Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Caiff dyfrffyrdd Prydain eu rheoli gan Ddyfrffyrdd Prydain, Awdurdod y Broads, Asiantaeth yr Amgylchedd, cynghorau lleol a'r Asiantaeth Forwrol ac Arfordirol. Dewch i wybod wrth bwy y dylid cwyno am ddyfrffordd neu wasanaeth.
Bydd gan bob cwmni ei drefn gwyno ei hun. Fodd bynnag, fel rheol gyffredinol, os na ellir delio â'ch cwyn ar unwaith dylech ysgrifennu at y cwmni dan sylw cyn gynted â phosibl.
Mae Dyfrffyrdd Prydain yn gyfrifol am dros hanner dyfrffyrdd mewndirol Prydain. Mae'n trwyddedu'r cychod sy'n defnyddio'r dyfrffyrdd ac yn gofalu am wasanaethau a chyfleusterau, gan gynnwys llwybrau tynnu, cronfeydd ac adeiladau.
Yn aml, bydd hi'n bosib datrys cwyn trwy gysylltu ag un o staff Dyfrffyrdd Prydain yn uniongyrchol. Fodd bynnag, os yw'ch cwyn yn ddifrifol neu'ch bod yn teimlo nad ydy hi wedi cael ei thrin yn foddhaol, mae gan Ddyfrffyrdd Prydain drefn gwyno dau gam.
Dylech ysgrifennu at reolwr cyffredinol y ddyfrffordd dan sylw i ddechrau. Os nad ydych yn fodlon gyda'r ymateb gallwch ysgrifennu at y tîm cysylltiadau allanol canolog. Byddant yn sicrhau y delir â'ch cwyn gan rywun nad oes ganddynt gyfrifoldeb rheolaeth uniongyrchol dros y ddyfrffordd dan sylw.
Mae Awdurdod y Broads yn gyfrifol am gadwraeth, cynllunio, adloniant a dyfrffyrdd yn Llynnoedd Norfolk.
Os bydd eich cwyn yn ymwneud â dyfrffordd neu ddatblygiad arfaethedig gan Awdurdod y Broads, dylech ffonio neu ysgrifennu at Awdurdod y Broads.
Os nad ydych yn fodlon gallwch ddechrau ar drefn gwyno ffurfiol. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd cyfarwyddwr yn adolygu eich cwyn ac yn penderfynu a ellir ei chyfiawnhau.
Os ydych yn teimlo nad yw eich cwyn wedi'i datrys yn iawn o hyd gallwch fynd â hi at y Prif Weithredwr. Byddant yn ei hadolygu yn ddiduedd, gyda chymorth gan y Swyddog Monitro neu'r pwyllgor perthnasol o bosibl. Bydd penderfyniad y Prif Weithredwr i dderbyn neu wrthod cwyn yn derfynol.
Ar gyfer cwynion am ddiogelwch ar y môr neu am yr amgylchedd morol yn nyfroedd y DU, dylech ffonio neu ysgrifennu at Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA).
Os na fyddwch yn fodlon gyda'r ymateb, gallwch ysgrifennu at reolwr gofal cwsmeriaid yn y swyddfa ranbarthol berthnasol, neu yn y pencadlys yn Southampton. Os na fyddwch yn cael ateb boddhaol ar ôl hyn, gallwch ysgrifennu at Brif Weithredwr yr MCA.
Os na chaiff dyfrffordd ei rhedeg gan unrhyw un o'r mudiadau uchod, y ffordd orau i ddechrau fyddai ysgrifennu at reolwr cyffredinol yr awdurdod sy'n rheoli'ch dyfrffordd. Os nad ydych yn gwybod pwy yw hwnnw, cysylltwch â'ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth.
Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ar ôl dilyn yr holl weithdrefnau perthnasol, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon y Dyfrffyrdd ar gyfer cwynion ynghylch Dyfrffyrdd Prydain.
Ar gyfer cwynion ynghylch Awdurdod y Broads a dyfrffyrdd eraill, cysylltwch â’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol. Gallant ymchwilio i unrhyw gwynion o gamweinyddu gan yr awdurdod dan sylw. Bydd yr Ombwdsmon yn rhoi gwybod i chi p'un a all ymchwilio i'ch cwyn ai peidio ac efallai y bydd yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth. Unwaith y bydd yr adroddiad wedi'i orffen byddwch yn cael copi o'r canfyddiadau.