Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau fferi a chychod afon

P'un ai a ydych yn mynd dramor ynteu'n mynd i'r gwaith, mae'n bosib bod gwasanaeth fferi neu gychod afon y gallwch ei ddefnyddio yn hytrach na theithio mewn car, ar drên neu mewn awyren. Os ydych yn trefnu trip arbennig neu wyliau, efallai yr hoffech logi cwch hyd yn oed.

Gwasanaethau fferi

Mae gwasanaethau fferi rhyngwladol yn rhedeg o borthladdoedd y DU i:

  • Ffrainc
  • Gweriniaeth Iwerddon
  • Sbaen
  • Gwlad Belg
  • Sgandinafia
  • yr Iseldiroedd

Ceir gwasanaethau fferi lleol hefyd sy'n rhedeg i:

  • Ynysoedd y Sianel
  • Ynys Manaw
  • Ynysoedd y Scilly
  • Ynys Wyth
  • Ynysoedd yr Alban

I ddod o hyd i wasanaeth fferi ar gyfer siwrnai o'r DU i wlad arall, gallech geisio rhoi 'UK ferry service' a'r lleoliad sydd gennych dan sylw mewn peiriant chwilio. Dylai hyn ddangos gwefannau darparwyr gwasanaeth ynghyd â llwybrau gwahanol.

I deithio o fewn y DU, gall y Cynlluniwr Taith awgrymu amrywiaeth o lwybrau gyda char neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau fferi a chychod afon pan fydd yn berthnasol.

Cychod cymudo ar afon

Ceir gwasanaethau cymudo ar afon yn:

  • Llundain - yn cael ei redeg gan Adran Drafnidiaeth Llundain
  • Lerpwl - yn cael ei redeg gan Mersey Ferries

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ac amserlenni ar gyfer gwasanaethau ar wefannau TFL a Mersey Ferry.

Cyfrifoldeb dros ddyfrffyrdd Prydain

Yng Nghymru a Lloegr, mae gan Gangen Dyfroedd Mewndirol yr Adran Forol a Dyfrffyrdd o fewn Defra gyfrifoldeb cyffredinol dros y dyfrffyrdd. Yn yr Alban, Gweithrediaeth yr Alban sy'n gyfrifol am hynny.

Mae gwefan Defra yn rhoi eglurhad manwl o bolisïau'r llywodraeth ar gyfer dyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru a Lloegr a sut y gofelir am y dyfrffyrdd.

Cymdeithas Awdurdodau Mordwyo Mewndirol (AINA)

AINA yw'r corff diwydiannol ar gyfer holl ddyfrffyrdd ledled y DU.

Dyma brif aelodau AINA:

  • Dyfrffyrdd Prydain
  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Awdurdod Broads
  • cynghorau lleol

Eich dyfrffordd leol

Os hoffech gael gwybodaeth amgylcheddol am eich dyfrffordd leol neu os oes arnoch eisiau rhoi gwybod am ddyfrffordd sydd wedi'i llygru, gweler ‘Ansawdd amgylcheddol yn eich ardal’.

Llogi cwch

Os byddwch yn penderfynu llogi cwch i deithio – p'un ai a oes arnoch eisiau cwch hwylio mawr ynteu gwch camlas – bydd angen i chi wybod sut mae ei hwylio'n ddiogel. Mae Dyfrffyrdd Prydain wedi cyhoeddi taflen ar God y Dyfrffyrdd, sy'n ymdrin â chanllawiau diogelwch sylfaenol ar gyfer y rheini sy'n anghyfarwydd â hwylio. Gallwch lwytho'r daflen i lawr oddi ar wefan Dyfrffyrdd Prydain.

Mae gwefan Dyfrffyrdd Prydain hefyd yn cynnwys adran ar hwylio er mwynhad ar gamlesi, afonydd a llynnoedd Prydain.

Additional links

Atal problemau ar fwrdd llong

Cael gwybod sut i osgoi damweiniau ac atal problemau ar fwrdd eich cwch pleser

Allweddumynediad llywodraeth y DU