Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio’ch cwch ar ddyfrffyrdd mewndirol

Mae dros 4,000 o filltiroedd o ddyfrffyrdd yn y DU ac mae miliynau o ymwelwyr yn eu mwynhau bob blwyddyn. Os hoffech chi hwylio cwch ar y dyfrffyrdd hyn, bydd angen i chi wybod sut mae gwneud cais am drwydded fordwyo a sut mae cydymffurfio â’r Cynllun Diogelwch Cychod.

Trwyddedu’ch cwch i’w ddefnyddio ar ddyfrffyrdd mewndirol

Rhaid i chi gael trwydded fordwyo cyn y cewch hwylio’ch cwch pleser ar ddyfrffyrdd mewndirol, fel camlesi neu afonydd. Mae hyn wir am bob math o gwch, gan gynnwys:

  • cychod modur
  • cychod hwylio
  • cychod cul
  • cychod agored, fel canwod neu gychod rhwyfo

Mae sawl math o drwydded fordwyo ar gael, o drwyddedau blynyddol i rai tymor byr ar gyfer ymwelwyr. Bydd y math o drwydded fydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar ba fath o gwch sydd gennych ac ym mhle ac am ba hyd yr ydych am ei hwylio. Os oes angen trwydded ar gyfer eich cwch a’ch bod heb gofrestru am un, gallech gael eich dirwyo.

Mae’r rhan fwyaf o’r dyfrffyrdd yn cael ei rheoli gan awdurdodau mordwyo. Bydd angen i chi gysylltu â’r awdurdod mordwyo perthnasol ar gyfer y dŵr yr ydych am hwylio arno i gael cyngor ar ofynion y drwydded. Y ddau brif awdurdod sy’n gofalu am gamlesi a dyfrffyrdd y DU yw Dyfrffyrdd Prydain ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae Llynnoedd Norfolk yn cael eu rheoli gan y Broads Authority. Ceir hefyd nifer o awdurdodau llai. I gael manylion cyswllt awdurdodau mordwyo ar gyfer dyfrffyrdd sydd ddim yn cael eu rheoli gan Ddyfrffyrdd Prydain, ewch i wefan y Cynllun Diogelwch Cychod.

Gwnewch yn siŵr bod gennych drwydded y Cynllun Diogelwch Cychod

Os ydych am hwylio’ch cwch ar ddyfrffyrdd mewndirol sy’n cael eu rheoli gan Ddyfrffyrdd Prydain neu Asiantaeth yr Amgylchedd, bydd yn rhaid i chi gael tystysgrif y Cynllun Diogelwch Cychod (BSS). Bydd yn rhaid i chi anfon hon gyda’ch cais am drwydded fordwyo. Yr unig gychod nad oes angen y dystysgrif hon ar eu cyfer yw cychod agored preifat, fel canwod a chychod rhwyfo.

Er mwyn cael tystysgrif BSS, bydd yn rhaid i chi ddangos i arolygydd y BSS bod eich cwch yn cyrraedd gofynion diogelwch penodol ar restr wirio’r BSS. Mae’r rhestr wirio hon wedi’i rhannu’n ddau gategori:

  • archwiliadau gorfodol
  • archwiliadau cynghorol

Archwiliadau gorfodol

Bydd yn rhaid i’r cwch gydymffurfio â’r holl archwiliadau gorfodol cyn y cewch wneud cais am drwydded fordwyo. Mae’r rhestr wirio orfodol yn amlinellu gofynion diogelwch hanfodol ar gyfer eich cwch, fel gwneud yn siŵr eich bod wedi cymryd camau penodol i atal tanau a ffrwydradau.

Archwiliadau cynghorol

Mae’r rhestr wirio gynghorol yn amlinellu mesurau diogelwch sy’n cael eu cyfrif yn arferion gorau ar gyfer hwylio. Nid oes yn rhaid i gychod preifat gydymffurfio â’r eitemau ar y rhestr hon er mwyn cael trwydded, ond argymhellir yn gryf eu bod yn gwneud hynny. Byddwch chi a’ch criw yn cael llawer mwy o bleser ac yn teimlo’n fwy hyderus wrth hwylio’ch cwch y gwyddoch sy’n cyrraedd y safonau diogelwch uchaf.

Mae rhagor o wybodaeth am ofynion y BSS a lle mae dod o hyd i archwiliwr ar gael ar wefan y BSS.

Perchen ar gwch masnachol ar ddyfrffyrdd mewndirol neu’n gweithredu arnynt

Bydd angen i chi gydymffurfio â chod ymarfer os ydych yn berchennog ar gwch masnachol ar ddyfrffyrdd mewndirol neu’n ei weithredu arnynt, er enghraifft

  • cwch teithiau
  • tacsi dŵr
  • cwch cludo nwyddau

Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth

Canllaw ar gategoreiddio dyfrffyrdd mewndirol

Os ydych yn defnyddio cwch ar ddyfrffyrdd mewndirol yn y DU, mae’n werth i chi wybod sut mae dyfrffyrdd wedi’u categoreiddio. Mae’r gwahanol gategorïau’n dangos pa mor ddwfn yw’r dŵr a / neu pa mor uchel y gellid disgwyl i’r tonnau gyrraedd.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn deall y categorïau hyn os ydych yn gweithredu cychod yn fasnachol, yn enwedig os yw’r cychod yn cludo teithwyr. Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau penodol sy’n ddibynnol ar ble’r ydych yn gweithredu.

Dilynwch y ddolen isod am ganllaw manwl gan yr Asiantaeth Morol a Gwylwyr y Glannau ar sut y mae dyfrffyrdd mewndirol wedi’u categoreiddio.

Additional links

Atal problemau ar fwrdd llong

Cael gwybod sut i osgoi damweiniau ac atal problemau ar fwrdd eich cwch pleser

Allweddumynediad llywodraeth y DU