allwch weld y person yn y dŵr, neu os oes gennych amheuon ynghylch eich gallu i’w achub, anfonwch neges gyfyngder ar unwaith. Os byddwch yn llwyddo i achub y person o’r dŵr, rhowch wybod i’r gwasanaethau brys ar unwaith.

Os byddwch yn syrthio dros ochr y cwch, peidiwch â chynhyrfu a

  • gwaeddwch neu chwibanwch
  • ysgogwch eich siaced achub
  • wynebwch y cwch
  • ysgogwch unrhyw oleuadau sydd gennych
  • gwnewch eich hun yn belen fel y byddwch yn colli llai o wres y corff

Beth i’w wneud os bydd injan y cwch yn methu

Cynghorion i atal yr injan rhag methu

I atal yr injan rhag methu gwnewch yn siŵr:

  • bod gennych ddigon o danwydd cyn cychwyn
  • eich bod chi’n archwilio’r injan yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod mewn cyflwr da

Mae hidlydd tanwydd wedi blocio’n gallu achosi i injan fethu. Os yw wedi blocio bydd yr injan yn colli pŵer ac yna’n stopio. Os bydd hyn yn digwydd, newidiwch yr hidlydd a cheisiwch aildanio’r injan.

Bydd hidlydd mewnbibell dŵr môr wedi blocio’n achosi i’r injan orboethi mewn dim o dro a gall achosi i’r injan fethu. Gwiriwch yr hidlyddion a’u clirio os ydynt wedi blocio. Gwnewch yn siŵr bod y pwmp yn gweithio’n iawn ac nad oes gollyngiadau yn y system.

Beth ddylech ei wneud os oes tân ar fwrdd y cwch

Os oes tân yn cynnau ar eich cwch, cysylltwch â’r gwasanaethau brys a dweud wrthynt:

  • bod eich cwch ar dân
  • eich lleoliad
  • faint o bobl sydd ar fwrdd y cwch

Dilynwch y ddolen isod am gyngor ar atal a delio â thanau ar gychod.

Additional links

Cofrestru eich cwch gyda gwylwyr y glannau

Ymunwch â chynllun gwybodaeth er diogelwch gwirfoddol Gwylwyr y Glannau EM - os ydych yn dod i drafferthion, bydd gan wylwyr y glannau gwybodaeth ynghylch eich cwch a fydd yn gymorth i’ch canfod chi

Register your boat with the coastguard

Join HM Coastguard's voluntary safety identification scheme - if you get into difficulty, the coastguard will have information about your boat to help identify you

Allweddumynediad llywodraeth y DU